{"id":732,"date":"2026-09-01T10:56:22","date_gmt":"2026-09-01T10:56:22","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=732"},"modified":"2026-09-01T10:56:22","modified_gmt":"2026-09-01T10:56:22","slug":"newidiadau-i-amgylchedd-y-cartref-er-mwyn-hwyluso-gofal-personol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/newidiadau-i-amgylchedd-y-cartref-er-mwyn-hwyluso-gofal-personol\/","title":{"rendered":"Newidiadau i amgylchedd y cartref er mwyn hwyluso gofal personol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L5-changes-to-the-house-Wv1.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/L5-changes-to-the-house-Wv1.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Mae newidiadau y gallwch eu gwneud i&#8217;r amgylchedd ffisegol yng nghartref unigolyn a allai wneud gofal personol yn symlach.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Nod addasiadau a newidiadau yn y cartref yw ei gwneud hi&#8217;n haws ac yn fwy diogel i bobl \u00e2 dementia gael mynd a dod a byw yn eu cartref. Mae tystiolaeth gynyddol yn cefnogi&#8217;r farn y gall addasiadau i\u2019r cartref atal cwympiadau, lleihau derbyniadau i&#8217;r ysbyty a lleihau&#8217;r angen am gymorth gyda gofal personol. Gall hyn weithiau olygu na fydd angen symud i ofal preswyl. Gall amgylchedd da yn y cartref wella ansawdd bywyd a llesiant unigolion \u00e2 dementia a&#8217;u teuluoedd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Wrth i anghenion pobl newid dros amser, mae&#8217;n werth treulio amser yn meddwl am ba newidiadau i&#8217;r cartref sy&#8217;n werth yr arian a&#8217;r ymdrech.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\" style=\"color:#050153\"><strong>Gall cyngor gan therapydd galwedigaethol neu\u2019r gwasanaeth cymdeithasol helpu i lunio amserlen yn seiliedig ar eu gwybodaeth am gyflwr yr unigolyn a sut mae hwnnw&#8217;n debygol o ddatblygu. Yn aml, mae gofal personol yn digwydd yn yr ystafell wely a\u2019r ystafell ymolchi felly mae&#8217;n werth canolbwyntio&#8217;n benodol ar y llefydd hyn. Yn y llyfryn hwn rydym yn disgrifio rhai o&#8217;r newidiadau mwyaf defnyddiol.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\" id=\"L5topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#adaptationsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#adaptationsW\">Addasiadau sylweddol a bach i&#8217;r cartref<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#modificationsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#modificationsW\">Addasiadau yn y cartref<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#mirrorsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#mirrorsW\">Drychau ac arwynebau adlewyrchol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#safetyW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#safetyW\">Diogelwch<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#fallsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#fallsW\">Cwympiadau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#bathroomsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#bathroomsW\">Ystafelloedd Ymolchi<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#bedroomsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#bedroomsW\">Ystafelloedd Gwely<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 id=\"adaptationsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-5\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Addasiadau sylweddol a bach i&#8217;r cartref<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae addasiadau sylweddol yn cynnwys gosod cadair drydanol ar y grisiau, system drac ar y nenfwd ar gyfer offer codi, neu ystafell ymolchi en-suite a fyddai\u2019n golygu adeiladu estyniad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae addasiadau bach yn cynnwys pethau fel gosod canllaw yn y cyntedd, ar y grisiau, neu yn yr ystafell ymolchi, rhoi ramp bach yn y fynedfa, neu osod sedd ar y wal y tu mewn i&#8217;r gawod. Gall y rhain amrywio o ran cost ac yn aml bydd yn golygu peth tarfu a gwaith adeiladu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Awgrymiadau ar gyfer gwneud addasiadau i&#8217;r cartref<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall y rhain fod yn werth eu hystyried os oes gan yr unigolyn rydych chi&#8217;n ei gefnogi broblemau symudedd sylweddol yn ogystal \u00e2 dementia.