{"id":853,"date":"2026-09-01T11:04:47","date_gmt":"2026-09-01T11:04:47","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=853"},"modified":"2026-09-01T11:04:47","modified_gmt":"2026-09-01T11:04:47","slug":"cymorth-i-ofalu-am-y-dwylo-ar-traed","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/cymorth-i-ofalu-am-y-dwylo-ar-traed\/","title":{"rendered":"Cymorth i ofalu am y dwylo a&#8217;r traed"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L14-help-with-caring-for-hands-and-feet-Wv1.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L14-help-with-caring-for-hands-and-feet-Wv1.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"L14topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#fingersW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#fingersW\">Yr ewinedd (Trin yr ewinedd)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#toesW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#toesW\">Ewinedd y traed (Trin ewinedd y traed)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#nailprepW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#nailprepW\">Paratoi ar gyfer gofal personol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#musicW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#musicW\">Cerddoriaeth<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 id=\"fingersW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-1\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Yr ewinedd (Trin yr ewinedd)<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Er mwyn helpu&#8217;r unigolyn i barhau i ofalu am ei ewinedd ei hun, gwnewch yn si\u0175r bod ganddo glipwyr a ffeiliau ewinedd sy\u2019n hawdd eu defnyddio.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall clipwyr ewinedd gyda handlenni mawr helpu trwy sicrhau gwell gafael a rheolaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch wneud trin a gofalu am yr ewinedd yn rhan o&#8217;r drefn wrth ymolchi neu gael cawod, gan y gall y d\u0175r feddalu ewinedd y bysedd a\u2019r traed a&#8217;i gwneud yn haws i&#8217;w torri.<\/li>\n\n\n\n<li>Neu gallwch roi\u2019r dwylo a\u2019r traed i socian mewn d\u0175r cynnes, gydag olew hanfodol a thylino\u2019n ysgafn, cyn sesiwn gofal ewinedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r unigolyn yn mwynhau lliwio\u2019i ewinedd, naill ai peintiwch yr ewinedd ar yr un pryd neu gallwch geisio cymorth gan rywun sy\u2019n trin ewinedd yn broffesiynol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L14topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L14topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"toesW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-2\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Ewinedd y traed (Trin ewinedd y traed)<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os oes gan yr unigolyn gyflwr a allai effeithio ar y cylchrediad yn y traed, fel diabetes, bydd eich ciropodydd neu bodiatrydd lleol yn gallu rhoi arweiniad a chyngor ar dorri ewinedd y traed yn ddiogel. Efallai y byddai&#8217;n ddoeth cael podiatrydd i dorri\u2019r ewinedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall sefydlu trefn reolaidd ar gyfer golchi\u2019r traed helpu i atal haint bacteriol a ffwngaidd, a allai achosi i\u2019r traed deimlo\u2019n anghysurus ac achosi briwiau ar y croen.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"360\" height=\"360\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Products.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-335\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Products.png 360w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Products-300x300.png 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Products-150x150.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 360px) 100vw, 360px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gellir gwneud hyn gyda gwlanen ymolchi a phowlen os nad yw&#8217;r unigolyn yn gallu cael bath neu gawod bob dydd. Bydd rhai pobl yn mwynhau rhoi eu traed mewn powlen i socian.