{"id":758,"date":"2026-09-01T10:53:35","date_gmt":"2026-09-01T10:53:35","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=758"},"modified":"2026-09-01T10:53:35","modified_gmt":"2026-09-01T10:53:35","slug":"ymdopi-ag-emosiynau-cymhleth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/ymdopi-ag-emosiynau-cymhleth\/","title":{"rendered":"Ymdopi ag emosiynau cymhleth"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L2-complex-emotions-Wv1.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L2-complex-emotions-Wv1.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Gall rhoi a derbyn gofal personol arwain at ystod eang o deimladau cymhleth ac annisgwyl. Yn y llyfryn hwn, rydym yn s\u00f4n am ffyrdd cyffredin mae bobl yn ymateb yn emosiynol&nbsp; ac yn cynnig ychydig o gyngor ar sut orau i ymateb.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"L2topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#acceptanceW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#acceptanceW\">Derbyn a gwrthod; dod i delerau \u00e2 newid<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#angerW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#angerW\">Gwylltio\/Digio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#apathyW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#apathyW\">Difaterwch<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#depressionW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#depressionW\">Iselder<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#distressW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#distressW\">Gofid\/Trallod<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#guiltW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#guiltW\">Euogrwydd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#humourW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#humourW\">Hiwmor<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#relationshipchangesW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#relationshipchangesW\">Newid mewn perthynas<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 id=\"acceptanceW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color has-large-font-size wp-elements-2\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Derbyn a gwrthod; dod i delerau \u00e2 newid<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\" style=\"font-style:italic;font-weight:400\">&#8220;<em>Dydy o ddim yn meddwl bod unrhyw beth o&#8217;i le arno<\/em>&#8220;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\" style=\"font-style:italic;font-weight:400\">&#8220;<em>Mae hi\u2019n gwrthod unrhyw gymorth, gan ddweud gall hi ymdopi ar ei phen ei hun<\/em>&#8220;<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dygymod \u00e2 cholli&#8217;r gallu i ofalu amdanoch chi&#8217;ch hun-rywbeth rydych wedi&nbsp;gallu ei wneud ers yn blentyn, yn gam enfawr. Yr un modd, gall gweld rhywun rydych chi&#8217;n ei garu yn cael trafferth&nbsp;gofalu amdanynt eu hunain fod yn anodd iawn. Mae dygymod \u00e2&#8217;r newidiadau hyn yn cymryd amser.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall fod sawl rheswm pam bod rhywun yn ei chael yn anodd derbyn cymorth. Oherwydd yr anghofio sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 dementia, efallai na fydd yr unigolyn yn gweld bod ganddyn nhw anawsterau, ac felly ddim yn gweld bod angen eich cymorth. A gall colli annibyniaeth arwain at deimladau o ofn, cywilydd a chwithdod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O sylweddoli bod rhai pethau&#8217;n anodd i&#8217;w gwneud, gall y person bryderu am oblygiadau hyn, ac ofni&nbsp;am y dyfodol. Gallant fod eisiau cuddio eu hanawsterau am&nbsp;eu bod yn poeni.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:100%\">\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar gyfer helpu rhywun sy&#8217;n gwrthod cymorth<\/strong><\/strong><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall sgwrsio am roi a derbyn cymorth yn gynnar yn y broses, helpu gyda derbyn gofal pan fydd yr angen yn codi.<\/li>\n\n\n\n<li>Sgwrsiwch am y pwnc mewn ffordd addfwyn, i geisio&nbsp; annog y person i dderbyn cymorth. Gadewch i&#8217;r unigolyn wybod eich bod eisio&#8217;r gorau iddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn garedig, rhowch esiamplau o bethau rydych chi wedi sylwi sy&#8217;n pery trafferth iddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwrandewch ar eu barn, eu pryderon, a&#8217;u syniadau yngl\u0177n \u00e2 chefnogaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Parchwch hawl pobl i wrthod cymorth, ac eglurwch pam rydych chi eisiau helpu.<\/li>\n\n\n\n<li>Ar adegau, gall y person wrthod cymorth am nad&nbsp;ydynt yn&nbsp;gweld eu bod angen cymorth. Ceisiwch osgoi&nbsp;trafodaeth hir am bethau &#8216;dyw&#8217;r person ddim yn gallu eu gwneud.<\/li>\n\n\n\n<li>Cofiwch fod derbyn yn haws os yw rhywun yn teimlo eu bod yn&nbsp;cael eu parchu a bod pobl yn gwrando arnyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallwch awgrymu mai dros dro y byddwch yn helpu, a falle bydd hyn yn ei gwneud yn haws i&#8217;r person&nbsp;dderbyn eich cefnogaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallwch ganolbwyntio ar broblem ymarferol, llai emosiynol (fel colli golwg, neu trafferth codi). Gallai hyn wneud y cymorth yn haws i&#8217;w dderbyn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n<p><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\"><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a>.