{"id":811,"date":"2026-09-01T11:02:39","date_gmt":"2026-09-01T11:02:39","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=811"},"modified":"2026-09-01T11:02:39","modified_gmt":"2026-09-01T11:02:39","slug":"cymorth-i-wisgo-a-dadwisgo","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/cymorth-i-wisgo-a-dadwisgo\/","title":{"rendered":"Cymorth i wisgo a dadwisgo"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L11-help-with-dressing-and-undressing-Wv1.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L11-help-with-dressing-and-undressing-Wv1.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Mae gwisgo\u2019n gallu bod yn broblem i bobl sy&#8217;n byw gyda dementia. Mae gwisgo a dadwisgo yn gofyn am gryn fedr ymarferol, o ran gweld, trefnu pethau, a pharodrwydd i fynd ati. Gall pob un o \u2019r rhain gael ei heffeithio gan ddementia.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Mae helpu&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano i wisgo neu ddadwisgo yn un o&#8217;r pethau symlaf i\u2019w gwneud o ran gofal personol, ond mae&#8217;n dal i fod yn rhywbeth nad yw&#8217;r rhan fwyaf ohonom wedi derbyn unrhyw gymorth i\u2019w wneud ers i ni fod yn blant. Gall gwisgo a dadwisgo rhywun deimlo&#8217;n chwithig. Gall deimlo&#8217;n rhy bersonol, a gall wneud i rywun deimlo ei fod yn colli ei annibyniaeth.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"L11topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#choiceclothesW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#choiceclothesW\">Dewis dillad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#dressprepW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#dressprepW\">Paratoi ar gyfer helpu rhywun i wisgo<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#helpdressW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#helpdressW\">Helpu rhywun yn gorfforol i wisgo<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#helpundressW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#helpundressW\">Helpu rhywun i ddadwisgo<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#clothingW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#clothingW\">Mathau o ddillad sy&#8217;n gwneud gwisgo a dadwisgo&#8217;n haws<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 id=\"choiceclothesW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-3\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Dewis dillad<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r dillad rydym ni&#8217;n eu gwisgo yn rhan o&#8217;n hunaniaeth ac yn cael effaith ar ein hunan-barch. Gall rhywedd, a\u2019r ffordd mae unigolyn yn mynegi\u2019r rhywedd hwnnw drwy ei ddillad, fod yn wahanol i\u2019ch ffordd chi\u2019ch hun o wneud hynny. Gall hyn hefyd newid wrth i amser fynd heibio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bwysig i unigolyn deimlo ei fod yn cael ei annog i&#8217;w fynegi ei hun mewn ffordd sy&#8217;n ddilys iddo. Mae rhai pobl yn ofalus iawn am y dillad maen nhw&#8217;n eu gwisgo, tra bod eraill yn llai gofalus. Fodd bynnag, mae bron bawb yn gwneud penderfyniadau ynghylch beth maen nhw\u2019n mynd i\u2019w wisgo bob bore.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Awgrymiadau ar gyfer rhoi dewis i rywun<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pan fydd dementia rhywun yn ei gyfnod cynnar, mae&#8217;n syniad da iawn cofnodi dewisiadau\u2019r unigolyn o ran lliwiau, steil, a\u2019r math o ddillad mae&#8217;n eu hoffi, a hefyd dillad mae&#8217;n eu cas\u00e1u.<\/li>\n\n\n\n<li>Os ydych chi&#8217;n helpu rhywun i wisgo, mae&#8217;n bwysig ei fod yn cael eu gwisgo yn y ffordd y mae&#8217;n ei hoffi yn hytrach na&#8217;r hyn rydych ch\u2019n ei ddewis.<\/li>\n\n\n\n<li>Meddyliwch a ydych chi&#8217;n dewis dillad rydych chi&#8217;n eu hoffi yn hytrach na\u2019r rhai mae&#8217;r unigolyn ei hun yn eu hoffi.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall pobl wneud dewisiadau gwahanol iawn yngl\u0177n \u00e2 beth maen nhw\u2019n ei wisgo gartref a beth maen nhw\u2019n ei wisgo pan fyddan nhw&#8217;n mynd allan.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan rai pobl farn gref iawn yngl\u0177n \u00e2 chadw rhai dillad fel rhai \u2018gorau\u2019, a byddan nhw\u2019n teimlo\u2019n anghyfforddus yn gwisgo dillad &#8216;gorau&#8217; gartref<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai y bydd rhai pobl yn hoffi gwisgo esgidiau sgleiniog a dillad ffurfiol cyn gynted ag y byddant wedi codi o&#8217;r gwely. Mae eraill yn hoffi aros yn eu dillad nos tan ar \u00f4l amser cinio.