<\/li>\n\n\n\n<li>Os ydych chi&#8217;n gwybod y byddwch chi&#8217;n byw mewn eiddo am nifer o flynyddoedd, mae&#8217;n werth gwneud addasiadau i\u2019r cartref yn gynnar fel y gall yr unigolyn ddod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;r addasiadau newydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae angen i&#8217;r addasiadau weithio i&#8217;r teulu cyfan sy&#8217;n byw yn yr eiddo.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r gost a chael caniat\u00e2d cynllunio yn ffactorau pwysig i\u2019w hystyried er mwyn gwybod pa mor hir y byddai addasiad mawr yn ei gymryd i gwblhau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L5topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"modificationsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-7\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Addasiadau yn y cartref<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r rhain yn cynnwys gwneud newidiadau bach yn y cartref. Fel arfer, mae&#8217;n werth rhoi cynnig arnyn nhw. Maen nhw\u2019n gymharol rad ac os nad ydyn nhw\u2019n gweithio, gellir newid yn \u00f4l yn hawdd. Mae enghreifftiau&#8217;n cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddio lliwiau cyferbyniol cryf ar gyfer eitemau hanfodol i weld gwrthrychau a lleihau dryswch. Er enghraifft dolenni drysau, switshis golau neu seddi toiled.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall defnyddio gwahanol liwiau, arogleuon a goleuadau mewn gwahanol ystafelloedd yn y cartref helpu pobl \u00e2 dementia i wybod lle maen nhw wrth wneud gwahanol weithgareddau dyddiol a chyda gofal personol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall defnyddio lliwiau cynnes a goleuadau gwannach yn yr ystafell wely helpu&#8217;r unigolyn i ymlacio wrth fynd i gysgu.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Gall defnyddio lliwiau llachar a goleuadau llachar yn yr ystafell fyw helpu&#8217;r unigolyn i aros yn effro pan fydd yn gwneud gwahanol weithgareddau a chyda gofal personol.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Mae&#8217;r defnydd priodol o lenni a switshis pylu golau yn helpu i reoli lefelau golau mewn ystafell.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallwch hefyd ddefnyddio y pecyn cymorth i&#8217;ch helpu i asesu pa mor briodol yw amgylchedd y t\u0177 a\u2019r ardd ar gyfer person sydd \u00e2 dementia. Gallwch gael mynediad at y &#8216;Pecyn Cymorth Asesu yr Amgylchedd&#8217; trwy wefan Prifysgol Caerwrangon <strong><a href=\"https:\/\/www.worcester.ac.uk\/about\/academic-schools\/school-of-allied-health-and-community\/allied-health-research\/association-for-dementia-studies\/ads-consultancy\/the-kings-fund-environmental-assessment-tools\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.worcester.ac.uk\/about\/academic-schools\/school-of-allied-health-and-community\/allied-health-research\/association-for-dementia-studies\/ads-consultancy\/the-kings-fund-environmental-assessment-tools\/\">www.worcester.ac.uk\/dementia<\/a><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L5topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"mirrorsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-8\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Drychau ac arwynebau adlewyrchol<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall drychau ac arwynebau adlewyrchol fod yn heriol ar adegau. Gall adlewyrchiad achosi dryswch neu ofid, oherwydd efallai na fydd yr unigolyn yn adnabod ei adlewyrchiad ei hun. Gallai gweld adlewyrchiad&nbsp; gael ei ddehongli fel gweld rhywun dieithr yn yr ystafell wely neu&#8217;r ystafell ymolchi gyda nhw, rhywun na ddylai fod yno.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ystyriwch gael gwared ar ddrychau neu eu gorchuddio mewn mannau lle mae\u2019r unigolyn yn treulio amser.<\/li>\n\n\n\n<li>Canolbwyntiwch ar greu mannau sydd wedi&#8217;u goleuo&#8217;n dda gydag eitemau cyfarwydd a chysurus ynddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yn bosibl, dewiswch ddrysau cypyrddau a lloriau sydd ddim yn sgleiniog.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch yn si\u0175r bod mannau wedi eu goleuo\u2019n dda fel nad oes cysgodion ac i fedru gweld yn well.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L5top\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5top\"><\/a><a href=\"#L5topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"safetyW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-9\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Diogelwch<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i ddementia ddatblygu, mae\u2019n bosibl y bydd rhai pobl yn llai ymwybodol o beryglon yn eu hamgylchedd dyddiol. Bydd mwy o berygl felly o gael niwed gan offer y cartref fel y popty, neu niwed y tu allan i&#8217;r cartref gan draffig. Gallant hefyd fod yn fwy agored i sgamwyr, gwerthwyr diegwyddor, neu f\u00e2n ladron.