{"id":917,"date":"2026-09-01T10:58:33","date_gmt":"2026-09-01T10:58:33","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=917"},"modified":"2026-09-01T10:58:33","modified_gmt":"2026-09-01T10:58:33","slug":"bod-yn-gryf-yn-yr-hirdymor","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/bod-yn-gryf-yn-yr-hirdymor\/","title":{"rendered":"Bod yn gryf yn yr hirdymor"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L7-Staying-strong-Wv1.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L7-Staying-strong-Wv1.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Rydym yn gwybod bod cynnig gofal personol i unigolyn sydd \u00e2 dementia yn effeithio ar iechyd a lles gofalwyr. Ychydig iawn o bobl sydd wedi&#8217;u paratoi i wneud hyn. Mae hunanofal yn hollbwysig i ofalwyr.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Meddyliwch beth fydd y staff gweini yn ei ddweud ar awyren yn ystod y cyhoeddiad diogelwch: \u201cGwisgwch eich mwgwd ocsigen eich hun yn gyntaf cyn cynorthwyo eraill.\u201d Os na fyddwch yn gofalu amdanoch chi&#8217;ch hun, byddwch chi&#8217;n cyfyngu ar beth allwch chi ei wneud i eraill.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Ar y dudalen hon rydym yn awgrymu pethau y gallwch eu gwneud i&#8217;ch helpu I&#8217;r dyfodol.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"L7topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#lookingafterselfW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#lookingafterselfW\">Gofalu amdanoch chi&#8217;ch hun<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#advicehelpW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#advicehelpW\">Gofyn am gyngor a chymorth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#carerassessW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#carerassessW\">Asesiad Gofalwyr<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#respiteW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#respiteW\">Seibiannau o ofalu (gorffwys)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#familyfriendsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#familyfriendsW\">Teulu a ffrindiau: Rhannu&#8217;r gofal<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#homecareW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#homecareW\">Asiantaethau gofal yn y cartref a gweithwyr gofal yn y cartref<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#workingW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#workingW\">Gweithio wrth ofalu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#professionalsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#professionalsW\">Gweithwyr Proffesiynol<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 id=\"lookingafterselfW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-4\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Gofalu amdanoch chi&#8217;ch hun<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rywfaint o awgrymiadau i&#8217;w hystyried:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dylech oedi am ychydig ac anadlu&#8217;n araf ac yn bwrpasol, hyd yn oed os bydd hynny am ddim ond dau funud o\u2019r dydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd gennych ychydig yn fwy o amser, hyd yn oed os mai dim ond unwaith yr wythnos y bydd hynny, dewiswch rywbeth sy&#8217;n eich llonyddu ac yn eich bywiogi \u2013 meddylgarwch, ioga, myfyrio, cerdded yn yr awyr agored, mynd am baned o goffi, unrhyw beth a wnaiff eich helpu i ymdopi \u00e2&#8217;r her nesaf.<\/li>\n\n\n\n<li>Ymunwch \u00e2 grwpiau gofalwyr a manteisiwch ar unrhyw gyfleoedd i ddysgu a chael hyfforddiant i wella&#8217;ch sgiliau a magu hyder yn eich gallu i gysylltu a chyfathrebu \u00e2&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y llyfryn hwn rydym yn awgrymu pethau y gallwch eu gweithredu i&#8217;ch helpu i barhau i fod yn gryf yn y hir dymor.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"advicehelpW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-5\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Gofyn am gyngor a chymorth<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r rhan fwyaf ohonom yn cas\u00e1u gofyn am gymorth a chyngor. Bydd llawer o ofalwyr yn teimlo na fyddant yn dymuno creu trafferth i weithwyr proffesiynol prysur neu efallai y byddant yn teimlo eu bod yn bradychu&#8217;r unigolyn y maent yn gofalu amdano drwy siarad ag eraill amdano. Gall fod yn anodd cyfaddef bod pethau&#8217;n anodd i chi. Fodd bynnag, nid yw cynorthwyo unigolyn arall \u00e2 gofal personol yn hawdd. Nid yw llawer o bobl wedi cael hyfforddiant ynghylch hynny, a byddant yn parhau drwy lwyddo a methu a defnyddio gwybodaeth am eu perthynas \u00e2&#8217;r unigolyn y maent yn ei gynorthwyo. Gall trafod eich anawsterau yn ddidwyll sicrhau cymorth gwell i chi a cheisio unioni unrhyw broblemau sy&#8217;n sail i&#8217;r anawsterau yr unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano. Bydd bob amser yn well gwneud hynny cyn i bethau fynd yn fl\u00ear. Os na fyddwch yn hysbysu eraill am anawsterau, gall hynny olygu na chewch chi na&#8217;r unigolyn y cymorth priodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Cynghorion ynghylch gofyn am gymorth a chyngor<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os yw problem benodol yn eich poeni neu&#8217;n bendant os ydych chi&#8217;n teimlo eich bod chi neu&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano mewn perygl, siaradwch \u00e2 rhywun, er enghraifft, ffrind da neu aelod o&#8217;ch teulu.