<\/a><\/p>\n\n\n<h2 id=\"angerW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color has-large-font-size wp-elements-4\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Gwylltio\/Digio<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Mae hi\u2019n mynd mor flin gyda fi! Dim ond ceisio helpu ydw i!<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Yn sydyn, pan fydda i&#8217;n ei helpu i wisgo, bydd yn gwylltio heb unrhyw reswm<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Unryw adeg dw i&#8217;n ceisio ei helpu i ymolchi, bydd yn troi&#8217;n ffrae<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dicter yn cwmpasu ystod eang o emosiynau o ddigio i fod yn hollol gynddeiriog. Bydd gwahanol bobl yn mynegi eu dig mewn gwahanol ffyrdd. Mae adnabod yr unigolyn dros y blynyddoedd yn rhoi syniad da i chi o sut mae nhw&#8217;n mynegi dicter.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl yn aml yn ymateb yn flin pan yn wynebu rhywbeth gallan nhw ddim wneud, neu pan maent yn ofnus. Mae hyn yn wir am bawb ohonom, dementia ai peidio. Ond efallai gall y person \u00e2 dementia ddim mynegi&#8217;r emosiynau hynny mewn ffordd sy&#8217;n dderbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall derbyn cymorth gyda gofal personol greu teimladau o gywilydd neu deimlad o golli rheolaeth dros eu bywyd. I rai pobl, gall gweithgaredd gofal personol sbarduno atgofion drwg o&#8217;r gorffennol. Efallai y gwelwch bod dicter mwy dwys yn y sefyllfaoedd yma.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth ydych chi&#8217;n meddwl sy wedi achosi&#8217;r dicter<\/strong>?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ydi&#8217;r person mewn poen? Weithiau gall symud wrth dderbyn gofal personol fod yn boenus.<\/li>\n\n\n\n<li>Ydyn nhw wedi camddehongli&#8217;r hyn roeddech chi&#8217;n geisio ei wneud?<\/li>\n\n\n\n<li>Oedd rhywbeth yn y ffordd y buo i chi siarad neu symud wedi sbarduno ei ymateb?<\/li>\n\n\n\n<li>Oeddech chi&#8217;n brysio neu&#8217;n ceisio cael yr unigolyn i wneud rhywbeth nad oedd eisiau ei wneud? Os felly, oes raid ei wneud nawr? Neu gall y dasg aros?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong><strong>Syniadau ar gyfer ymateb i ddicter annisgwyl<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pan fydd rhywun yn ymddwyn yn flin tuag atom ni, gall wneud i ni deimlo&#8217;n flin hefyd. Ceisiwch ymateb mor dawel a digynnwrf \u00e2 phosibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch osod eich emosiynau eich hun o&#8217;r neilltu am ychydig . Ceisiwch ddychmygu&#8217;r sefyllfa o bersbectif y person arall, ac ystyriwch beth allen nhw fod yn ei deimlo.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyn dweud unrhyw beth, cymerwch anadl ddofn, ac oedi ychydig.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallwch gydnabod teimladau&#8217;r person drwy ddweud rhywbeth fel \u201cSori, doeddwn i ddim yn bwriadu eich cynhyrfu\u201d a gofyn, \u201cBeth fyddai\u2019n gwneud hyn yn haws i chi?\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch ganfod beth mae&#8217;r person eisiau neu ei angen gennych chi.<\/li>\n\n\n\n<li>EEfallai na fydd y dicter yn para&#8217;n hir ac unwaith i chi egluro&#8217;n garedig mai ceisio helpu ydych chi, gall y person dawelu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar gyfer ymateb i gynddaredd neu ddicter dwys iawn<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os yw&#8217;r dicter yn parhau neu&#8217;n dwys\u00e1u, gwell oedi a newid y pwnc neu&#8217;r gweithgaredd. Gallwch roi cynnig arall arni rywbryd eto, pan fydd y person mewn gwell hwyliau.<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedwch rywbeth fel, \u201cSori, dw i\u2019n gweld mod i&#8217;n eich gwneud chi\u2019n ddig, felly dw i am stopio, a gallwch ddweud wrtha i beth rydych angen i mi ei wneud.\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>BByddwch yn ymwybodol y gall newid y pwnc neu dynnu sylw oddi wrth yr hyn sy&#8217;n creu&#8217;r cyffro gynnig saib dros dro. Ond gallai&#8217;r dicter ddychwelyd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Gofalu amdanoch chi&#8217;ch hun<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae cael rhywun yn ymateb yn flin tuag atoch yn brofiad anodd.<\/li>\n\n\n\n<li>Os ydych chi wedi profi sefyllfaoedd anodd gyda&#8217;r person rydych chi&#8217;n gofalu amdanynt, ceisiwch siarad \u00e2 rhywun fydd yn gefnogol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall crio &#8211; neu regi- yn dawel ar eich pen eich hun, weithiau helpu i ryddhau&#8217;r emosiwn dwys, a gall siarad efo rhywun amdano eich helpu i gadw&#8217;n gryf yn emosiynol.<\/li>\n\n\n\n<li>Fel y sawl yn eich gofal, rydych chithau angen gwrand\u00e4wr gallwch ymddiried ynddynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Os oes ymateb blin yn digwydd yn aml, neu os nad ydych yn eu deall, yna mae&#8217;n bwysig i chi geisio cymorth.