<\/li>\n\n\n\n<li>Ar \u00f4l golchi\u2019r traed, gwnewch yn si\u0175r eu bod yn hollol sych, yn enwedig rhwng y bysedd ac oddi tanynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cefnogi&#8217;r unigolyn gyda\u2019i ofal traed hefyd yn gyfle ichi edrych am arwyddion o groen caled, briwiau (ar y sodlau, pelen y droed, a bysedd y traed), ewinedd traed brau neu newid yn lliw yr ewinedd, a heintiau bacteriol a ffwngaidd (yn enwedig rhwng bysedd y traed). Os gwelwch chi unrhyw beth nad yw&#8217;n edrych yn iawn, yna siaradwch \u00e2&#8217;ch meddyg teulu, nyrs gymunedol neu bodiatrydd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L14topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L14topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"nailprepW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-3\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Paratoi ar gyfer gofal personol<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth ymgymryd ag unrhyw dasgau sydd \u00e2 sawl rhan iddyn nhw, rydym oll yn gwneud paratoadau i&#8217;n galluogi i&#8217;w cyflawni&#8217;n rhwydd ac yn effeithlon. Er enghraifft, wrth ddilyn rys\u00e1it i wneud cacen, yn ddelfrydol, byddwn wedi casglu\u2019r cynhwysion ynghyd ymlaen llaw ac yn aml byddwn wedi mesur yr union faint sydd ei angen o bob un, er mwyn gwneud y dasg yn haws.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gynnig cymorth i rywun gyda\u2019i ofal personol, mae&#8217;n bwysig paratoi a chael popeth sydd ei angen arnoch i wneud y dasg. Ceisiwch beidio \u00e2 gadael ar ganol tasg i chwilio am rywbeth rydych chi wedi&#8217;i anghofio. Efallai y byddwch chi&#8217;n paratoi er mwyn galluogi&#8217;r unigolyn \u00e2 dementia i wneud cymaint \u00e2 phosibl drosto&#8217;i hun ac i gynnal ei ymreolaeth a\u2019i annibyniaeth cyhyd \u00e2 phosibl. Gallai hyn hefyd annog yr unigolyn i ymgymryd \u00e2&#8217;i dasgau gofal personol ei hun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>Cynghorion ar gyfer paratoi ar gyfer cyflawni tasgau gofal personol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth baratoi ar gyfer tasg gofal personol, gwnewch yn si\u0175r bod yr holl bethau angenrheidiol yn eu lle wrth y sinc neu ble bynnag y byddwch yn cyflawni&#8217;r dasg fel arfer.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwnewch yn si\u0175r bod yr holl eitemau sydd eu hangen arnoch wrth law er mwyn cwblhau&#8217;r dasg mor gyflym ac mor effeithlon \u00e2 phosibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Estynnwch yr eitemau\u2019n barod ac yn drefnus.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall paratoi hefyd gynnwys dweud wrth y sawl y byddwch chi&#8217;n ei helpu, er enghraifft, \u201cRwy&#8217;n mynd i&#8217;ch helpu chi i dorri&#8217;ch ewinedd a&#8217;u peintio yn eich hoff liw chi, sef coch.\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Os byddwch yn gwneud yr un gweithgaredd ar yr un pryd bob tro, bydd hyn yn annog yr unigolyn i wneud yr un fath.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae&#8217;n bwysig eich bod yn cynnig esboniadau wrth i chi gynllunio a chyflawni tasgau gofal, a siarad gyda\u2019r unigolyn am yr hyn sy&#8217;n digwydd ar y pryd, yn ogystal \u00e2&#8217;r hyn fydd yn digwydd nesaf.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L14topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L14topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"musicW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-5\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Cerddoriaeth<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall cerddoriaeth fod yn adnodd hynod werthfawr wrth gefnogi rhywun sy&#8217;n byw gyda dementia i gyflawni tasgau gofal personol. Gall ymgorffori cerddoriaeth ym mywydau beunyddiol pobl \u00e2 dementia gael effaith gadarnhaol ar eu lles a&#8217;u hansawdd bywyd yn gyffredinol. Mae gan gerddoriaeth y gallu i ddeffro atgofion, ysgogi emosiynau, a gwella cyfathrebu, gan gynnig cysur ac ymdeimlad o rywbeth cyfarwydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall defnyddio alawon a chaneuon cyfarwydd o&#8217;r gorffennol ennyn llawenydd a chysylltiad. Mae cerddoriaeth yn ysgogi llawenydd ac mae&#8217;n adnodd pwerus wrth annog ymlacio, lleddfu pryder a gwella hwyliau.&nbsp; Meddyliwch am sut y gallech ddefnyddio cerddoriaeth wrth gynorthwyo rhywun i ofalu am ei ddwylo a&#8217;i draed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llawer o ofalwyr yn gweld bod cynnwys cerddoriaeth yn eu gofal personol yn brofiad cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Cynghorion ar gyfer defnyddio cerddoriaeth i gynorthwyo \u00e2 gofal personol<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall teclyn cerddoriaeth yn yr ystafell lle rydych chi&#8217;n ymgymryd \u00e2 gofal personol fod yn fuddiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall fod yn fuddiol gweithio gyda&#8217;ch gilydd i greu rhestr chwarae bersonol fel bod yr hoff ganeuon ar gael yn hawdd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gallech roi clustffonau sydd wedi&#8217;u cysylltu \u00e2 ff\u00f4n neu declyn cerddoriaeth i&#8217;r sawl rydych chi&#8217;n gofalu amdano os yw&#8217;n ffafrio hynny.