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch, pe bai ffrind da i chi yn disgrifio&#8217;r hyn rydych chi&#8217;n ei brofi, pa gyngor fyddech chi&#8217;n ei gynnig iddo\/iddi?<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch fod eich meddyg teulu yn gwybod bod gennych gyfrifoldebau gofalu. Mae hynny&#8217;n golygu y dylid eich blaenoriaethu wrth ofyn am gymorth neu apwyntiadau. Dylai hynny ddigwydd hyd yn oed os ydych chi a&#8217;r sawl rydych chi&#8217;n ei gynorthwyo yn gleifion mewn practisau meddygon teulu gwahanol.<\/li>\n\n\n\n<li>Hefyd, sicrhewch fod eich cyflogwr yn gwybod bod gennych gyfrifoldebau gofalu. Efallai y gallant gynnig rhagor o gymorth i chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae elusen Carers UK yn cynnig adnoddau defnyddiol ar gyfer gofalwyr sy&#8217;n gweithio, e.e. gweithio oriau hyblyg, absenoldeb gofalwyr (gan gynnwys newidiadau diweddar yn y gyfraith). Edrychwch ar wefan Carers UK i gael rhagor o wybodaeth <a href=\"https:\/\/www.carersuk.org\/cy\/wales\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.carersuk.org\/cy\/wales\/\">www.carersuk.org\/cy\/wales\/<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan elusen Dementia Carers Count dudalennau gwe ar Ganolfan Gofalwyr Rithiol a llinell gymorth. Mae&#8217;r elusen hefyd yn cynnig cymorth trwy wasanaeth cwnsela i ofalwyr. Edrychwch a gwefan <strong><a href=\"http:\/\/www.dementiacarers.org.uk\" data-type=\"link\" data-id=\"www.dementiacarers.org.uk\">www.dementiacarers.org.uk&nbsp;<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Mae elusen (TiDE) yn cynnig sesiwn o&#8217;r enw &#8216;You can\u2019t pour from an empty cup&#8217; i ofalwyr. Ceir fwy o wybodaeth ar wefan <strong><a href=\"http:\/\/www.tide.uk.net\" data-type=\"link\" data-id=\"www.tide.uk.net\">www.tide.uk.net<\/a><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\" style=\"color:#025530\"><strong>Fel arall, i gael cyngor proffesiynol, ffoniwch unrhyw un o&#8217;r llinellau cymorth hyn: Cymdeithas Alzheimer 03300 947400; Llinell Gymorth Dementia Cymru 0808 808 2235; Carers Wales 0808 808 7777; Nyrs Admiral Dementia UK 0800 888 6678; Dementia Carers Count 0800 652 1102. Ni wnaiff unrhyw beth y gwnewch chi ei drafod beri syndod na theimladau annifyr i&#8217;r bobl a wnaiff ateb eich galwad.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai eich bod chi&#8217;n meddwl mai chi yw&#8217;r unig un sydd wedi profi&#8217;r broblem y byddwch yn ei chodi, ond gallwn eich sicrhau y bydd y bobl sy&#8217;n rhedeg y llinellau cymorth hyn yn debygol o fod wedi&#8217;i chlywed eisoes. Efallai na fyddant yn gallu datrys y broblem, ond yna aml, bydd trafod hynny yn fuddiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych chi&#8217;n ofni am eich diogelwch, mae&#8217;n bwysig iawn eich bod yn cael cymorth a chefnogaeth. Yn gyntaf, dylech drio mynd allan o&#8217;r y sefyllfa er mwyn galw&#8217;r heddlu (999).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os byddwch chi&#8217;n teimlo y gallech chi niweidio&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano \u2013 neu os byddwch chi wedi niweidio&#8217;r unigolyn \u2013 cysylltwch \u00e2&#8217;ch gweithiwr cymdeithasol neu&#8217;ch meddyg teulu i gael cyngor a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y clip byr canlynol, mae Roy yn siarad am ei brofiadau o gael cyngor a chymorth wrth ofalu am ei wraig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Crossing the Line - advice and help\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/DHI1MP05dlE?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"carerassessW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-8\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Asesiad Gofalwyr<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw unigolyn yn gofalu am rywun arall yn rheolaidd heb d\u00e2l, mae ganddo hawl i gael Asesiad Gofalwr mewn perthynas \u00e2&#8217;i anghenion ei hun. Yng Nghymru a Lloegr, adran Gofal Cymdeithasol Oedolion yr Awdurdod Lleol sy&#8217;n cynnal y rhain. Weithiau, bydd Awdurdod Lleol yn gofyn i sefydlaid or trydydd sector fel Age Cymru i wneud y asesiad. Bydd yr asesiad yn sgwrs ag unigolyn hyfforddedig i archwilio&#8217;ch sefyllfa ac ystyried sut mae gofalu&#8217;n effeithio arnoch chi. Bydd yr asesydd hefyd yn holi a oes unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch chi neu unrhyw gymorth y gellir ei gynnig i&#8217;ch helpu chi i barhau i ofalu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y GIG a Gofal Cymdeithasol (<strong><a href=\"http:\/\/www.nhs.uk\" data-type=\"link\" data-id=\"www.nhs.uk\">www.nhs.uk<\/a><\/strong>). Chwiliwch am y canllaw gofal cymdeithasol a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Mae nifer o elusennau yn cynnig cymorth a chyngor am ddim ynghylch Asesiadau Gofalwyr sef: Carers UK&nbsp;0808 808 7777; Age UK 0800 678 1602 a Independent Age&nbsp;0800 319 6789<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gyfer cryfhau hawliau gofalwyr di-d\u00e2l yng Nghymru, gan roi mynediad iddynt at wybodaeth a chyngor, Asesiadau Anghenion Gofalwyr, a chymorth i\u2019w helpu i gynnal bywydau iach a boddhaus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r sefyllfa i ofalwyr yn yr Alban yn wahanol oherwydd Deddf Gofalwyr (Yr Alban) 2016, sy&#8217;n cynnig dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnig cymorth i ofalwyr, yn seiliedig ar anghenion dynodedig gofalwyr sy&#8217;n bodloni&#8217;r meini prawf cymhwystra lleol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae hawl i gynllun cymorth i ofalwyr sy&#8217;n oedolion a datganiad i ofalwyr ifanc i nodi eich anghenion a&#8217;ch deilliannau personol. Mae hyn ar gael i ofalwyr o bob oedran, ni waeth faint o oriau o ofal y byddant yn eu cynnig.