{"id":802,"date":"2026-09-01T11:01:53","date_gmt":"2026-09-01T11:01:53","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=802"},"modified":"2026-09-01T11:01:53","modified_gmt":"2026-09-01T11:01:53","slug":"cymorth-a-dannedd-a-dannedd-gosod","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/cymorth-a-dannedd-a-dannedd-gosod\/","title":{"rendered":"Cymorth \u00e2 dannedd a dannedd gosod"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L10-help-with-teeth-and-dentures-Wv1.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L10-help-with-teeth-and-dentures-Wv1.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Er bod brwsio dannedd yn arfer gydol oes i&#8217;r rhan fwyaf o bobl, gall rhai unigolion sy&#8217;n byw \u00e2 dementia anghofio gwneud neu golli&#8217;r sgiliau echddygol<\/strong> <strong>neu\u2019r gallu i\u2019w wneud yn iawn. Mae glanhau\u2019r dannedd yn rhywbeth y gallai fod gofyn i nifer o ofalwyr gynnig cymorth i\u2019w wneud, boed hynny drwy atgoffa rhywun bod angen ei wneud neu drwy helpu&#8217;n gorfforol.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Gall ymweld \u00e2&#8217;r deintydd fod yn her fawr i bobl sy&#8217;n byw \u00e2<\/strong> <strong>dementia hefyd. Fodd bynnag, mae gofalu am iechyd deintyddol yn bwysig er mwyn atal problemau pellach, fel dannodd ac anhawsterau \u00e2 bwyta ac yfed oherwydd bod y dannedd wedi pydru, neu oherwydd haint.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"L10topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#teethcareW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#teethcareW\">Gofal dannedd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#denturesW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#denturesW\">Dannedd gosod<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#dentistW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#dentistW\">Ymweld \u00e2\u2019r deintydd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#teethresoursesW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#teethresoursesW\">Adnoddau ychwanegol<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 id=\"teethcareW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-3\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Gofal dannedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Awgrymiadau da ar gyfer ei gwneud hi&#8217;n haws i gofio brwsio ei dannedd<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddiwch bast dannedd cyfarwydd a brws dannedd mae\u2019n hoffi.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch yn si\u0175r bod y rhain o fewn golwg a chyrraedd y basn.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch frws dannedd yr unigolyn, a&#8217;r past dannedd (gyda&#8217;r caead ar agor efallai) wrth ymyl y basn yn yr ystafell ymolchi.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r unigolyn yn cael trafferth gwasgu&#8217;r past dannedd allan o&#8217;r tiwb, yna efallai y byddai\u2019n syniad ei roi ar y brwsh yn barod.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau gall brwsio eich dannedd chi eich hun ar yr un pryd \u00e2&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano helpu eu hannog nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fydd y dementia yn ei gyfnod cynnar, byddai\u2019n syniad da iawn cofnodi mor fanwl \u00e2 phosibl beth yw eu harferion o ran gofalu am eu dannedd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Awgrymiadau da ar gyfer helpu rhywun lanhau eu dannedd<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Peidiwch \u00e2 rhuthro &#8211; gwnewch yn si\u0175r bod gennych chi ddigon o amser a chynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer y dasg.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyn cychwyn, cymerwch amser i ystyried a meddwl beth fyddai\u2019n gweithio orau i&#8217;r ddau ohonoch chi er mwyn hwyluso\u2019r dasg.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r unigolyn eisoes yn ddig neu&#8217;n ofidus ar yr adeg yr ydych chi wedi trefnu helpu brwsio eu dannedd, yna mae&#8217;n debyg mai&#8217;r peth gorau fyddai gohirio&#8217;r gweithgaredd am y tro.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ceisio gorfodi rhywun i frwsio ei dannedd yn cynyddu teimladau negyddol ac yn annifyr i bawb.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Er mai glanhau dannedd ar \u00f4l pryd bwyd sydd yn ddelfrydol, dim ond unwaith y dydd mae nifer o bobl yn brwsio eu dannedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd hi\u2019n haws cysylltu glanhau dannedd ag ymolchi os bydd yn digwydd yn yr ystafell ymolchi.