<\/li>\n\n\n\n<li>Os ydych chi&#8217;n pryderu am eich diogelwch, yna ceisiwch gymorth proffesiynol. Peidiwch \u00e2 rhoi eich hun mewn perygl.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\" style=\"color:#025530\"><strong>Siaradwch am bethau gyda ffrind da neu ffoniwch unrhyw un o&#8217;r llinellau cymorth yma: Cymdeithas Alzheimer 03300 947 400; Llinell Gymorth Dementia Cymru 0808 808 2235; Carers Wales 0808 808 7777; Nyrs Admiral Dementia UK 0800 888 6678; Dementia Carers Count 0800 652 1102. Bydd dim byd a ddywedwch yn pery syndod i&#8217;r person fydd yn ateb eich galwad.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\">Dychwelyd at frig y dudalen.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"apathyW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-8\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Difaterwch<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Mae fel petai wedi colli diddordeb mewn bywyd<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Y cyfan mae o eisiau wneud yw eistedd yn y gadair drwy\u2019r dydd<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Weithiau mae hyd yn oed codi o\u2019r gadair i fynd i\u2019r toiled yn ormod o ymdrech<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Pryd bynnag byddaf yn awgrymu rhywbeth, mae hi &#8216;n dweud y gwnaiff hi o rywbryd eto<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn aml, mae difaterwch yn ymddangos fel petai&#8217;r unigolyn yn colli diddordeb mewn bywyd. Gall ymddangos bod dim byd yn ysgogi&#8217;r unigolyn, neu bydd yn cymryd amser hir i gychwyn tasg neu weithgaredd y byddai cynt wedi\u2019u gwneud heb unrhyw ymdrech. Weithiau gall pobl ddod i batrwm o beidio \u00e2 gwneud fawr, am fod mynd i&#8217;r afael \u00e2 thasgau yn amlygu&#8217;r ffaith eu bod bellach yn rhy anodd i&#8217;w gwneud.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall rhai mathau o ddementia amharu ar y rhan o&#8217;r ymennydd sy&#8217;n hwyluso &#8216;dechrau a gorffen&#8217; gweithgaredd. Yn aml, gall difaterwch effeithio ar sut mae&#8217;r unigolyn yn cyflawni gofal personol fel glanhau dannedd, brwsio gwallt, ac ati. Felly gall y cyfrifoldeb o ysgogi gofal personol ddisgyn ar y gofalwr neu&#8217;r cefnogwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar gyfer cefnogi rhywun sydd wedi colli eu sbarc at fywyd<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os nad yw&#8217;r person rydych chi&#8217;n eu helpu eisiau gwneud y dasg dan sylw, gall helpu i newid i weithgaredd hollol wahanol fel mynd am dro neu chwarae g\u00eam.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallai&#8217;r un math o ofal personol fod yn fwy derbyniol ar wahanol adeg o&#8217;r dydd.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"710\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Walking-dog-1024x710.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-123\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Walking-dog-1024x710.jpg 1024w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Walking-dog-300x208.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Walking-dog-768x532.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Walking-dog-1536x1065.jpg 1536w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Walking-dog-2048x1419.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yn gyffredinol mae bobl yn fwy egniol yn gynharach yn y dydd, er bod hyn yn amrywio o un person i&#8217;r llall.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall dychwelyd i&#8217;r dasg nes ymlaen newid agwedd y person at y dasg dan sylw.<\/li>\n\n\n\n<li>Gydag anogaeth a digon o amser, gall y person ddal ati i reoli llawer o agweddau ar eu gofal personol.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch ddefnyddio awgrymiadau a chliwiau, fel rhoi&#8217;r brws dannedd yn llaw&#8217;r unigolyn i&#8217;w annog i lanhau eu dannedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall iselder effeithio ar gymhelliant a gallu pobl i gyflawni tasgau bob dydd. Os yw&#8217;r unigolyn yn esgeuluso eu gofal personol am rai wythnosau, mae&#8217;n bwysig ystyried a allent fod yn isel eu hysbryd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\">Dychwelyd at frig y dudalen.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"depressionW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-10\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Iselder<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Alla i ddim stopio wylo<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n dideimlad ac yn teimlo\u2019n wag<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Does ganddi ddim awydd bwyta<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Does dim byd yn dod \u00e2 llawenydd iddo mwyach<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Alla i ddim peidio bwyta<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Alla i ddim cofio&#8217;r tro diwethaf i mi gael noson dda o gwsg<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">MMae teimladau o iselder yn gyffredin pan fyddwch chi&#8217;n delio \u00e2 chyflwr fel dementia. Mae hyn yn wir i&#8217;r sawl sy&#8217;n byw gyda dementia a&#8217;r rhai sy&#8217;n gofalu. Mae teimladau o dristwch a chael llond bol yn ymatebion normal i sefyllfaoedd o straen, yn enwedig os yw&#8217;r sefyllfa&#8217;n mynd ymlaen am flynyddoedd . Drwy ofalu amdanoch chi&#8217;ch hun, gallwch sicrhau nad ydych yn suddo i iselder.