<\/li>\n\n\n\n<li>Gofyniad i awdurdodau lleol gynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyngor i ofalwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Ngogledd Iwerddon, gellir canfod gwybodaeth am Asesiadau Gofalwyr ar wefan Gwasanaethau Llywodraeth NI Direct <strong><a href=\"http:\/\/www.nidirect.gov.uk\" data-type=\"link\" data-id=\"www.nidirect.gov.uk\">www.nidirect.gov.uk<\/a> <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"respiteW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-10\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Seibiannau o ofalu (gorffwys)<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cael seibiant o ofalu yn hanfodol i gynnal eich iechyd a&#8217;ch lles eich hun, ond gall fod yn anodd cyflawni hynny, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd llawer o ofalwyr yn gor flino ar brydiau a byddant yn ei chael hi&#8217;n anodd gwybod pwy i droi am gefnogaeth a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall ceisio rhoi trefniant mewn lle cyn i chi deimlo felly eich helpu chi a&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n ei gynorthwyo. Gall hyd yn oed neilltuo ychydig bach o amser i chi&#8217;ch hun i gael seibiant meddyliol neu gorfforol eich helpu i gynnig gofal gwell yn y tymor hwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ceir sawl gwahanol fath o seibiant. O ddydd i ddydd, gall neilltuo cyfnod byr i fynd am dro, gwneud hobi neu eistedd a gwylio&#8217;r adar helpu i leihau straen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am gyfnodau hirach, gallech ystyried gofyn i berthynas neu ffrind\/cymydog dibynadwy a allant gynorthwyo, naill ai&#8217;n uniongyrchol \u00e2&#8217;r unigolyn neu drwy ymgymryd \u00e2 thasgau eraill i ryddhau rhywfaint o amser.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"727\" height=\"522\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Baking.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-291\" style=\"width:387px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Baking.png 727w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Baking-300x215.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 727px) 100vw, 727px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai elusennau\u2019n cynnig ymweliadau cyfeillio i dreulio amser yn gwneud gweithgareddau cymdeithasol a bydd hynny&#8217;n caniat\u00e1u amser i ofalwyr wneud rhywbeth drostynt hwy eu hunain gartref neu fynd allan. Mae gwybodaeth leol ar gael trwy gynghorwyr gofal cymdeithasol neu gynghorwyr dementia lleol. Efallai y gallai&#8217;r unigolyn rydych yn gofalu amdano ymweld \u00e2 chaffi neu fynychu cyfarfodydd gr\u0175p sy&#8217;n cynnig cymorth i bobl sydd \u00e2 dementia. Weithiau, bydd pobl yn teimlo&#8217;n bryderus yngl\u0177n \u00e2 rhoi cynnig ar rywbeth newydd, felly byddai ymweliad gyntaf gyda&#8217;ch gilydd yn caniat\u00e1u ichi ganfod a fyddai&#8217;n addas i chi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd canfod cludiant i fynychu cyfarfodydd a drefnir yn broblem i rai pobl, ac mae hynny&#8217;n broblem gyfarwydd i&#8217;r bobl sy&#8217;n rhedeg grwpiau. Gofynnwch i drefnwyr grwpiau a oes unrhyw gymorth y gallant ei gynnig neu a ydynt yn cydweithio \u00e2 chwmn\u00efau tacsis lleol sydd \u00e2 ymwybodaeth dda o anghenion pobl sydd \u00e2 dementia. Gallai hynny hwyluso pethau i chi wrth gynllunio teithiau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae opsiynau mwy ffurfiol hefyd ar gael trwy Asesiad Gofalwyr, a ddylai ystyried eich iechyd personol eich hun gan gynnwys eich anghenion corfforol, meddyliol ac emosiynol. Dylai&#8217;r Asesiad Gofalwyr gynnig cyfle i chi drafod y cymorth sydd ei angen arnoch i barhau i ofalu, gan gynnwys seibiannau o ofalu. Gallai hynny olygu cymorth yn y cartref, neu ystyried opsiynau eraill i gael seibiannau. Gallai&#8217;r unigolyn gael gofal yn ei gartref tra byddwch chi&#8217;n cael seibiant, neu gallai&#8217;r unigolyn dreulio amser mewn cartref gofal neu gyfleuster gofal seibiant tra byddwch chi&#8217;n treulio amser gartref neu&#8217;n mynd ar wyliau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Weithiau, gall yr ymdrech i drefnu seibiannau beri straen, neu efallai na fydd pethau&#8217;n llwyddo yn unol \u00e2&#8217;r disgwyl. Ni fydd hynny&#8217;n golygu na fydd pethau&#8217;n fwy hwylus rywbryd eto. Gall fod yn ddefnyddiol sgwrsio \u00e2 ffrind neu linell gymorth i gael cymorth a syniadau ynghylch hyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ystyriwch gysylltu \u00e2 Chaffi Dementia lleol neu un o Ganolfannau Dementia <strong><a href=\"http:\/\/meetingcentres.wordpress.com\" data-type=\"link\" data-id=\"meetingcentres.wordpress.com\">meetingcentres.wordpress.com<\/a><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Siaradwch \u00e2&#8217;r llinellau cymorth:Cymdeithas Alzheimer 03300 947400; Llinell Gymorth Dementia Cymru 0808 808 2235; Carers Wales 0808 808 7777; Nyrs Admiral Dementia UK 0800 888 6678; Dementia Carers Count 0800 652 1102; i ofyn a oes ganddynt wybodaeth am elusennau cenedlaethol a lleol sy&#8217;n cynnig cymorth.