{"id":790,"date":"2026-09-01T11:01:10","date_gmt":"2026-09-01T11:01:10","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=790"},"modified":"2026-09-01T11:01:10","modified_gmt":"2026-09-01T11:01:10","slug":"cymorth-i-ymolchi-cael-cawod-a-chael-bath","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/cymorth-i-ymolchi-cael-cawod-a-chael-bath\/","title":{"rendered":"Cymorth i ymolchi, cael cawod a chael bath"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L9-help-with-washing-and-showering-Wv1.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L9-help-with-washing-and-showering-Wv1.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Mae pa mor aml rydym yn ymolchi, pryd a sut rydym ni&#8217;n gwneud hynny, i gyd yn arferion personol iawn sydd wedi datblygu yn ystod&nbsp; ein bywyd. Ni fydd y rhan fwyaf ohonom wedi bod angen unrhyw help i wneud hyn ers i ni fod yn blant bach. Fodd bynnag, mae&#8217;r gweithgareddau hyn yn gallu bod yn anodd i bobl sy&#8217;n byw gyda dementia. Gall y difrod i adrannau cof yr ymennydd olygu bod pobl yn anghofio nad ydynt wedi ymolchi. Mae ymolchi a chael cawod yn dibynnu ar nifer o sgiliau gwahanol. Mae angen cofio\u2019r camau, gweld ble mae pethau, deall beth sy\u2019n digwydd, teimlo\u2019n ddiogel ac yn gyfforddus, a chael y cymhelliant i wneud y dasg. Gall dementia wneud pob un o\u2019r pethau hyn yn anodd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pawb yn ymateb yn wahanol wrth i rhywun eu helpu i ymolchi. Gall rhai deimlo\u2019n rhwystredig, teimlo cywilydd, neu teimlo\u2019n ddryslyd. Efallai hefyd y bydd teimlad synhwyraidd yn un annymunol. Efallai na fydd yr person yn deall pam rydych yn ceisio helpu, gan eu bod yn credu eu bod eisoes wedi ymolchi. Mae helpu rhywun&nbsp;i ymolchi bod yn heriol, yn gorfforol ac yn emosiynol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pawb yn wahanol, ac mae pawb yn ymateb yn wahanol i sefyllfa fel hon, a phawb a\u2019i brofiad ei hun. Efallai na fydd y syniadau yn y llyfryn hwn yn gweithio i bawb, ond mae wedi helpu rhai pobl. Gobeithiwn y bydd rhai ohonynt yn ddefnyddiol i chi hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"L9topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#washingW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#washingW\">Pa mor aml ydych chi&#8217;n ymolchi a sut ydych chi&#8217;n ymolchi?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#familiarroutineW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#familiarroutineW\">Trefn arferol a phethau cyfarwydd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#dignitychoiceW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#dignitychoiceW\">Urddas a dewis<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#equipadaptW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#equipadaptW\">Offer ac addasiadau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#washhelpW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#washhelpW\">Derbyn cymorth<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 id=\"washingW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-2\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Pa mor aml ydych chi&#8217;n ymolchi a sut ydych chi&#8217;n ymolchi<\/strong>?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall arferion amrywio hyd yn oed rhwng partneriaid neu ffrindiau agos.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os ydych chi&#8217;n gofalu am rywun, ceisiwch ddilyn &nbsp;eu harferion nhw, nid rhai chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Os ydych chi&#8217;n hoffi cael cawod bob dydd ond mae\u2019r person &nbsp;rydych yn gofalu amdano yn hoffi bath wythnosol, mae&#8217;n annhebygol y byddwch chi&#8217;n eu cael nhw i newid eu harfer!<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau mae pobl yn dychwelyd at yr arferion ymolchi roeddent yn eu dilyn pan oeddent yn iau.<\/li>\n\n\n\n<li>I lawer o bobl h\u0177n, roedd cael bath unwaith yr wythnos yn arferiad cyffredin ac roedd ymolchi wrth y sinc ar y dyddiau eraill yn rhan arferol o fywyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai bod cael cawod yn brofiad cymharol newydd ym mywyd rhywun. Er efallai eu bod wedi arfer cael cawod &nbsp;cyn datblygu dementia, gall bath neu ymolchi wrth y sinc deimlo\u2019n fwy cyfarwydd ac yn fwy cysurus.<\/li>\n\n\n\n<li>Meddyliwch oes angen bath, cawod neu olchi llawn ar y person heddiw? A allai ymolchi\u2019n llai aml fod yn well?<\/li>\n\n\n\n<li>Fyddai ymolchi wrth y sinc weithio&#8217;n well i\u2019r person.<\/li>\n\n\n\n<li>BMae llawer o bobl yn fwy parod i ymolchi os oes rheswm da dros wneud hynny. Er enghraifft \u201cRydyn ni\u2019n mynd i weld Dafydd y prynhawn yma felly beth am ymolchi a gwneud ein hunain yn daclus?