<\/li>\n\n\n\n<li>Os na all yr unigolyn fynd i\u2019r ystafell ymolchi, dewch \u00e2 brws dannedd, past dannedd a dau gwpan (un gyda d\u0175r) iddyn nhw. Gallent ddefnyddio&#8217;r cwpan gyda d\u0175r ynddo i rinsio\u2019r geg a phoeri i&#8217;r cwpan gwag.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n bosibl cael brwsys dannedd meddal sy&#8217;n haws gafael ynddyn nhw. Siaradwch \u00e2 deintydd neu fferyllydd i holi beth sydd ar gael.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhannwch y dasg o lanhau\u2019r dannedd neu tynnu ddannedd gosod yn gamau bach fydd yn haws eu dilyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau mae unigolyn yn teimlo\u2019n bryderus os nad yw\u2019n deall beth sy&#8217;n digwydd neu beth i&#8217;w ddisgwyl.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch egluro beth rydych chi&#8217;n mynd i&#8217;w wneud, a pham, cyn i chi ddechrau.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch arwyddion fel meimio ystumiau dwylo a dangoswch pa gynhyrchion neu offer rydych chi&#8217;n mynd i\u2019w defnyddio.<\/li>\n\n\n\n<li>Nid oes angen golchi past dannedd o\u2019r geg ar \u00f4l brwsio os nad yw&#8217;r unigolyn eisiau gwneud hynny.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall defnyddio hiwmor lle bo modd helpu gadw pethau\u2019n ysgafn, lleihau chwithdod a thensiwn, a gwneud i rywun deimlo&#8217;n gyfforddus hefyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch rywbeth sydd yn bleserus i&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdano&nbsp;ar \u00f4l y gweithgaredd, rhywbeth i edrych ymlaen ato. Soniwch am hyn wrth i chi sgwrsio yn ystod y gweithgaredd er mwyn troi\u2019r ffocws i\u2019r hyn sydd i ddod.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"440\" height=\"428\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Teeth-cleaning.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-270\" style=\"width:310px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Teeth-cleaning.png 440w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Teeth-cleaning-300x292.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y clip byr canlynol, mae Paul yn rhannu ei brofiadau o helpu ei wraig Jill i lanhau ei dannedd. Mae gan Jill Atroffi Cortical Posterior ac mae ganddi anawsterau gydag ymwybyddiaeth visio-ofodol. Sylwch nad yw&#8217;r clip hwn yn cymeradwyo unrhyw gynhyrchion penodol, ond yn dangos beth sy&#8217;n gweithio i Paul a&#8217;i wraig yn eu sefyllfa.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Crossing the Line - Teeth cleaning\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/1enTGtpYEYM?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L10topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L10topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"denturesW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-6\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Dannedd gosod<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llawer o&#8217;r awgrymiadau sy&#8217;n berthnasol i ofal dannedd hefyd yn berthnasol i ofal dannedd gosod. Bydd ceg yr unigolyn yn llawer mwy cyfforddus os caiff y dannedd gosod eu tynnu a&#8217;u glanhau&#8217;n rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Anogwch yr unigolyn i dynnu eu dannedd gosod fel rhan o&#8217;i drefn dyddiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Anogwch nhw i rinsio eu ceg a glanhau o gwmpas y deintgig.<\/li>\n\n\n\n<li>Os na allant wneud hyn eu hunain, yna efallai y byddan nhw\u2019n gadael i chi ei wneud drostyn nhw. Efallai y byddai\u2019n well gennych chi ddefnyddio menig (neu orchudd bys) i wneud hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Glanhewch y dannedd gosod yn drylwyr. Socian nhw dros nos fyddai orau ond os yw&#8217;r unigolyn eisiau nhw&#8217;n \u00f4l yn eu ceg, yna mae hynny&#8217;n iawn.