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"625\" height=\"442\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Sofa.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-379\" style=\"width:457px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Sofa.png 625w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Sofa-300x212.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"familyfriendsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-12\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Teulu a ffrindiau: Rhannu&#8217;r gofal<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae sawl math o deulu. Mae hanfod teulu yn wahanol i wahanol bobl. Nid oes gan bawb sydd \u00e2 dementia deulu sydd yn fyw, ac efallai nad ydynt mewn cysylltiad \u00e2 pherthnasau sydd ganddynt oherwydd gwahanol resymau. Bydd gan rai pobl &#8216;deulu dewisol&#8217; cryf neu gr\u0175p agos o ffrindiau pan nad fyddant mewn cysylltiad \u00e2&#8217;u teulu biolegol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai fod rhai perthnasau yn byw gyda&#8217;r unigolyn y maent yn ei gynorthwyo, yn byw ar wah\u00e2n neu yn byw yn eithaf pell i ffwrdd. Hyd yn oed pan fyddant yn byw&#8217;n agos at yr unigolyn sydd \u00e2 dementia, bydd rhai perthnasau yn teimlo na allant gynnig rhoi gofal personol, oherwydd yr angen i deithio, pwysau gwaith, cyfrifoldebau gofalu eraill ac ymrwymiadau eraill. Efallai bod eu perthynas \u00e2&#8217;r unigolyn y maent yn ei gynorthwyo yn gwneud iddynt deimlo na allant ei gynorthwyo \u00e2 gofal personol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall ffrindiau hefyd amrywio yn eu cynnig i gynorthwyo. Weithiau, gallant osgoi&#8217;r unigolyn \u00e2 dementia. Nid yw llawer o bobl yn gwybod sut i ymdopi \u00e2 chlywed am ddiagnosis yn cadarnhau dementia ac maent yn ofnus. Gall yr ofn hwn arwain at osgoi a gall yr unigolyn deimlo bod eraill yn troi cefn arno.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn aml, bydd un berthynas neu nifer fechan o berthnasau yn gorfod ysgwyddo cyfrifoldeb am ofal personol. Weithiau, gall hyn beri iddynt deimlo bod y cyfrifoldeb yn eu llethu. Gall perthnasau sy&#8217;n cyfrannu&#8217;n sylweddol at ofal personol brofi effaith ar eu hiechyd a&#8217;u lles. Ar adegau, efallai y byddant yn profi drwgdeimlad hefyd, a bydd hynny&#8217;n effeithio ar berthnasoedd teuluol ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>T<strong>Cynghorion ynghylch cynnwys teulu a ffrindiau<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os byddwch chi&#8217;n wynebu&#8217;r sefyllfa hon, efallai y byddai&#8217;n fuddiol ystyried y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall cynnal cyfarfod teuluol i drafod rhannu rhai o&#8217;r tasgau gofalu fod yn fuddiol. Os gellir cynnal cyfarfod o&#8217;r fath yn rheolaidd (er enghraifft, unwaith bob 3 mis), gellir adolygu&#8217;r rolau a gwneud cynlluniau at wyliau ac achlysuron arbennig.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai na fydd y r\u00f4l gofal personol yn bosibl i rai, ond efallai y bydd tasgau eraill megis cynorthwyo \u00e2 materion ariannol, cynnal a chadw&#8217;r t\u0177, achlysuron cymdeithasol, siopa bwyd a dillad yn haws iddynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallai gofyn am gymorth penodol am gyfnodau penodedig, e.e. prynu neges ar-lein am y 3 mis nesaf, helpu pobl i gynnig cymorth heb deimlo bod pethau&#8217;n eu llethu.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhannwch daflenni gwybodaeth a manylion gwefannau a llinellau cymorth sydd wedi bod yn ddefnyddiol i chi efo perthnasau a ffrindiau.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai y bydd ffrindiau dibynadwy&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n ei gynorthwyo hefyd yn fodlon cynnig cymorth ynghylch meysydd penodol os gofynnir iddynt. Bydd pobl yn aml yn dweud \u201cCysylltwch os gallaf wneud unrhyw beth i helpu!\u201d Manteisiwch ar y cynnig trwy ofyn am rywbeth penodol. Os gallant gynorthwyo&#8217;r unigolyn i wneud pethau y mae&#8217;n eu mwynhau gyda&#8217;i gilydd, gall hynny gynnig seibiant i chi. Dywedwch wrth y ffrind beth ddylai ei wneud os bydd yr unigolyn yn ofidus.