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">FWedi dweud hynny, mae teimladau isel yn llethu pobl weithiau, i&#8217;r graddau mae&#8217;n rhaid cael help proffesiynol. Os yw rhywun wedi bod yn profi symptomau iselder am fwy na thair wythnos, mae&#8217;n bwysig siarad \u00e2 rhywun. Mae iselder yn achosi i bobl deimlo&#8217;n bryderus, yn ddagreuol neu&#8217;n anobeithiol. Hefyd mae&#8217;n effeithio ar awydd bwyta a phatrwm cwsg, a gall iselder ei gwneud hi&#8217;n anodd canolbwyntio. Mewn rhai achosion gall iselder arwain at feddyliau o niweidio eu hunain, neu hunanladdiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Y person sy&#8217;n byw gyda dementia yn profi iselder<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">MMae iselder yn gyffredin ymhlith pobl \u00e2 dementia. Weithiau mae&#8217;n digwydd fel ymateb i dderbyn diagnosis. Gall hefyd ddigwydd yn sgil colli annibyniaeth, yn enwedig os yw&#8217;r unigolyn yn ei chael hi&#8217;n anodd dibynnu ar eraill am gymorth. Gall unigrwydd wneud hyn yn llawer gwaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall iselder effeithio gallu rhywun i gyflawni tasgau bob-dydd, a&#8217;u gallu i gyflawni eu gofal personol. Os yw&#8217;r person yn esgeuluso eu gofal personol, mae&#8217;n bwysig ystyried a allent fod yn isel eu hysbryd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar gyfer helpu pobl sy&#8217;n byw gyda dementia, i ymdopi ag iselder<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os ydych yn amau bod iselder, dylid bob amser s\u00f4n wrth eu Meddyg Teulu, er mwyn iddynt asesu a yw&#8217;r unigolyn yn dioddef o iselder.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn dibynnu ar allu&#8217;r unigolyn i gymryd rhan, gall y Meddyg awgrymu pethau fel therap\u00efau siarad a chwnsela.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y Meddyg Teulu&#8217;n gallu dweud os allai meddyginiaeth helpu ai peidio. Mae meddyginiaeth gwrth-iselder yn helpu rhai pobl, ond ddim pawb sy&#8217;n elwa.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch feddwl am bethau yr arferai&#8217;r person fwynhau eu gwneud, a rhowch gyfleoedd iddynt eu mwynhau eto. Gwnewch y rhain am gyfnodau byr i ddechrau, rhag i&#8217;r person gael eu llethu.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch sicrhau bod yr unigolyn yn cael eu hannog i wneud cymaint ag y gall drostynt eu hunain. Gall helpu&#8217;r unigolyn i fod efo rheolaeth, hyd yn oed dros benderfyniadau bach iawn, wneud gwahaniaeth mawr efo iselder. Dathlwch y camau bach.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch annog gweithgarwch corfforol ar lefel sy&#8217;n briodol i&#8217;r unigolyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn aml gall mynd allan i fwynhau byd natur godi ysbryd rhywun.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch bod cyfle bob dydd i&#8217;r person deimlo iddynt gyflawni rhywbeth, a chael pleser. Ychydig bach bob dydd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Y person sy&#8217;n gofalu ac iselder<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gofalu am rywun \u00e2 dementia yn cynyddu risg yr unigolion o brofi iselder. Nid yw&#8217;n anghyffredin i bobl sy&#8217;n gofalu am rywun \u00e2 dementia brofi iselder a hwyliau isel. Gall y teimladau hyn gael eu sbarduno gan heriau darparu gofal personol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall iselder effeithio ar allu&#8217;r person i gyflawni tasgau gofalu, a\u2019i gwneud yn anoddach i gefnogi&#8217;r person \u00e2 dementia gyda&#8217;u gofal personol. Gall iselder ei gwneud hi&#8217;n anodd dal ati i ymdrechu a theimlo&#8217;n gadarnhaol. Gall diffyg cwsg wneud i bobl deimlo&#8217;n flinedig drwy&#8217;r amser, yna does ganddyn nhw mo&#8217;r egni i gefnogi, ac i gyflawni gofal personol yn ogystal \u00e2 gofalu amdanyn nhw eu hunain. Gall hefyd wneud i ofalwyr feddwl nad yw eu sgiliau a&#8217;u galluoedd gofalu yn ddigon da.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau i helpu gofalwyr ymdopi ag iselder<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Fel y sawl yn eich gofal, rydych chi angen rhywun i siarad \u00e2 nhw, rhywun y gallwch ymddiried ynddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Os tybiwch eich bod chi&#8217;n isel eich ysbryd, siaradwch \u00e2&#8217;ch Meddyg Teulu. Dylai&#8217;r Meddyg Teulu allu cynnal asesiad.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai bydd yn awgrymu therap\u00efau siarad neu gwnsela. Mae llawer o help ar gael ar-lein erbyn hyn yn ogystal ag wyneb yn wyneb.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd eich Meddyg Teulu hefyd yn gallu eich cynghori a fyddai meddyginiaeth o gymorth i chi ai peidio.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch bod eich Meddyg Teulu yn deall bod gennych gyfrifoldebau gofalu sylweddol, gan y gallai gynnig gwasanaethau cymorth ychwanegol.<\/li>\n\n\n\n<li>Drwy roi gwybod i&#8217;ch Meddyg Teulu ac eraill bod iselder yn effeithio ar eich gallu i ofalu, neu fod tasgau gofal personol yn gwneud i chi deimlo&#8217;n isel, rydych yn agor y drws i gynigion o gymorth ychwanegol i chi&#8217;ch hun, ac i&#8217;r sawl rydych chi&#8217;n gofalu amdanynt.