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae llawer o bobl yn gwisgo eu dannedd gosod pan fyddan nhw\u2019n cysgu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L10topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L10topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"dentistW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-7\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Ymweld \u00e2\u2019r deintydd<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall pobl fod yn bryderus ynghylch ymweld \u00e2&#8217;r deintydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan lawer o ddeintyddion brofiad o drin cleifion \u00e2 dementia erbyn hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Holwch eich deintydd os ydyn nhw\u2019n medru trin pobl \u00e2&#8217;r mathau o heriau a all ddod \u00e2 dementia, ac os oes ganddyn nhw unrhyw gyngor i chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad yw ymweld \u00e2 phractis deintyddol arferol yn ymarferol, mae mwy o wasanaethau deintyddol cymunedol arbenigol ar gae. Sef gwasanaethau ysbyty, clinigau symudol yn y gymuned, a deintyddion sy&#8217;n gwneud ymweliadau \u00e2\u2019r cartref. Siaradwch \u00e2&#8217;ch meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol neu\u2019r awdurdod lleol am yr hyn sydd ar gael.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L10topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L10topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"teethresoursesW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-8\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Adnoddau ychwanegol<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai o&#8217;r gwefannau hyn yn cynnig cyngor pellach:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae gan Care Rights UK ganllaw gofal da, sef &#8216;Keep Smiling&#8217;. Ewch i&#8217;w gwefan i&#8217;w weld <strong><a href=\"http:\/\/www.carerightsuk.org\" data-type=\"link\" data-id=\"www.carerightsuk.org\">www.carerightsuk.org<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan Gymdeithas Alzheimer wybodaeth am ofal deintyddol a gofal y geg ar ei gwefan <strong><a href=\"http:\/\/www.alzheimers.org.uk\" data-type=\"link\" data-id=\"www.alzheimers.org.uk\">www.alzheimers.org.uk<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan Dementia UK wybodaeth am ofal y geg <strong><a href=\"http:\/\/www.dementiauk.org\" data-type=\"link\" data-id=\"www.dementiauk.org\">www.dementiauk.org<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg yw Gw\u00ean am byth a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol Cymru. Cewch fwy o wybodaeth gan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru <a href=\"https:\/\/publichealthwales.nhs.wales\/services-and-teams\/dental-public-health\/gwen-am-byth\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/publichealthwales.nhs.wales\/services-and-teams\/dental-public-health\/gwen-am-byth\/\"><strong>publichealthwales.nhs.wales\/services-and-teams\/dental-public-health\/gwen-am-byth\/<\/strong><\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan Scottish Dental ganllaw &#8216;Caring for Smiles&#8217; ar gyfer teuluoedd ac un hefyd ar gyfer gofalwyr <strong><a href=\"http:\/\/www.scottishdental.nhs.scot\" data-type=\"link\" data-id=\"www.scottishdental.nhs.scot\">www.scottishdental.nhs.scot<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan Gymdeithas Gerodontoleg Prydain nifer o adnoddau sy&#8217;n canolbwyntio ar iechyd y geg <strong><a href=\"http:\/\/www.gerodontology.com\" data-type=\"link\" data-id=\"www.gerodontology.com\">www.gerodontology.com<\/a><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"536\" height=\"638\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Toothpaste.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-275\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Toothpaste.png 536w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Toothpaste-252x300.png 252w\" sizes=\"auto, (max-width: 536px) 100vw, 536px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L10topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L10topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Er bod brwsio dannedd yn arfer gydol oes i&#8217;r rhan fwyaf o bobl, gall rhai unigolion sy&#8217;n byw \u00e2 dementia anghofio gwneud neu golli&#8217;r sgiliau echddygol neu\u2019r gallu i\u2019w wneud yn iawn. Mae glanhau\u2019r dannedd yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-802","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/802","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=802"}],"version-history":[{"count":29,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/802\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1602,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/802\/revisions\/1602"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=802"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}