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"homecareW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-14\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Asiantaethau gofal yn y cartref a gweithwyr gofal yn y cartref<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cael cymorth gan weithwyr cyflogedig yng nghartref yr unigolyn yn opsiwn sydd ar gael i lawer o ofalwyr sy&#8217;n berthnasau fel dull i&#8217;w helpu i barhau i ofalu am yr unigolyn. Gellir cynnig sawl math o gymorth trwy&#8217;r dull hwn, er enghraifft, cyfeillio, gofal \u00e2 thasgau penodol megis ymataliaeth, golchi neu ymolchi, a hyd yn oed gofal gan ofalwyr sy&#8217;n byw dan yr un to. Nid yw&#8217;r un peth yn addas i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ystyrir bod Gofal yn y Cartref yn fath o Ofal Cymdeithasol a gall y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion ymgymryd ag asesiad o&#8217;r anghenion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cewch fwy o wybodaeth am y dewisiadau yn y llawlyfr i ofalwyr yma <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/cy\/dsdc\/adnoddau-i-gefnogi-pobl-syn-byw-gyda-dementia-a-gofalwyr\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/cy\/dsdc\/adnoddau-i-gefnogi-pobl-syn-byw-gyda-dementia-a-gofalwyr\"><strong>www.bangor.ac.uk\/cy\/dsdc\/adnoddau-i-gefnogi-pobl-syn-byw-gyda-dementia-a-gofalwyr<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Weithiau, cynigir Gofal yn y Cartref yn uniongyrchol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond gan amlaf, caiff ei gynnig gan Asiantaethau Gofal yn y Cartref. Caiff Asiantaethau Gofal yn y Cartref eu rheoleiddio gan Arolygaeth Gofal Cymru (AGC). Gallwch chwilio gwefan y AGC am adroddiadau ynghylch arolygon <strong><a href=\"https:\/\/www.arolygiaethgofal.cymru\/ein-hadroddiadau\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.arolygiaethgofal.cymru\/ein-hadroddiadau\">www.arolygiaethgofal.cymru\/ein-hadroddiadau<\/a><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"985\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-985x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-214\" style=\"width:372px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-985x1024.jpg 985w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-288x300.jpg 288w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-768x799.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-1477x1536.jpg 1477w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-1969x2048.jpg 1969w\" sizes=\"auto, (max-width: 985px) 100vw, 985px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn yr Alban, cynigir gofal personol a gofal nyrsio am ddim i unrhyw un y bydd asesiad gofal wedi cadarnhau bod arnynt angen y gofal hwnnw. Gall yr hyn ystyrir i fod yn ofal personol amrywio o&#8217;r naill gyngor i&#8217;r llall. Gallai gynnwys cymorth \u00e2 gwaith t\u0177, golchi dillad neu brynu neges neu wasanaethau oddi i&#8217;ch cartref (e.e. costau mynychu canolfannau gofal dydd) yn wasanaethau gofal personol, a gellir codi t\u00e2l amdanynt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall yr awdurdod lleol drefnu&#8217;r gwasanaethau hyn ac maent yn dibynnu ar asesiad ariannol. Chwiliwch am dudalen &#8216;Free personal and nursing care: questions and answers&#8217; ar wefan Llywodraeth yr Alban <strong><a href=\"http:\/\/www.gov.scot\" data-type=\"link\" data-id=\"www.gov.scot\">www.gov.scot<\/a><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"614\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-1024x614.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-211\" style=\"width:372px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-1024x614.jpg 1024w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-300x180.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-768x461.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-1536x922.jpg 1536w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf.jpg 1825w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-15 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>Cynghorion ynghylch a chanfod Asiantaethau Gofal yn y Cartref ac elwa&#8217;n llawn o&#8217;u gwasanaethau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ewch ati i chwilio am cwmni gofal sy&#8217;n briodol i chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch ofyn cwestiynau megis:\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>A fyddwn yn cael yr un Gweithiwr Gofal yn y Cartref bob tro?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa hyfforddiant dementia y mae eich staff Gofal yn y Cartref wedi&#8217;i gael?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa wiriadau a gynhelir ynghylch eich staff Gofal yn y Cartref, cyn iddynt ddechrau a thra byddant yn gweithio i chi?<\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd gweithiwr Gofal yn y Cartref newydd, sut c\u00e2nt eu paratoi i gynorthwyo eu cleientiaid newydd?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth os na fyddwn yn hoffi neu&#8217;n cyd-dynnu&#8217;n dda \u00e2&#8217;n gweithiwr Gofal yn y Cartref?&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>A allaf weld y nodiadau gofal y bydd y staff yn eu llunio ynghylch eu hymweliadau?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut allwn ni gyfleu newidiadau o ran anghenion neu ddiweddaru&#8217;r cynllun gofal os bydd y gwasanaeth gofal yn newid a\/neu os byddwn ni&#8217;n teimlo bod pethau wedi newid?<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Dylai Asiantaeth Gofal yn y Cartref ymgymryd ag asesiad o&#8217;ch dymuniadau a&#8217;ch anghenion, gan greu cynllun gofal sy&#8217;n nodi&#8217;r pethau sy&#8217;n bwysig i chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Yna, dylai&#8217;r Asiantaeth Gofal yn y Cartref ddewis Gweithiwr neu Weithwyr Gofal yn y Cartref a fyddai, yn eu tyb hwy, yn gweithio&#8217;n dda gyda chi a&#8217;ch trefniadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cynorthwyo gwahanol staff Gofal yn y Cartref i ddeall eich perthynas a phersonoli arferion gofal personol yn bwysig er mwyn sicrhau yr aiff pethau rhagddynt yn hwylus.