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai y byddwch chi&#8217;n gweld bod hyn yn helpu&#8217;r unigolyn i ymlacio fel ei fod yn teimlo&#8217;n fwy cyfforddus gyda chi&#8217;n ei helpu gyda&#8217;i arferion gofal personol.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch gynnig ar ganu neu fwmian caneuon hoff neu boblogaidd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae rhai pobl yn gweld bod canu gyda neu i&#8217;r sawl mae\u2019n gofalu amdano yn helpu i greu awyrgylch ysgafnach.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"985\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-985x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-214\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-985x1024.jpg 985w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-288x300.jpg 288w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-768x799.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-1477x1536.jpg 1477w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shoes-1969x2048.jpg 1969w\" sizes=\"auto, (max-width: 985px) 100vw, 985px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ymysg rhai cymunedau gall &#8216;cerddoriaeth&#8217; olygu defnyddio&#8217;r llais, megis mewn gwedd\u00efau ac wrth adrodd yr ysgrythur, ac mae defnyddio offerynnau yn fwy amlwg mewn crefyddau eraill. Mae Mwslimiaid yn gwrando neu&#8217;n adrodd y Quran heb gerddoriaeth, ond mae alaw i&#8217;w chlywed yn y ffordd y caiff ei adrodd. Mae Hind\u0175iaid a Sikhiaid fel arfer yn chwarae offerynnau cerddorol ochr yn ochr ag adrodd neu ganu. Bydd yr unigolyn yn cael cysur o&#8217;r hyn sy&#8217;n gyfarwydd iddo.<\/li>\n\n\n\n<li>I rai pobl gall cerddoriaeth fod yn or-ysgogol, a gall rhoi sylw i fwy nag un peth ar y tro fod yn anodd. Weithiau gall cerddoriaeth dynnu gormod o sylw oddi wrth y tasgau gofal personol.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Mae arwyddion gor-ysgogiad yn amrywio ond os na all yr unigolyn ganolbwyntio neu os yw&#8217;n cau ei lygaid neu&#8217;n edrych yn llawn tyndra, yna diffoddwch y gerddoriaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r&nbsp;CD C\u00e2n y G\u00e2n yn gyfres o ganeuon Cymraeg wedi ei chreu mewn cydweithrediad \u00e2 Merched y Wawr. <a href=\"https:\/\/open.spotify.com\/playlist\/4jCQHtXNTS6wFt7hQLRC8p\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/open.spotify.com\/playlist\/4jCQHtXNTS6wFt7hQLRC8p\"><strong>https:\/\/open.spotify.com\/playlist\/4jCQHtXNTS6wFt7hQLRC8p<\/strong><\/a>, <a href=\"https:\/\/music.amazon.com\/albums\/B07V6JVQCD\"><strong>https:\/\/music.amazon.com\/albums\/B07V6JVQCD<\/strong><\/a>, <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Geiriau_CD_Can_y_Gan_Lyrics.pdf\"><strong>https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Geiriau_CD_Can_y_Gan_Lyrics.pdf<\/strong><\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Gweler gwybodaeth gan Dementia UK am yr effaith y gall cerddoriaeth ei chael ar rywun \u00e2 dementia <a href=\"https:\/\/www.dementiauk.org\/information-and-support\/living-with-dementia\/music-and-dementia\/\"><strong>www.dementiauk.org<\/strong><\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L14topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L14topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2: Yr ewinedd (Trin yr ewinedd) Dychwelyd at frig y dudalen Ewinedd y traed (Trin ewinedd y traed) Dychwelyd at frig y dudalen Paratoi ar gyfer gofal personol Wrth ymgymryd ag [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-853","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/853","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=853"}],"version-history":[{"count":24,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/853\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1606,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/853\/revisions\/1606"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=853"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}