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\" style=\"color:#025530\"><strong>Siaradwch am eich sefyllfa gyda ffrind da neu ffoniwch unrhyw un o&#8217;r llinellau cymorth hyn: Cymdeithas Alzheimer 03300 947 400; Llinell Gymorth Dementia Cymru 0808 808 2235; Carers Wales 0808 808 7777; Nyrs Admiral Dementia UK 0800 888 6678; Dementia Carers Count 0800 652 1102. Bydd dim byd a ddywedwch yn pery syndod i&#8217;r person fydd yn ateb eich galwad.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Meddwl am hunanladdiad a lles meddyliol<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd 1 o bob 4 ohonom yn dioddef \u00e2 phroblemau iechyd meddwl rywbryd yn ystod ein hoes. Nid oes cywilydd na gwendid mewn gofyn am gefnogaeth. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.&nbsp; Mae meddyliau am hunanladdiad yn gyffredin. Mae ymchwil yn awgrymu bod tua 30% o ofalwyr di-d\u00e2l wedi profi meddyliau am hunanladdiad, gydag 1 o bob 10 eisoes wedi ceisio diweddu ei fywyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tystiolaeth bod 5 cam gallwch eu cymryd i wella eich iechyd meddwl a&#8217;ch lles. Ewch i <strong><a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/mental-health\/self-help\/guides-tools-and-activities\/five-steps-to-mental-wellbeing\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.nhs.uk\/mental-health\/self-help\/guides-tools-and-activities\/five-steps-to-mental-wellbeing\/\">www.nhs.uk<\/a> <\/strong>a chwilio am \u20185 steps to mental wellbeing&#8217;. Gall treio&#8217;r 5 peth eich helpu i deimlo&#8217;n fwy positif.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:50%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Siaradwch \u00e2&#8217;ch Meddyg Teulu am sut rydych chi&#8217;n teimlo.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ewch i wefan Talking Therapies <a href=\"http:\/\/www.talkingtherapies.hwhct.nhs.uk\"><strong>www.talkingtherapies.hwhct.nhs.uk<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a dewis 2<strong>.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-top is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:50%\">\n<figure class=\"wp-block-image alignright size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"299\" height=\"405\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Depression_Welsh.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-778\" style=\"width:211px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Depression_Welsh.png 299w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Depression_Welsh-221x300.png 221w\" sizes=\"auto, (max-width: 299px) 100vw, 299px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae elusen y Samariaid yn cynnig cymorth i unrhyw un sy&#8217;n teimlo ar ben ei dennyn. Mae gwasanaeth Cymraeg ar gael rhwng 7yh ac 11yh ar 0808 164 0123, neu gallwch ffonio 116 123 yn rhad ac am ddim, 24 awr y dydd <a href=\"http:\/\/www.samaritans.org\"><strong>www.samaritans.org<\/strong><\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y fideo byr canlynol mae Sue yn siarad yn onest am ei phrofiadau o ofalu am ei g\u0175r. Byddwch yn ymwybodol ei bod yn siarad am hunan-niweidio, y gall rhai pobl ei chael yn ofidus neu&#8217;n sbardun.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Crossing the Line - complex emotions\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/CcTVLSJzSX8?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\">Dychwelyd at frig y dudalen.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"distressW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-14\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Gofid\/Trallod<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Mae hi\u2019n cynhyrfu gymaint pryd bynnag dw i\u2019n ceisio ei helpu hi<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Weithiau, dw i\u2019n meddwl y byddai unrhyw un sy\u2019n clywed yn meddwl mod i\u2019n ceisio ei ladd, yn hytrach na\u2019i helpu i newid ei drowsus<\/em>!\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Beth bynnag dw i\u2019n ei wneud, mae&#8217;n achosi helynt<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n teimlo mor ofnadwy wedyn, dydw i byth yn gwybod os ydw i\u2019n gwneud mwy o ddrwg nag o les<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall cael cymorth gyda gofal personol achosi i rywun gynhyrfu, ac ymateb efo dagrau, pryder, embaras neu gywilydd. Mae gofal personol, fel mae&#8217;r teitl yn awgrymu, yn bersonol. Gall fod yn un o&#8217;r pethau anoddaf pan fydd angen cefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall rhywun \u00e2 dementia gynhyrfu pan fydd rhywun yn ceisio eu helpu. Efallai nad ydynt eisiau ymolchi, gwisgo na mynd i&#8217;r toiled, ar yr union adeg mae&#8217;r gofalwr yn cynnig, a gallant deimlo bod hynny&#8217;n tarfu ar eu cynlluniau. Efallai na fyddant yn deall pam bod help yn cael ei gynnig, na beth sy&#8217;n digwydd, a gall hyn bery gofid, a all yn ei dro achosi straen i chi fel gofalwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-15 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar ddeall pan bod y gofal yn pery gofid<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ceisiwch ddeall beth sy&#8217;n achosi&#8217;r cyffro, ac eglurwch yn glir beth bwriadwch wneud a pham.