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall gymryd amser cyn y gwnaiff yr unigolyn dderbyn gofal gan ddieithryn. Byddwch yn amyneddgar. Pan fo\u2019n bosibl, byddwch yno i gyfarch y gweithiwr Gofal yn y Cartref yn gynnes pan fydd yn cyrraedd y troeon cyntaf. Gall hyn helpu i gynnig sicrwydd i&#8217;r unigolyn \u00e2 dementia a&#8217;i alluogi i deimlo bod y gweithiwr yn unigolyn cyfeillgar yn hytrach na dieithryn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"workingW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-16\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Gweithio wrth ofalu<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd llawer o bobl yn gweithio (mewn swydd amser llawn neu ran amser) tra byddant yn cynnig gofal i rywun sydd \u00e2 dementia.&nbsp; Er enghraifft, gofalu am riant (neu weithiau ddau riant) neu briod sydd \u00e2 dementia, neu gymydog efallai. Byddwn yn canfod&nbsp; gofalwyr sy&#8217;n cynorthwyo nifer o bobl \u00e2 dementia yn eu teulu ac yn eu rhwydweithiau cymdeithasol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fyddwch chi&#8217;n gweithio, gall hyn achosi llawer o heriau amrywiol. Pan fyddwn yn ystyried cynnig gofal personol i unigolyn sydd \u00e2 dementia, bydd angen ystyried llawer o bethau os ydych chi hefyd yn gweithio. Gall fod yn anodd cydbwyso eich oriau gwaith cyflogedig ac anghenion gofal personol yr unigolyn sydd \u00e2 dementia. Efallai y byddwch yn teimlo y bydd arnynt angen eich cymorth (er enghraifft, i ymolchi a gwisgo yn y bore neu i reoli ymataliaeth) ar adegau pan fyddwch yn gorfod jyglo llawer o wahanol bethau, oherwydd bydd angen i chi fod &#8216;wrth eich desg&#8217; i ennill bywoliaeth ar yr union adegau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar adegau, efallai bydd yn rhaid i chi annog eraill i&#8217;ch cynorthwyo chi. Wrth gwrs, gall hynny hefyd beri i chi deimlo\u2019n euog, gan ystyried y \u2018dylech chi fod yn gwneud hyn i helpu&#8217;ch mam\u2019, neu \u2018byddai&#8217;n teimlo\u2019n chwithig pe bawn i&#8217;n gofyn i gymydog ei helpu i wisgo\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd gan yr unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano ei ddymuniadau a&#8217;i ddewisiadau ei hun o ran gofal personol wrth i&#8217;w anghenion gynyddu. Fodd bynnag, bydd angen cydbwyso&#8217;r rhain \u00e2 beth sy&#8217;n ymarferol ac yn bosibl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae sawl math o fudd-daliad a chymorth ar gael iddynt hwy ac i chi. Mae lwfans gweini yn enghraifft o hynny, a gallai hynny eich galluogi i recriwtio rhywun i gynorthwyo a gofal personol a hefyd eich galluogi i barhau i weithio. Mae gennych chithau hefyd hawliau fel gofalwr i&#8217;ch galluogi i barhau i ofalu am yr unigolyn sydd \u00e2 dementia.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"699\" height=\"530\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Couple.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-366\" style=\"width:405px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Couple.png 699w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Couple-300x227.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 699px) 100vw, 699px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-17 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>Cynghorion da ar gyfer<\/strong> <strong>gweithio a gofalu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae gennych hawliau fel gofalwr unigolyn sydd \u00e2 dementia i hawlio buddion megis oriau gwaith a threfniadau gweithio hyblyg.<\/li>\n\n\n\n<li>Os na wyddoch chi beth yn union y mae gennych hawl i&#8217;w gael; fel gofalwr, ceir gwasanaethau ac adnoddau a all eich cynghori, er enghraifft, Llinell Gymorth Admiral Nurse elusen Dementia UK <strong>0800 888 6678<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Mae elusen Carers UK yn cynnig adnoddau defnyddiol ar gyfer gofalwyr sy&#8217;n gweithio wrth egluro oriau gwaith hyblyg, absenoldeb gofalwyr (gan gynnwys newidiadau diweddar yn y gyfraith ynghylch hawl). Edrychwch ar wefan Carers UK i gael rhagor o wybodaeth <strong><a href=\"http:\/\/www.carersuk.org\" data-type=\"link\" data-id=\"www.carersuk.org\">www.carersuk.org<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Gofynwch am gyngor i ganfod a yw cyfanswm yr oriau rydych chi&#8217;n eu gweithio yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 gofalu.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai y cynigir opsiwn i weithio gartref ar adegau (gelwir hynny yn &#8216;weithio hybrid&#8217;).<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch ddatblygu cynllun wrth gefn i baratoi at adegau pan fydd pan fyddwch chi&#8217;n gweithio a bydd anghenion gofal personol&nbsp; annisgwyl. Gall hynny gynnwys absenoldeb gofalwr brys (darllenwch eich llawlyfr gweithwyr neu holwch eich rheolwr llinell).