{"id":714,"date":"2025-04-25T11:20:36","date_gmt":"2025-04-25T11:20:36","guid":{"rendered":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/?page_id=714"},"modified":"2025-04-25T11:22:50","modified_gmt":"2025-04-25T11:22:50","slug":"cymorth-efo-ymataliaeth-a-defnyddior-toiled","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/cymorth-efo-ymataliaeth-a-defnyddior-toiled\/","title":{"rendered":"Cymorth efo ymataliaeth a defnyddio&#8217;r toiled"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel <a href=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/L8-help-with-the-toilet-v0.4-WELSH.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/L8-help-with-the-toilet-v0.4-WELSH.pdf\">llyfryn y gellir ei argraffu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-a5f5cd398ff51942b6e3ded8d628220a\" style=\"color:#050153\"><strong>Bydd pobl sydd \u00e2 dementia yn aml yn cael problemau o ran rheoli gweithrediad eu pledren (wrin\/piso) a&#8217;u coluddyn (p\u0175\/carthion) rywbryd neu&#8217;i gilydd. Yn aml iawn, gelwir hyn yn ymataliaeth (neu&#8217;n anymataliaeth).<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-10690a047a4903a36f1a49676e3043bc\" style=\"color:#050153\"><strong>Ceir sawl math o&#8217;r cyflwr. Efallai bydd yn gyflwr am gyfnod byr oherwydd problemau \u00e2 iechyd corfforol. Efallai na fydd rhai pobl angen dim mwy na chymorth i ganfod y toiled a gallant ymdopi gyda mymryn o gymorth. Efallai bydd rhai pobl sydd \u00e2 dementia mwy datblygedig yn cael trafferth sylweddol hefo mynd i\u2019r toiled.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-f517c15785ef81d4528262747474ee66\" style=\"color:#050153\"><strong>Trwy gefnogi\u2019r&nbsp; sawl yr ydych yn gofalu amdanynt i allu rheoli eu hymataliaeth mor hir&nbsp; \u00e2 phosibl, byddwch yn helpu i gynnal eu hurddas, eu hymdeimlad o allu rheoli pethau ac ansawdd eu bywyd. I wneud hyn, mae&#8217;n bwysig i chi dreulio amser yn dysgu, cynllunio ac yn canfod beth sydd orau i&#8217;r ddau ohonoch.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-4e2288e44a3a2544e11e58361913094c\" style=\"color:#050153\"><strong>Mae&#8217;r dudalen hon yn darparu canllawiau ac awgrymiadau ymarferol er mwyn cefnogi&#8217;r person gyda&#8217;i anghenion toiled. Er mwyn lleihau&#8217;r risg o ddamweiniau, i\u2019w gysuro a gofalu am ei llesiant.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"832\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bathroom-1024x832.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-143\" style=\"width:420px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bathroom-1024x832.jpg 1024w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bathroom-300x244.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bathroom-768x624.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bathroom.jpg 1270w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p id=\"L8topW\">Mae&#8217;r dudalen hon yn ymdrin \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#establishroutineW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#establishroutineW\">Sefydlwch drefn neu batrwm<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#toilethomeW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#toilethomeW\">Sicrhau ei bod yn haws defnyddio&#8217;r toiled gartref<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#assisttoiletW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#assisttoiletW\">Cynorthwyo unigolyn i ddefnyddio&#8217;r toiled<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#notoiletW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#notoiletW\">Cynorthwyo unigolyn na all ddefnyddio&#8217;r toiled<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#continenceproductsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#continenceproductsW\">Nwyddau ymataliaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#homecontinenceW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#homecontinenceW\">Gofal yn y cartref i ymdopi ag anghenion ymataliaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#toiletoutW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#toiletoutW\">Defnyddio toiledau cyhoeddus<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#fooddrinkW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#fooddrinkW\">Bwyd a Diod i helpu&#8217;r bledren a&#8217;r