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rheoli risg yn agwedd anodd ar ofal. Ceisiwch gymorth gan weithwyr proffesiynol ac eraill sydd \u00e2 phrofiad perthnasol, i ddod o hyd i ffyrdd o helpu unigolyn sydd yn derbyn gofal i gynnal ei anibyniaeth a\u2019i alluoedd cymaint \u00e2 phosibl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-10 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Awgrymiadau ar gyfer diogelwch yn y cartr<\/strong>ef<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Siaradwch \u00e2 Th\u00eem Lleol Heddlu i drafod gwneud y cartref yn fwy diogel ac efallai gosod sticeri &#8216;Dim Ymwelwyr heb Wahoddiad&#8217; yn y ffenestri.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall labeli fod yn ddefnyddiol, fel gosod &#8216;peidiwch yfed hwn&#8217; ar \u2018olchydd ceg\u2019, neu gael gwared ar eitemau o&#8217;r fath yn gyfan gwbl os ydych chi&#8217;n meddwl y gellir eu camgymryd am rywbeth diogel i&#8217;w fwyta neu ei yfed.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall hefyd fod yn syniad da rhoi rhai eitemau, fel deunyddiau glanhau, dan glo.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Gall technoleg syml helpu, fel teclyn i ddangos lefel y d\u0175r mewn cwpan, synwyryddion agor drws ar gyfer y drws ffrynt, synwyryddion symudiad, neu glychau drws gyda chamer\u00e2u wedi\u2019u cysylltu i ap ff\u00f4n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L5top\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5top\"><\/a><a href=\"#L5topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"fallsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-11\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Cwympiadau<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I rywun \u00e2 dementia mae cwympo yn un o brif achosion trawma a gorfod mynd i\u2019r ysbyty. Mae gan rai ardaloedd dimau atal cwympiadau cymunedol ac mae\u2019n syniad da cysylltu \u00e2 nhw os yw&#8217;r risg o gwympo yn peri pryder. Mae nifer o bethau y gellir eu gwneud yn ddigon hawdd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>Awgrymiadau ar gyfer lleihau cwympiadau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dylid annog pobl sy&#8217;n gallu symud i wneud hynny. Weithiau rydym yn ceisio annog rhywun i eistedd oherwydd y risg y byddan nhw\u2019n cwympo. Fodd bynnag, gall hyn arwain at golli cryfder yn y coesau a all yn ei dro gynyddu&#8217;r tebygolrwydd y bydd rhywun yn cwympo.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch yn si\u0175r nad yw sliperi ac esgidiau\u2019r unigolyn wedi treulio neu&#8217;n mynd yn rhy lac a&#8217;u bod yn gwbl addas.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch gyflwr y llwybrau y tu allan i&#8217;r t\u0177.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch arwynebedd y lloriau y tu mewn i&#8217;r t\u0177 i wneud yn siwr nad ydyn nhw\u2019n llithrig.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch yn si\u0175r nad yw unrhyw orchuddion ar y llawr yn gallu symud neu godi o\u2019u lle.<\/li>\n\n\n\n<li>Addaswch y golau nos fel ei fod yn hawdd ei gyrraedd o&#8217;r gwely.<\/li>\n\n\n\n<li>Gosodwch loriau gwrthlithro i sicrhau mynediad diogel i&#8217;r ystafell ymolchi.<\/li>\n\n\n\n<li>Gosodwch ddolenni cymorth ar ddrws yr ystafell ymolchi ac wrth ymyl y bath a&#8217;r gawod.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch yn si\u0175r bod canllawiau\u2019r grisiau tu fewn a thu allan i\u2019r t\u0177 yn ddiogel.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L5top\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5top\"><\/a><a href=\"#L5topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"bathroomsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-13\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Ystafelloedd Ymolchi<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y bydd pobl wedi defnyddio nifer fawr o wahanol fathau o ystafelloedd ymolchi yn ystod eu hoes. I&#8217;r rhai sy&#8217;n byw gyda dementia, gall cadw pethau sy&#8217;n gyfarwydd iddyn nhw wneud iddyn nhw deimlo\u2019n fwy cyfforddus. Weithiau gall unigolion fynd yn \u00f4l i&#8217;w harferion ymolchi cynnar wrth i&#8217;w dementia ddatblygu. Er enghraifft, efallai y byddai\u2019n well ganddo ymolchi gan ddefnyddio powlen neu fwced a jwg plastig yn hytrach na chawod.