\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n syniad da iawn cofnodi mor fanwl \u00e2 phosibl yn gynnar yn eu cyfnod dementia, arferion ymolchi, cael cawod neu bath mae\u2019r unigolyn yn eu dilyn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L9topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L9topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"familiarroutineW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-3\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Trefn arferol a phethau cyfarwydd<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddiwch yr un sebon, siamp\u0175 a chynhyrchion mae&#8217;r person wedi arfer eu defnyddio. Gall arogl sebon cyfarwydd eu hatgoffa ei bod hi\u2019n ym amser ymolchi.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch eiriau neu ymadroddion sy\u2019n gyfarwydd iddynt i\u2019w helpu i deimlo\u2019n fwy hamddenol. Er enghraifft, &#8220;Nos Wener yw noson cael bath.\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Os oes angen ychydig o help ymarferol ar y person i ymolchi, ceisiwch wneud pethau yn yr un drefn ag y maen nhw wedi arfer \u00e2 hi neu yn y ffordd maen nhw\u2019n dangos eu bod am ei wneud. Ydy\u2019r unigolyn yn defnyddio cadach &nbsp;ymolchi? Ydyn nhw\u2019n hoffi golchi eu gwallt a&#8217;u hwyneb tra yn y bath?<\/li>\n\n\n\n<li>Gall ymolchi, cael cawod neu gael bath ar yr un amser, gan ddilyn yr un drefn, gan atgoffa\u2019n rheolaidd mai dyna yw\u2019r drefn, helpu i wneud ymolchi \u00e2 chymorth ddod yn beth normal a derbyniol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L9topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L9topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"dignitychoiceW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-4\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Urddas a dewis<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Meddyliwch sut y gallwch wneud ymolchi yn brofiad sydd yn cadw urddas y person.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch dau dywel mawr &#8211; un i orchuddio&#8217;r corff ac un i sychu.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae rhai pobl yn teimlo\u2019n fwy cyfforddus yn defnyddio g\u0175n ymolchi sy\u2019n cadw\u2019r corff wedi\u2019i orchuddio wrth gael cawod.<\/li>\n\n\n\n<li>Anogwch y person i wneud cymaint ag y gall droso\u2019i hyn. Er y gall ymddangos yn gyflymach gwneud popeth drostynt, mae gwneud hynny\u2019n gallu lleihau eu hyder a\u2019u hannibyniaeth. Mae rhoi\u2019r cyfle iddynt wneud yr hyn y gallant wneud yn eu helpu i gadw eu sgiliau a\u2019u hurddas.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd hyn yn teimlo&#8217;n fwy naturiol a dymunol os ydyn nhw&#8217;n gallu helpu i olchi eu hunain, galli hyn hefyd helpu i gynnal eu galluoedd a&#8217;u hurddas.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad ydyn nhw\u2019n medru helpu i ymolchi eu hunain, ystyriwch os mae\u2019n fwy hwylus iddyn nhw sefyll neu eistedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad chi yw partner yr unigolyn sy&#8217;n byw gyda dementia, beth am ofyn i rywun o&#8217;r un rhyw eu helpu i olchi gan y gallai hyn deimlo&#8217;n fwy urddasol. Ystyriwch beth fyddai orau gan yr unigolyn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Awgrymiadau ar gyfer lleihau anesmwythyd a phryder<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pethau i&#8217;w hystyried ymlaen llaw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Peidiwch \u00e2 rhuthro &#8211; gwnewch yn si\u0175r bod gennych ddigon o amser a chynlluniwch ar gyfer hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyn cychwyn, cymerwch beth amser i ystyried a meddwl am bob cam, beth fyddai\u2019n gweithio orau i&#8217;r ddau ohonoch, a beth fyddai\u2019n helpu.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn aml, bydd person sy\u2019n byw gyda dementia yn dweud \u201cna\u201d os nad yw\u2019n gallu gweld yn ei feddwl beth rydych yn gofyn iddo ei wneud. Yn lle gwneud y dasg gyfan drosto, dywedwch eich bod am \u201croi help llaw\u201d a\u2019i gefnogi i wneud cymaint ag y gall ei hun.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall pobl sy&#8217;n byw gyda dementia fod yn fwy sensitif i dymheredd, felly gwnewch yn siwr nad yw&#8217;r d\u0175r yn rhy boeth ac nad yw\u2019r ystafell yn rhy oer. Cofiwch hefyd fod pethau fel y llawr a sedd y t\u0177 bach yn gallu teimlo\u2019n oer a theimlo\u2019n annifyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cyffyrddiad hefyd yn bwysig. Er bod rhai pobl yn gwisgo menig ar gyfer hylendid, mae\u2019n well gan eraill beidio gan y gall menig deimlo&#8217;n rhyfedd ac yn anghyfforddus i&#8217;r unigolyn rydych chi&#8217;n ei helpu.