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall cymryd yr amser i ddeall beth sy&#8217;n poeni&#8217;r unigolyn eich helpu chi i ddeall beth sy&#8217;n eu cynhyrfu. Wedyn gallwch gymryd camau i leihau&#8217;r gofid gymaint \u00e2 phosib i&#8217;r dyfodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Beth tybiwch sy&#8217;n sbarduno&#8217;r cyffro?\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ydi&#8217;r person yn teimlo embaras?<\/li>\n\n\n\n<li>Ydyn nhw&#8217;n anghyfforddus oherwydd y newid yn eich perthynas?<\/li>\n\n\n\n<li>Ydi&#8217;r gofal yn codi atgofion annifyr o&#8217;r gorffennol?<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai bod y person yn teimlo&#8217;n anniogel neu mewn perygl.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau gall person deimlo llai o ofid os mai rhywun o&#8217;r tu allan i&#8217;r teulu sy&#8217;n cynorthwyo efo gofal personol.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch feddwl sut mae&#8217;r person yn gweld pethau.<\/li>\n\n\n\n<li>Oes yna rywbeth ymarferol sy&#8217;n cyffroi y person? Tymheredd yr ystafell, goleuadau disglair, neu adlewyrchiad maen nhw&#8217;n weld yn y drych.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch a yw&#8217;r cyffro yn digwydd ar adegau arbennig o&#8217;r dydd neu mewn sefyllfaoedd penodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall yr un gofal personol gael ei dderbyn yn well ar wahanol adegau o&#8217;r dydd. Yn gyffredinol, mae lefelau egni pobl yn well yn gynharach yn y dydd. Ond mae hyn yn amrywio o un person i&#8217;r llall. Ceisiwch amrywio&#8217;r amser y byddwch yn gwneud y dasg os yw&#8217;r cyffro yn digwydd bob tro.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-16 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar gyfer cefnogi rhywun <strong>sy&#8217;n cyffroi wrth dderbyn gofal<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ystyriwch ydi urddas yr unigolyn yn cael ei barchu? Gall gorchuddio rhan o&#8217;r corff gyda tywel mawr, blanced neu \u0175n nos deimlo&#8217;n gysurus, a hefyd rhoi urddas i rywun.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallwch siarad yn gadarnhaol a chysuro&#8217;r person, a ceisiwch feddwl am bethau allai eu cysuro a&#8217;u tawelu.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai gallai cerddoriaeth, neu ganu gyda&#8217;ch gilydd helpu&#8217;r person ymlacio. Gallai caneuon cyfarwydd helpu- mae casgliad C\u00e2n y G\u00e2n ar gael ar y w\u00ea, ac mae cyngor ar wefan Playlist for Life <a href=\"http:\/\/www.playlistforlife.org.uk\"><strong>www.playlistforlife.org.uk<\/strong><\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Os yw ffydd yn bwysig i&#8217;r person gallai cerddoriaeth grefyddol, emynau, gwedd\u00efau neu ysgrythurau cyfarwydd fod yn gysur.<\/li>\n\n\n\n<li>I berson sydd wedi arfer efo anifeiliaid anwes, gall cael anifail i&#8217;w fwytho fod yn gysurus iawn. Gallech hefyd dreio anifail anwes robotig, tegan meddal, ffabrig, dol, neu ddol HUG. Gallwch gael mwy o wybodaeth yma <strong><a href=\"http:\/\/www.hug.world\" data-type=\"link\" data-id=\"www.hug.world\">www.hug.world<\/a><\/strong><\/li>\n\n\n\n<li>I rai bydd cael p\u00eal feddal i&#8217;w gwasgu yn helpu lleddfu pryder a thensiwn.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae hiwmor yn gallu lleddfu cyffro, os ydych yn adnabod y person yn ddigon da, er, ni fyddai hyn yn addas bob tro &#8211; rhaid defnyddio eich synnwyr cyffredin.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Gofyn am gymorth<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os yw ymateb negyddol y person wedi cychwyn neu gynyddu yn sydyn, efallai bod problem gorfforol i gyfrif. Gyda dementia dwys, mae poen yn aml yn amlygu ei hun drwy ymddygiad anniddig. Siaradwch \u00e2&#8217;ch Meddyg Teulu am adolygiad iechyd corfforol i&#8217;r person.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad iechyd corfforol sy&#8217;n pery&#8217;r broblem, ac mae&#8217;n parhau, gofynnwch i&#8217;r Meddyg Teulu eich cyfeirio at y gwasanaeth iechyd meddwl lleol neu wasanaeth Nyrsio Admiral i chi gael cyngor.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\">Dychwelyd at frig y dudalen.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"guiltW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-17\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Euogrwydd<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n teimlo&#8217;n euog beth bynnag a wna i<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i\u2019n teimlo\u2019n euog am wneud gormod efo mam, a ddim digon i weddill y teulu<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n teimlo\u2019n euog am dreulio amser gyda&#8217;r plant a pheidio gwneud digon i Mam<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n teimlo\u2019n euog os byddai&#8217;n dweud wrth rywun mor anodd yw gofalu am fy ng\u0175r<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i jest eisio iddo fo i gyd orffen, yna dw i\u2019n teimlo mor euog am feddwl hynny<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae euogrwydd yn deimlad cyffredin ymhlith bobl sy&#8217;n gofalu am aelod o&#8217;r teulu neu ffrind \u00e2 dementia. Gall godi am lawer o resymau, a gall fod yn deimlad anodd iawn i ymdopi ag ef, gan ychwanegu at y straen emosiynol o ofalu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda gofal personol, gall gofalwr deimlo&#8217;n euog am beidio cyflawni&#8217;r dasg cystal ag y teimlwch y dylech, neu ddim cystal ag y credwch y byddai&#8217;rperson rydych yn gofalu amdanynt wedi ddymuno. Yn aml bydd gan ofalwr ddisgwyliadau uchel o&#8217;r hyn mae modd ei gyflawni, gan ddweud pethau fel, \u201cByddai&#8217;n cas\u00e1u dod i lawr i fwyta ei frecwast heb siafio gyntaf!