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"440\" height=\"428\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Teeth-cleaning.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-270\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Teeth-cleaning.png 440w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Teeth-cleaning-300x292.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-14 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong><strong>Awgrymiadau ar gyfer gwneud gofal personol yn yr ystafell ymolchi yn haw<\/strong>s<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>I wneud y profiad yn fwy pleserus neu\u2019n fwy derbyniol, ystyriwch ddefnyddio cynhyrchion ac arogleuon y gallai fod yr unigolyn yn fwy cyfarwydd \u00e2 nhw yn y gorffennol, fel sebon Imperial Leather neu hylif Lily of the Valley.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynheswch y lle ymolchi i dymheredd sydd yn gyfforddus iddyn nhw fel nad ydyn nhw\u2019n cael sioc oherwydd ei fod yn rhy boeth neu&#8217;n rhy oer.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall rheiliau tywel sydd yn cael eu gwresogi wneud sychu yn brofiad braf ond gwnewch yn si\u0175r nad ydyn nhw\u2019n rhy boeth neu diffoddwch nhw os oes posibilrwydd y gallai rhywun syrthio yn eu herbyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae rhai pobl yn ffafrio tywel meddal&nbsp;ac eraill dywel garw.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae tywelion mawr yn ddewis da er mwyn parchu urddas rhywun.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch eitemau cyfarwydd lle bo modd, fel loofah neu offer eillio, ond mae\u2019n bosibl arbrofi, gan fod rhai pobl yn medru addasu, a gallech elwa o rywbeth newydd fel rhoi cynnig ar rasel drydan yn hytrach nag eillio gwlyb.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall drychau beri gofid i rai pobl sy&#8217;n byw gyda dementia. Os nad ydyn nhw\u2019n adnabod eu hunain neu os nad ydyn nhw\u2019n hoffi&#8217;r hyn maen nhw&#8217;n ei weld, wyneb sydd yn edrych yn h\u0177n nag oedden nhw yn ei ddisgwyl efallai. Gall defnyddio drysau pren neu len i orchuddio drych, fod yn ddefnyddiol, os oes eu hangen.<\/li>\n\n\n\n<li>Caiff llawer o bobl fudd o dapiau a doleni fflysio y maent yn gyfarwydd \u00e2 nhw, megis tapiau traddodiadaol poeth ac oer ar wah\u00e2n wedi\u2019u marcio \u00e2lliwiau coch a glas (yn hytrach na thapiau cyfun).<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"724\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-724x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-262\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-724x1024.jpeg 724w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-212x300.jpeg 212w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-768x1086.jpeg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-1086x1536.jpeg 1086w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-1448x2048.jpeg 1448w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0334-scaled.jpeg 1810w\" sizes=\"auto, (max-width: 724px) 100vw, 724px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Seddi toiled mewn lliw cyferbyniol cryf fel sedd ddu ar doiled seramig gwyn yw\u2019r dewis gorau.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallwch atal llithro a baglu drwy ddewis matiau bath a chawod gwrth-lithro a chael gwared ar fatiau rhydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai y byddwch am osod clo ar ddrws yr ystafell ymolchi y gellir ei agor o&#8217;r tu allan.<\/li>\n\n\n\n<li>Cofiwch sicrhau fod meddyginiaethau a chynhyrchion glanhau\u2019r cartref neu olchydd ceg dan glo neu o\u2019r golwg.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L5top\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5top\"><\/a><a href=\"#L5topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 id=\"bedroomsW\" class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-15\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong><strong>Ystafelloedd Gwely<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n syniad da sicrhau fod yr ystafell wely mor gyfarwydd \u00e2 phosibl gydag eitemau personol, offer a dodrefn yn cael eu cadw mewn llefydd penodol fel y gellir dod o hyd iddyn nhw yn hawdd. Gall rhoi eitemau yn y lle anghywir neu le annisgwyl achosi pryder a gwneud gwisgo a dadwisgo yn fwy heriol. Weithiau gall hyd yn oed newidiadau bach yn y drefn fod yn ddigon i achosi pryder.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ystyriwch gael gwared ar eitemau diangen, ond dim ond os nad yw&#8217;r newid yn peri pryder i&#8217;r unigolyn \u00e2 dementia.