<\/li>\n\n\n\n<li>Cadwch eich ewinedd yn fyr. Mae hyn yn lleihau&#8217;r risg o grafu\u2019r person ac hefyd yn sicrhau glanweithdra.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r person yn teimlo\u2019n flin, yn bryderus neu&#8217;n ofidus cyn i chi ddechrau eu helpu i ymolchi, y peth gorau yw gohirio\u2019r weithgaredd.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd ceisio gorfodi rhywun i olchi yn cynyddu teimladau negyddol am ymolchi ac yn gwneud pethau&#8217;n anoddach.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:50%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae llawer o bobl yn sylwi &nbsp;fod cerddoriaeth yn gallu gwneud yr awyrgylch yn fwy hamddenol a helpu i dynnu sylw\u2019r person wrth ymolchi. Mae rhai yn mwynhau canu gyda\u2019i gilydd, tra bod eraill yn chwarae rhestr o hoff ganeuon, ar speaker sy&#8217;n ddiogel i&#8217;w defnyddio yn yr ystafell ymolchi.<\/li>\n\n\n\n<li>Gweler gwybodaeth gan Dementia UK am effaith cerddoriaeth ar rywun \u00e2 dementia <a href=\"https:\/\/www.dementiauk.org\/information-and-support\/living-with-dementia\/music-and-dementia\/\"><strong>www.dementiauk.org<\/strong><\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:50%\">\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"672\" height=\"558\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Music.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-258\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Music.png 672w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Music-300x249.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 672px) 100vw, 672px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Ymolchi, cael bath a chawod<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Weithiau os nad yw person yn deall beth sy&#8217;n digwydd neu beth i&#8217;w ddisgwyl gallai hyn achosi pryder.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyn ichi ddechrau, eglurwch yn syml beth rydych chi\u2019n mynd i wneud a pham.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch arwyddion di-eiriau fel meim\/dangos efo\u2019ch dwylo neu ddangos y sebon, y siamp\u0175 neu\u2019r offer rydych chi&#8217;n mynd i&#8217;w defnyddio.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall rhoi cyfle i\u2019r unigolyn gyffwrdd, arogli a gweld y cynhyrchion cyn eu defnyddio fod o help iddynt baratoi ar gyfer ymolchi.<\/li>\n\n\n\n<li>Lle bo\u2019n briodol, gall hiwmor ysgafnhau\u2019r awyrgylch, lleihau tensiwn a gwneud i\u2019r person deimlo\u2019n fwy cyfforddus.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau, wrth i chi roi help iddynt, gall y person feddwl mai rhywun arall ydych chi. Er enghraifft, efallai y bydd yn meddwl mai ei fam neu ei chwaer fawr ydych chi. Mae hyn yn gyffredin ymhlith pobl sy\u2019n byw gyda dementia. Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch beidio \u00e2 gorymateb na chwaith eu cywiro. Mae\u2019n bosibl bod hen atgofion yn dod yn \u00f4l iddynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Trefnwch gwneud rhywbeth pleserus ar \u00f4l gorffen ymolchi, rhywbeth mae\u2019r person yn ei fwynhau. Gallwch son am hyn wrth ymolchi i roi rhywbeth iddynt edrych ymlaen ato.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L9topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L9topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"equipadaptW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-6\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Offer ac addasiadau<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall offer addas wneud ymolchi\u2019n haws ac yn fwy diogel e.e. bariau gafael, st\u00f4l gawod, cadair ymolchi neu pen cawod y gallwch afael ynddo.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae llawer hefyd yn gweld bod matiau bath gwrthlithro yn hanfodol, cyn belled \u00e2&#8217;u bod yn cael eu cadw&#8217;n l\u00e2n ac mewn cyflwr da.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall cawod y gellid cerdded i mewn iddi neu ystafell wlyb wneud golchi&#8217;n haws. Fodd bynnag, nid yw addasu ystafell ymolchi fel hyn yn fforddiadwy nac yn ymarferol i bawb ac efallai na fydd rhai yn dymuno cael un.<\/li>\n\n\n\n<li>I rai pobl sy\u2019n byw gyda dementia, gall ystafell wlyb deimlo\u2019n anghyfarwydd a pheri dryswch.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae hefyd gwahanol mathau o offer ar gael i helpu rhywun i fynd i mewn ac allan o\u2019r bath yn mwy diogel, pethau megis \u2018hoist\u2019.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:50%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyn prynu offer drud, mae\u2019n syniad da rhoi cynnig arno yn gyntaf i weld os yw\u2019n addas.