\u201d ac felly teimla&#8217;n euog am fethu \u00e2 gwneud hyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall gofalwr hefyd deimlo&#8217;n euog pan fydd angen cael cefnogaeth allanol gyda gofal, neu pan fydd gofalwyr cyflogedig yn cymryd eu lle am y tro cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae teimlo&#8217;n euog yn gallu arwain at iselder a theimlo pethau&#8217;n faich. Gall pethe fynd o ddrwg i waeth wrth i deimladau effeithio ar allu gofalwr i roi gofal, ac wedyn i ofalu amdanyn nhw eu hunain, ac eraill o&#8217;u cwmpas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-18 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong><strong>Syniadau i ddelio ag<\/strong> euogrwydd<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ceisiwch atgoffa&#8217;ch hun eich bod chi&#8217;n gwneud eich gorau mewn sefyllfa anodd.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch feddwl beth fyddai&#8217;r sawl rydych chi&#8217;n gofalu amdanynt yn ei ddweud, pe baen nhw&#8217;n gallu, am y gofal rydych chi&#8217;n gynnig.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn aml rydym yn fwy beirniadol ohonon ni&#8217;n hunain nag ydym o eraill.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth ffrind, pe byddai&#8217;n ysgwyddo&#8217;r un cyfrifoldebau \u00e2 chi. Pa gyngor fyddech chi&#8217;n ei roi i&#8217;ch ffrind?<\/li>\n\n\n\n<li>Gall edrych ar bethau o safbwynt gwahanol eich helpu i werthfawrogi popeth rydych chi&#8217;n ei wneud.<\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd teimladau o euogrwydd yn eich llethu, mae\u2019n hollol iawn i chi geisio cymorth. Peidiwch byth \u00e2 theimlo&#8217;n euog am ofyn am help.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-19 wp-block-paragraph\" style=\"color:#025530\"><strong>Siaradwch gyda ffrind da neu ffoniwch unrhyw un o&#8217;r llinellau cymorth yma: Cymdeithas Alzheimer 03300 947 400; Llinell Gymorth Dementia Cymru 0808 808 2235; Carers Wales 0808 808 7777; Nyrs Admiral Dementia UK 0800 888 6678; Dementia Carers Count 0800 652 1102. Bydd dim byd a ddywedwch yn creu syndod i&#8217;r person fydd yn ateb eich galwad.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\">Dychwelyd at frig y dudalen.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"humourW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-20\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Hiwmo<\/strong>r<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n ceisio gwneud pob tasg mor hwyliog \u00e2 phosibl<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Yn aml, mae&#8217;r ddau ohonom yn cael pyliau o chwerthin pan dwi\u2019n ceisio ei gwisgo hi<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n chwerthin llawer am fy ymdrechion aflwyddiannus i wneud rhywbeth<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hiwmor yn adnodd gwerthfawr, a gall leddfu sefyllfaoedd allai fod yn ffrwydrol. Gellir ei ddefnyddio i helpu gyda tasgau gofal personol, gan greu elfen o hwyl. Pe gallem roi chwerthin mewn potel, byddai&#8217;n foddion heb ei ail! Felly peidiwch ag ofni chwerthin achos mae&#8217;n help i leddfu straen, sy mor gyffredin wrth ofalu.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yn aml mae gan deuluoedd straeon neu ddywediadau doniol. Gall defnyddio rhain wrth ofalu helpu ysgafnhau\u2019r sefyllfa.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch arferiad o chwerthin am eich pen eich hun.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\">Dychwelyd at frig y dudalen.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"relationshipchangesW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-21\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Newid mewn perthynas<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n teimlo\u2019n fwy fel ei fam na\u2019i ferch<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Dw i&#8217;n teimlo\u2019n fwy fel eu tad na\u2019u g\u0175r<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201c<em>Doedd hi byth yn arbennig o dda am ofalu amdana i pan oeddwn i\u2019n fach, ac eto dyma fi&#8217;n mynd \u00e2 hi i\u2019r toiled ac yn ei gwisgo<\/em>\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pob perthynas yn amrywio, a gall newid dros amser. Mae dementia yn ychwanegu deinameg at y newidiadau hyn, all fod yn heriol. Bydd hanes y berthnas, a sut roedd gwrthdaro\u2019n cael ei ddatrys yn y gorffennol yn effeithio ar bethau. Gall hyd yn oed berthnas tymor hir, cryf gael ei effeithio gan ddiagnosis dementia.