<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch beidio \u00e2 gwrthod unrhyw gymorth a gynigir gan eraill bob tro. Yn aml, bydd yn gallu gwneud rhywbeth buddiol, hyd yn oed os na fydd hynny&#8217;n ymwneud yn uniongyrchol \u00e2 chynnig gofal personol. Gallant archebu pethau y bydd eu hangen arnoch yn rheolaidd neu ymgymryd \u00e2 thasgau eraill i ysgafnhau eich baich, er enghraifft, siopa a glanhau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"professionalsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-18\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Gweithwyr Proffesiynol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y bydd angen i chi siarad \u00e2 sawl gweithiwr proffesiynol gwahanol i gael cymorth a chyngor ynghylch cynorthwyo&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano. Yn achos unrhyw anghenion gofal sy&#8217;n gysylltiedig ag iechyd, dylid cysylltu \u00e2 meddyg teulu&#8217;r unigolyn yn gyntaf fel arfer. Gall y meddyg teulu ei gyfeirio at weithwyr eraill fel bo\u2019r angen (er enghraifft, at y nyrsys ardal neu&#8217;r t\u00eem ymataliaeth). Yn achos anghenion cymorth gofal personol mwy cyffredinol eraill, dylid cysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol leol yr unigolyn yn gyntaf. Gall y system iechyd a gofal cymdeithasol ymddangos yn ddatgysylltiedig ac yn dameidiog, a gall hynny olygu y bydd yn heriol i chi geisio llywio&#8217;r holl fathau gwahanol o gymorth y bydd eu hangen ar unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-19 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Cynghorion ynghylch gweithio gyda gweithwyr proffesiyno<\/strong>l<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall fod yn ddefnyddiol cadw nodiadau er mwyn cofio pwy y byddwch wedi siarad \u00e2 hwy, beth yw eu r\u00f4l, a sut i gysylltu \u00e2 hwy eto os bydd angen rhagor o gymorth neu os bydd angen cynyddu&#8217;r gofal a drefnwyd yn wreiddiol i chi. Gall llyfr nodiadau neu restr ar eich ff\u00f4n at y diben hwn eich helpu i gadw trefn ar bethau.<\/li>\n\n\n\n<li>Os oes gwasanaeth Nyrsys Admiral yn eich ardal, efallai y gallant eich cynorthwyo i lywio&#8217;r systemau iechyd a gofal cymdeithasol sy&#8217;n ofynnol i chi, fel y gallwch gael y cymorth priodol gan y t\u00eem priodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau, gall fod yn anodd siarad yn uniongyrchol \u00e2&#8217;r gweithwyr proffesiynol sy&#8217;n ymwneud \u00e2 gofal yr unigolyn. Gall hynny ddigwydd yn enwedig os bydd anawsterau o ran gallu&#8217;r unigolyn sydd \u00e2 dementia i gydsynio y gellir rhannu gwybodaeth rhyngoch chi a&#8217;r gweithiwr proffesiynol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall fod yn ddefnyddiol os gwnaiff yr unigolyn \u00e2 dementia hysbysu eu meddyg teulu yn fuan ar \u00f4l cael diagnosis ei fod yn fodlon i unrhyw wybodaeth amdano gael ei rhannu neu ei thrafod \u00e2&#8217;r perthynas sy&#8217;n gofalu amdano neu&#8217;n ei gynorthwyo.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano yn glaf mewn meddygfa arall, cofiwch sicrhau bod eich enw wedi&#8217;i nodi ar eu cofnod fel prif ofalwr yr unigolyn; dylai hynny sicrhau y cewch eich blaenoriaethu i raddau pan fyddwch chi&#8217;n cysylltu \u00e2&#8217;r feddygfa am gymorth.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch sefydlu Atwrneiaeth Arhosol (LPA) sy&#8217;n rhoi grym cyfreithiol i unigolyn\/unigolion penodedig wneud penderfyniadau ar ei ran.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad oes gan yr unigolyn \u00e2 dementia&#8217; mwyach ddigon o allu i wneud y penderfyniadau hynny, dylai&#8217;r meddyg teulu a gweithwyr proffesiynol eraill allu rhannu gwybodaeth \u00e2 chi serch hynny er lles pennaf yr unigolyn, ac ystyrir bod gwneud hynny yn enghraifft o arfer gorau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-20 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Gweithwyr proffesiynol a&#8217;u gwaith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ceir llawer o wahanol weithwyr proffesiynol iechyd a gofal a all gynnig cyngor ymarferol, ymyriadau, offer a chymhorthion. Maent yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Meddygon Teulu: <\/strong>Gallant asesu a chynnig cyngor ynghylch newidiadau mewn iechyd. Gallant hefyd gyfeirio pobl at wasanaethau arbenigol y GIG.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwasanaeth Iechyd y Bledren a&#8217;r Coluddyn (Ymataliaeth): <\/strong>Maent yn cynnig asesiadau arbenigol a chynlluniau wedi&#8217;u teilwra ar gyfer pobl ag anghenion ymataliaeth cymhleth a gallant gynnig cyngor ynghylch padiau a chymhorthion ymataliaeth.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Nyrsys Ardal a Chymunedol: <\/strong>mae llawer o&#8217;r timau hyn yn aml yn gysylltiedig \u00e2 meddygfeydd teulu. Maent yn cynnig cyngor a thriniaeth i gleifion yn eu cartref i ddiwallu amrywiaeth o anghenion, gan gynnwys gofalu am glwyfau.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Seiciatryddion: <\/strong>maent yn arbenigwyr meddygol ym maes asesu a thrin anhwylderau seiciatrig. Bydd y rhan fwyaf o bobl \u00e2 dementia wedi cael eu gweld gan arbenigwr ym maes seiciatreg yn ystod eu diagnosis. Byddant fel arfer yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol arbenigol ochr yn ochr \u00e2 nyrsys seiciatrig cymunedol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Seicolegwyr Clinigol: <\/strong>Gallant helpu i asesu galluoedd a deall cryfderau ac anghenion gwybyddol yr unigolyn sydd \u00e2 dementia. Gallant hefyd eich helpu i ddeallt sut gallwch chi gynorthwyo rhywun sy&#8217;n ymddangos yn ofidus yn aml. Gall meddyg teulu gyfeirio pobl at y gwasanaeth hwn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol (gelwir hwy ar brydiau yn Nyrsys Seiciatrig Cymunedol neu CPNs): <\/strong>maent yn nyrsys arbenigol yn y GIG sy&#8217;n cynorthwyo ac yn cynghori pobl sydd \u00e2 dementia. Mae ganddynt sgiliau arbenigol i reoli gofid ac anawsterau. Maent yn gweithio yn y t\u00eem iechyd meddwl cymunedol arbenigol, sydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau seiciatreg a seicoleg.