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch sut mae\u2019r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano wedi bod dros y blynyddoedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau gall edrych ar gylchgronau gyda&#8217;ch gilydd eich helpu i ddeall yn well yr hyn y mae\u2019r unigolyn yn ei hoffi.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch gynnwys yr unigolyn pan fyddwch yn dewis ac yn prynu dillad fel anrhegion, os yw hynny\u2019n bosibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw rhywun yn hoffi math penodol o ddillad ac yn teimlo&#8217;n gyfforddus yn eu gwisgo, ystyriwch brynu sawl dilledyn o&#8217;r un fath.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynigiwch o leiaf 2 ddilledyn yn ddewis i unigolyn pan fyddwch chi&#8217;n ei helpu i wisgo. Mae dangos y ddau ddilledyn gyda\u2019i gilydd iddo a gofyn iddo pa un mae eisiau ei wisgo yn ffordd dda o ddod i ddeall yr hyn mae rhywun yn ei hoffi. Mae hefyd yn ffordd o wneud i rywun deimlo bod ganddo ddewis a rheolaeth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai bydd gan rai pobl broblemau ymwybyddiaeth o&#8217;u corff a symud, ac felly angen cymorth corfforol i wisgo. Neu efallai y bydd angen cymorth arnynt i gofio newid eu dillad neu wisgo&#8217;n addas ar gyfer y diwrnod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L11topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L11topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"dressprepW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-5\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Paratoi ar gyfer helpu rhywun i wisgo<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bwysig ystyried yr hyn y gall yr unigolyn ymdopi ag ef yn gorfforol cyn rhoi cymorth. Er enghraifft, a ydyw&#8217;n medru codi eu coesau a\u2019u breichiau i fyny, eu symud yn \u00f4l ac ymlaen? A ydyw yn medru codi i sefyll o eistedd? Am ba hyd mae&#8217;n medru sefyll? Ydyw yn medru sefyll ar un goes?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai mai rhoi ambell gyfarwyddyd yw&#8217;r cwbl sydd ei angen ar rai er mwyn eu helpu i wisgo eu hunain. Gall fod yn ddefnyddiol dweud neu atgoffa&#8217;r unigolyn pam maen nhw\u2019n newid eu dillad. Er enghraifft, \u201cRydyn ni&#8217;n mynd i gwrdd \u00e2 Carys yn y parc heddiw felly byddwch chi si\u0175r o fod eisiau gwisgo rhywbeth cynnes.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gosodwch y dillad yn y drefn y byddwch chi&#8217;n eu gwisgo. Y dillad isaf yn gyntaf, a\u2019r dillad allanol yn olaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Weithiau, bydd pobl yn gwisgo&#8217;r un math o ddilledyn sawl gwaith \u2013 e.e. ffrogiau ar ben ffrogiau. Mae rhoi\u2019r dillad rydych chi wedi&#8217;u dewis gyda&#8217;ch gilydd yn barod yn eu lle yn helpu i osgoi hyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L11topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L11topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"helpdressW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-6\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Helpu rhywun yn gorfforol i wisgo<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os ydych chi&#8217;n helpu rhywun yn gorfforol, helpwch ddim ond lle bo angen a dilynwch arweiniad yr unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano os yw\u2019n bosibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Wrth wisgo siwmper, gall fod yn haws rhoi\u2019r breichiau i mewn yn gyntaf ac wedyn gosod y siwmper dros y pen.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall cydio yn y llewys wrth y c\u1ef3ffs ac yna eu rholio i lawr y fraich unwaith y bydd llaw rhywun drwodd fod yn ffordd haws o wisgo llewys hir.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau bydd rhywun yn ofidus oherwydd nad ydyw&#8217;n deall beth sy&#8217;n digwydd neu beth i&#8217;w ddisgwyl. Ceisiwch egluro beth rydych chi&#8217;n mynd i&#8217;w wneud, a pham, cyn i chi ei wneud.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch arwyddion di-eiriau fel ystumiau dwylo i esbonio, a dangoswch y dilledyn.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Gall rhoi bra a theits ar unigolyn arall fod yn arbennig o anodd os nad ydych chi wedi arfer gwisgo\u2019r rhain eich hunan. Rhowch ddigon o amser i wneud hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad yw pethau\u2019n gweithio fel y dylent, dywedwch mai eich diffyg chi yw hynny yn hytrach na diffyg yr unigolyn rydych chi&#8217;n ei helpu.