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi\u2019n anodd addasu i drefn newydd fel ystafell arall, gwely gwahanol, neu bresenoldeb\/absenoldeb unigolyn neu bartner, felly gall gymryd peth amser i addasu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"723\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-1024x723.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-149\" style=\"width:379px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-1024x723.jpg 1024w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-300x212.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-768x543.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom.jpg 1124w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-16 wp-block-paragraph\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>Awgrymiadau ar gyfer gwneud gofal personol yn yr ystafell wely yn haws<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall gwneud y gwiriadau arferol yn y nos gyda&#8217;r unigolyn ei helpu i ymdawelu, gan wneud yn si\u0175r bod y drysau a&#8217;r ffenestri wedi&#8217;u cloi, y llenni wedi&#8217;u cau ac ati.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch gau\u2019r llenni cyn iddi dywyllu yn ystod y gaeaf, i leihau\u2019r posibilrwydd o weld adlewyrchiad yn y ffenestri yn ystod y nos a allai achosi pryder.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3a88641f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ystyriwch ddefnyddio cloc er mwyn dangos faint o\u2019r gloch yw hi. Gallech ddefnyddio cloc larwm i helpu&#8217;r unigolyn i wybod pryd mae&#8217;n amser codi.<\/li>\n\n\n\n<li>Gellir gosod y dillad sydd i\u2019w gwisgo yn y bore ar fwrdd neu gadair.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall boreau golau yn yr haf wneud i bobl godi&#8217;n gynharach weithiau, gan eu bod yn meddwl ei bod hi&#8217;n amser codi. Ystyriwch ddefnyddio llenni sydd yn cau golau\u2019n gyfan gwbl i helpu gyda hyn.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"724\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-724x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-283\" style=\"width:170px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-724x1024.jpeg 724w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-212x300.jpeg 212w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-768x1086.jpeg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-1086x1536.jpeg 1086w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-1448x2048.jpeg 1448w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_0331-scaled.jpeg 1810w\" sizes=\"auto, (max-width: 724px) 100vw, 724px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gellir gosod cadair wrth y gwely i helpu sadio rhywun wrth iddyn nhw symud o gwmpas yr ystafell a gallai hefyd fod yn lle mwy addas i eistedd arno er mwyn gwisgo na\u2019r gwely.<\/li>\n\n\n\n<li>Os mai trefn arferol yr unigolyn yw dadwisgo yn yr ystafell wely yna mynd yn ei g\u00f4t nos i&#8217;r ystafell ymolchi, ceisiwch gadw at y drefn hon.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw unigolyn yn arfer gwedd\u00efo yn ei ystafell, gwnewch yn si\u0175r bod ganddo fat gweddi neu leiniau rosari wrth law yn yr ystafell.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch oleuadau nos, gadael golau&#8217;r toiled dros nos, neu osod goleuadau sy&#8217;n sensitif i symudiadau os yw&#8217;n helpu rhywun i fynd o&#8217;r ystafell wely i&#8217;r toiled pan mae&#8217;n dywyll.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"#L5top\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5top\"><\/a><a href=\"#L5topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L5topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Mae newidiadau y gallwch eu gwneud i&#8217;r amgylchedd ffisegol yng nghartref unigolyn a allai wneud gofal personol yn symlach. Nod addasiadau a newidiadau yn y cartref yw ei gwneud hi&#8217;n haws ac yn fwy diogel i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-732","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/732","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=732"}],"version-history":[{"count":48,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/732\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1595,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/732\/revisions\/1595"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=732"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}