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall dementia olygu na fydd unigolion sydd wedi cadw agweddau o\u2019u hunaniaeth oddi wrth eu teulu yn gallu (neu eisiau) gwneud hynny mwyach. Weithiau gall dementia arwain at unigolion yn dod allan fel person LHDTC+ yn hwyrach mewn bywyd. Gall hyn beri gofid i\u2019r teulu, partner a pherthnasau, gan olygu eu bod angen cefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-22 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar gyfer siarad am newidiadau mewn perthynas yn gynnar wedi diagnosis o ddementia<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>I rai mae cael diagnosis o ddementia yn drychineb. I eraill, ar \u00f4l y sioc gychwynnol, gall agwedd mwy positif ddatblygu.<\/li>\n\n\n\n<li>Drwy siarad gyda&#8217;ch gilydd yn fuan ar \u00f4l y diagnosis,am yr hyn mae\u2019n olygu i&#8217;r ddau ohonoch, byddwch yn gosod sylfaen dda ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall gofalu am rywun o bell, neu ofalu am rywun yn yr un t\u0177, greu gwahanol heriau yn y berthynas.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall y berthnas gyda\u2019ch cylch ehangach o ffrindiau a theulu fod yn heriol hefyd. Bydd rhai pobl angen help efo\u2019u hymateb a&#8217;u perthynas, yn enwedig os ydyn nhw&#8217;n teimlo dicter a cholled.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Newid i&#8217;ch hunaniaeth<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall fod yn arbennig o anodd pan fydd newid mewn unigolyn \u00e2 dementia yn effeithio ar y cariad neu\u2019r berthynas sydd ganddynt \u00e2&#8217;u gofalwr.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae colli hunaniaeth rhywun fel cariad, ac addasu i r\u00f4l &#8216;person sy\u2019n rhoi gofal&#8217; a \u2018person sy&#8217;n derbyn gofal&#8217; yn newid mawr mewn perthynas.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Yn ymarferol, efallai bydd angen newid rol sylweddol, fel newid yn pwy sy&#8217;n rheoli cyllid, coginio, gyrru car, cofio penblwyddi a chynnal a chadw y cartref.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-23 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Syniadau ar gyfer gofalu amdanoch chi&#8217;ch hun a&#8217;ch am eich gilydd<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae gosod ffiniau ar yr amser a dreuliwch yn gofalu a chael amser i chi&#8217;ch hun yn bwysig.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd sicrhau amser ar gyfer gweithgareddau hwyliog a phleserus, gyda&#8217;ch gilydd ac ar wah\u00e2n, yn cadw&#8217;r berthynas yn gryfach.<\/li>\n\n\n\n<li>Os ydych chi&#8217;n cael traffeth ymdopi am eich bod yn teimlo&#8217;n flinedig neu mewn poen, yna gall fod yn anoddach cynnal perthnas positif, yn enwedig os ydych chi hefyd yn darparu gofal corfforol.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau mae gwahanol bobl yn y teulu yn cynnig gwahanol agweddau ar ofal a chymorth. Gall gwybod pwy sy\u2019n cynnig beth, helpu gyda chynllunio cefnogaeth i&#8217;r unigolyn sy&#8217;n byw gyda dementia.<\/li>\n\n\n\n<li>Nid yw unigedd ac unigrwydd yn llesol i unrhyw berthynas. Bydd cadw cysylltiad gyda chyfeillion, ac adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol newydd ar gyfer y dyfodol, yn gymorth.<\/li>\n\n\n\n<li>Cysylltwch \u00e2 rhwydweithiau cymorth lleol. Holwch am weithgareddau sydd mewn canolfannau lleol ar gyfer pobl sydd yn byw efo dementia a\u2019u gofalwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r berthynas yn chwalu neu os ydych chi&#8217;n teimlo&#8217;n chwerw llawer o&#8217;r amser, peidiwch ag ofni ceisio cymorth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-24 wp-block-paragraph\" style=\"color:#025530\"><strong>Siaradwch amdano gyda ffrind da neu ffoniwch unrhyw un o&#8217;r llinellau cymorth hyn: Cymdeithas Alzheimer 03300 947 400; Llinell Gymorth Dementia Cymru 0808 808 2235; Carers Wales 0808 808 7777; Nyrs Admiral Dementia UK 0800 888 6678; Dementia Carers Count 0800 652 1102. Bydd dim byd a ddywedwch yn creu syndod i&#8217;r person fydd yn ateb eich galwad.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y clip byr canlynol mae Roy yn siarad am ei brofiadau o ofalu am ei wraig, a sut newidiodd eu perthynas.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Crossing the Line - changing relationships\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/lcPI_G6g3yA?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L2topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L2topW\">Dychwelyd at frig y dudalen.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Gall rhoi a derbyn gofal personol arwain at ystod eang o deimladau cymhleth ac annisgwyl. Yn y llyfryn hwn, rydym yn s\u00f4n am ffyrdd cyffredin mae bobl yn ymateb yn emosiynol&nbsp; ac yn cynnig ychydig o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-758","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/758","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=758"}],"version-history":[{"count":135,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/758\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1592,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/758\/revisions\/1592"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=758"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}