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai bydd rhai pobl \u00e2 dementia yn ei chael hi&#8217;n anodd defnyddio offer anghyfarwydd. Mae&#8217;n bwysig cyflwyno un peth ar y tro yn raddol.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cynhyrchion golchi\u2019r corff a siamp\u0175 &#8216;di-dd\u0175r&#8217; ar gael. Gellir eu rhoi\u2019n syth ar y croen neu\u2019r gwallt ac yna eu sychu i ffwrdd. Gall rhain fod yn ddefnyddiol dros dro pan nad yw\u2019n bosibl cael ymolchi, cael cawod neu fath llawn.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:50%\">\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"724\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-724x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-262\" style=\"width:259px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-724x1024.jpeg 724w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-212x300.jpeg 212w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-768x1086.jpeg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-1086x1536.jpeg 1086w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-1448x2048.jpeg 1448w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-scaled.jpeg 1810w\" sizes=\"auto, (max-width: 724px) 100vw, 724px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae nwyddau ymolchi diogel nad oes angen eu golchi i ffwrdd (Nilaqua <a href=\"https:\/\/nilaqua.co.uk\/\"><strong>https:\/\/nilaqua.co.uk\/<\/strong><\/a>) ar gyfer golchi\u2019r corff a\u2019r gwallt. Gall rhain fod yn ddefnyddiol iawn os yw&#8217;r person yn amharod neu&#8217;n anfodlon cael cawod neu fath.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cynnyrch o\u2019r enw &#8216;Shower Drapon&#8217; gan Limon Attire hefyd ar gael. Mae defnyddio hwn yn golygu medrwch chi ymolchi&#8217;r person drwy\u2019r defnydd. Gall hyn helpu os mae nhw\u2019n teimlo\u2019n swil, anghyffyrddus neu\u2019n bryderus am gael cawod neu fath. Ewch i wefan Limon Attire am ragor o wybodaeth <strong><a href=\"http:\/\/www.limonattire.com\" data-type=\"link\" data-id=\"www.limonattire.com\">www.limonattire.com<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>Holwch eich fferyllydd am y nwyddau hyn neu chwiliwch amdanynt mewn archfarchnadoedd neu ar-lein.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y clip byr canlynol, mae Paul yn rhannu ei brofiadau o helpu ei wraig yn y gawod a rhai o&#8217;r offer y mae&#8217;n ei chael yn ddefnyddiol. Sylwch nad yw unrhyw s\u00f4n am gynhyrchion penodol yn gymeradwyaeth, ond beth sy&#8217;n helpu Paul a&#8217;i wraig yn eu sefyllfa.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Crossing the Line - Washing and showering\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/ZHVueFj_2eQ?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L9topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L9topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"washhelpW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-7\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Derbyn cymorth<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall helpu rhywun gyda\u2019i hylendid personol yn rheolaidd fod yn flinedig, yn gorfforol ac yn emosiynol. Cofiwch nad oes rhaid i chi wneud popeth ar eich pen eich hun. Mae amrywiaeth o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ar gael i gynnig cyngor ymarferol, offer a chymhorthion a all wneud pethau\u2019n haws i chi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-8 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Ffoniwch unrhyw un o&#8217;r llinellau cymorth canlynol i gael cyngor a chymorth: Cymdeithas Alzheimer 03300947400; Llinell Gymorth Dementia Cymru 0808 808 2235, Carers Wales 0808 808 7777, Nyrs Admiral Dementia UK 0800 888 6678; Dementia Carers Count 0800 652 1102. Mae\u2019r bobl sy\u2019n ateb y galwadau hyn yn brofiadol, yn ddeallus ac yno i wrando a\u2019ch cefnogi. Ni fydd unrhyw beth a ddywedwch yn eu synnu nac yn peri embaras iddyn.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L9topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L9topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Mae pa mor aml rydym yn ymolchi, pryd a sut rydym ni&#8217;n gwneud hynny, i gyd yn arferion personol iawn sydd wedi datblygu yn ystod&nbsp; ein bywyd. Ni fydd y rhan fwyaf ohonom wedi bod angen [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-790","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/790","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=790"}],"version-history":[{"count":56,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/790\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1601,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/790\/revisions\/1601"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=790"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}