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch yn si\u0175r bod y dillad yn gyfforddus er mwyn iddynt fod yn brafiach ac yn haws i&#8217;w gwisgo a&#8217;u dadwisgo.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall defnyddio hiwmor lle bo modd helpu i gadw pethau&#8217;n ysgafn, lleihau chwithdod a thensiwn, a gwneud i bobl deimlo&#8217;n gyfforddus.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch rywbeth sydd yn bleserus i&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano ar \u00f4l y gweithgaredd, rhywbeth iddo edrych ymlaen ato. Soniwch am hyn wrth i chi sgwrsio yn ystod y gweithgaredd er mwyn troi\u2019r sylw at yr hyn sydd i ddod.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L11topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L11topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"helpundressW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-7\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Helpu rhywun i ddadwisgo<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yr un yw\u2019r egwyddorion cyffredinol \u00e2\u2019r rhai ar gyfer helpu rhywun i wisgo.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r unigolyn yn byw ar ei ben ei hun, gallai gosod arwydd i atgoffa rhywun i dynnu eu dillad a gwisgo pyjamas cyn mynd i&#8217;r gwely helpu.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch ddillad budr o&#8217;r golwg fel nad yw&#8217;r unigolyn yn eu gwisgo eto yn y bore.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall fod yn syniad da dewis a gosod dillad gl\u00e2n yn eu lle yn barod ar gyfer y diwrnod canlynol, os oes gan yr unigolyn ddigon o egni i wneud hynny gyda&#8217;r nos.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"724\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-724x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-283\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-724x1024.jpeg 724w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-212x300.jpeg 212w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-768x1086.jpeg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-1086x1536.jpeg 1086w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-1448x2048.jpeg 1448w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-scaled.jpeg 1810w\" sizes=\"auto, (max-width: 724px) 100vw, 724px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L11topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L11topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"clothingW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-8\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Mathau o ddillad sy&#8217;n gwneud gwisgo a dadwisgo&#8217;n haws<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae dillad llac y gellir eu gwisgo a\u2019u tynnu dros y pen yn osgoi&#8217;r angen i gau ac agor botymau.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw\u2019r unigolyn yn hoffi crysau, byddai crys mwy o faint, a\u2019r botymau wedi eu cau yn barod, yn haws i\u2019w roi a\u2019i dynnu dros y pen.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn aml, i bobl sy\u2019n cael trafferth trin botwm a sip, gall botymau a sipiau mwy trwchus fod yn haws.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallai gwasg elastig a dillad sydd yn cau \u00e2 Velcro olygu bod rhywun yn medru gwisgo ei hun.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall bra sy&#8217;n cau yn y tu blaen, yn cau gyda sip yn hytrach na bachau, neu fra chwaraeon sydd yn un darn cyfan fod yn haws ei gwisgo.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall maint gwddf dilledyn fod yn bwysig o ran pa mor hawdd yw hi i wisgo a thynnu\u2019r dilledyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch osgoi defnyddiau sydd yn cosi ac unrhyw beth sydd yn anodd ei gau neu ei agor.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L11topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L11topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Mae gwisgo\u2019n gallu bod yn broblem i bobl sy&#8217;n byw gyda dementia. Mae gwisgo a dadwisgo yn gofyn am gryn fedr ymarferol, o ran gweld, trefnu pethau, a pharodrwydd i fynd ati. Gall pob un o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-811","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/811","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=811"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/811\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1603,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/811\/revisions\/1603"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=811"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}