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gweithwyr cymdeithasol:<\/strong> Maent yn gweithio i&#8217;r Awdurdod Lleol ac yn ymdrin \u00e2 phob agwedd ar ofal cymdeithasol. Gallant gynorthwyo os oes angen cymorth arnoch yn eich cartref. Byddant yn ymgymryd ag asesiad ariannol i gynnig cyngor ynghylch costau trefniadau o&#8217;r fath. Gallant hefyd gynnig cyngor os bydd perygl i ddiogelwch unigolion sydd \u00e2 dementia.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Nyrsys Admiral:<\/strong> Maent yn arbenigo mewn gofal a chymorth i bobl a theuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt. Gall eu llinell gymorth am ddim gynnig cyngor uniongyrchol gan Nyrsys Admiral am faterion gofal personol a dementia <strong>0800 888 6678<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li><strong>Therapyddion Galwedigaethol (OT):<\/strong> Gallant asesu a chynorthwyo ag offer arbenigol a all eich helpu i ymdopi&#8217;n well gartref. Eu nod yw gwella gweithgarwch dyddiol, cyfranogiad cymdeithasol a lles pobl \u00e2 dementia. Gallant hefyd addysgu strategaethau a dulliau newydd i aelodau\u2019r teulu a gofalwyr ynghylch gofal personol, cyfathrebu a gweithgareddau arferol bywyd dyddiol. Maent yn gweithio naill ai i&#8217;r GIG neu&#8217;r gwasanaethau cymdeithasol, ac fel arfer, gall eich meddyg teulu eich cyfeirio atynt. Mae rhai yn gweithio mewn practis preifat.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ffisiotherapyddion (Ffisios): <\/strong>gallant asesu a helpu \u00e2 symudiadau, rheoli poen a chryfder cyhyrau. Maent yn gweithio i&#8217;r GIG, ac fel arfer, gall eich meddyg teulu eich cyfeirio atynt. Mae rhai\u2019n gweithio mewn practis preifat.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Fferyllwyr:<\/strong> Byddant fel arfer yn gweithio mewn Fferyllfeydd ac maent yn arbenigo yn y defnydd o bob meddyginiaeth, gan gynnwys sg\u00eel-effeithiau. Gallant gynnig cyngor am ddim ynghylch y meddyginiaethau hynny sy&#8217;n debygol o effeithio ar bob agwedd ar ofal personol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Therapyddion Iaith a Lleferydd (SaLT):<\/strong> Gall yr arbenigwyr hyn helpu i asesu pobl \u00e2 dementia sydd \u00e2 phroblemau cyfathrebu cymhleth neu rai sydd \u00e2 phroblemau bwyta, yfed a llyncu.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cysylltydd dementia &#8211; cymorth wedi Diagnosis:<\/strong>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae cysylltydd dementia yw helpu i sicrhau y bydd gan bobl sy&#8217;n byw gyda dementia a&#8217;u gofalwyr berson cyswllt a enwir (cysylltydd) i\u2019w helpu, eu cynghori a\u2019u cyfeirio at wasanaethau, a hynny ar hyd eu taith o ddiagnosis hyd at ddiwedd oes yng Nghymru.&nbsp;Bydd y \u2018Cysylltwyr Dementia\u2019 yn allweddol i gael mynediad at adnoddau cefnogol eraill fel y rhai a gynigir gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHPs) a mentrau cymunedol.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn Nghymru, bydd Cysylltwyr Dementia yn bwynt cyswllt pwrpasol yn dilyn y diagnosis. Gallant helpu i gynnig cymorth yn ystod camau cynharach dementia wedi&#8217;r diagnosis hyd at ddiwedd oes. Dylai eich meddyg teulu eich hysbysu ynghylch sut mae hyn yn gweithio yn eich ardal chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn yr Alban, bydd pawb sy&#8217;n cael diagnosis yn cadarnhau dementia yn cael cymorth gan weithiwr cyswllt enwebedig sy&#8217;n cynorthwyo pobl (a&#8217;u teuluoedd) i ddeall y salwch, cynnal cysylltiadau yn y gymuned, cwrdd \u00e2 phobl eraill sydd \u00e2 dementia, a&#8217;u helpu i gynllunio a gwneud penderfyniadau at y dyfodol.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Presgripsiynu cymdeithasol:<\/strong> Mae nifer o bractisau meddygon teulu yn cynnig gwasanaeth sy&#8217;n cynorthwyo pobl i gael mynediad i ystod o wasanaethau a gweithgareddau lleol yn y gymuned. Bydd llawer o\u2019r rhain yn addas i bobl sydd \u00e2 dementia.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L7topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L7topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Rydym yn gwybod bod cynnig gofal personol i unigolyn sydd \u00e2 dementia yn effeithio ar iechyd a lles gofalwyr. Ychydig iawn o bobl sydd wedi&#8217;u paratoi i wneud hyn. Mae hunanofal yn hollbwysig i ofalwyr. Meddyliwch [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-917","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/917","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=917"}],"version-history":[{"count":56,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/917\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1597,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/917\/revisions\/1597"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=917"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}