coluddyn<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#healthconditionsW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#healthconditionsW\">Cyflyrau iechyd cyffredin a allai achosi newidiadau i arferion<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#continencehelpW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#continencehelpW\">Cael cymorth i ymdrin ag anawsterau ymataliaeth<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-fdef7802a045f26a0f1a388d995428fc\" id=\"establishroutineW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Sefydlwch drefn neu batrwm<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd pobl yn aml yn datblygu eu harferion defnyddio&#8217;r toiled yn naturiol yn ystod eu hoes, felly gall deall y patrymau hyn fod yn ddefnyddiol i allu cynnig cymorth effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ceisiwch ddod i adnabod arferion yr unigolyn. A fyddant yn tueddu i ddefnyddio&#8217;r toiled cyn gynted ag y byddant wedi codi yn y bore, ar \u00f4l prydau a phaned, neu cyn mynd i&#8217;r gwely.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall arferion pobl newid yn raddol wrth iddynt heneiddio, ac yn sgil hynny, bydd pobl yn aml yn dweud bod yn rhaid iddynt godi yn ystod y nos i ddefnyddio&#8217;r toiled.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall yfed diod gynnes yn y bore ysgogi&#8217;r angen i bobl fynd i&#8217;r toiled ac efallai bydd hynny&#8217;n ddefnyddiol o ran sefydlu trefn.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall fod yn ddefnyddiol i chi greu amserlen i&#8217;ch atgoffa pryd fydd angen i&#8217;r unigolyn ddefnyddio&#8217;r toiled neu osod larwm awtomatig.<\/li>\n\n\n\n<li>Fodd bynnag, efallai bydd heriau newydd yn codi bob dydd, ac ar brydiau, gall strategaeth sydd wedi llwyddo&#8217;n flaenorol fod yn hollol anaddas ar adegau eraill.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae&#8217;n bosibl y bydd newidiadau sydyn o ran arferion oherwydd salwch corfforol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-089d564ec4db761f391e0b8f1fb0bec5\" id=\"toilethomeW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Sicrhau ei bod yn haws defnyddio&#8217;r toiled gartref<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gellir gwneud nifer o bethau ymarferol i gefniogi&#8217;r unigolyn rydych yn gofalu amdanynt i reoli eu hymataliaeth yn y cartref.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall canfod ble mae&#8217;r toiled neu&#8217;r ystafell ymolchi fod yn heriol i&#8217;r unigolyn sydd \u00e2 dementia, yn enwedig felly os byddwch wedi symud t\u0177.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall arwydd neu lun syml a hollol weladwy ar ddrws y toiled fod yn ddefnyddiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall gadael drws y toiled ar agor fod yn ddefnyddiol hefyd, fel gall yr unigolyn weld y toiled.<\/li>\n\n\n\n<li>Gofalwch nad oes unrhyw annibendod a phethau a allai achosi i rywun faglu ar y ffordd i&#8217;r toiled. Sicrhewch fod digon o olau ar y ffordd yno, i osgoi cwympo\/syrthio, yn enwedig yn ystod y nos.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall dementia effeithio ar allu unigolyn i wahaniaethu rhwng pethau sy&#8217;n edrych yn debyg, e.e. toiledau a basnau ymolchi. Os bydd hynny&#8217;n broblem, gallai defnyddio tywel i orchuddio&#8217;r basn ymolchi pan fydd angen i&#8217;r unigolyn ddefnyddio&#8217;r toiled helpu i atal dryswch.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yn bosibl, defnyddiwch liwiau cyferbyniol i sicrhau y bydd nodweddion allweddol (megis sedd y toiled neu&#8217;r canllawiau) yn fwy gweladwy.<\/li>\n\n\n\n<li>Os fydd yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn dechrau cael traffeth symud neu os byddant yn simsan, gall canllawiau, sedd toiled uwch a matiau atal llithro hwyluso eu gallu i eistedd a chodi o&#8217;u heistedd yn annibynnol ac yn ddiogel.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallai com\u00f4d\/pot pi-pi fod yn ddefnyddiol pan fydd defnyddio&#8217;r toiled yn rhy anodd, yn enwedig yn ystod y nos.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall Therapydd Galwedigaethol gynnig arweiniad yngl\u0177n \u00e2g offer.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae dillad sydd yn haws i\u2019w hagor neu rhai \u00e2 lastig ar y wast yn rhwyddach i\u2019w tynnu i lawr.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch fod papur toiled a weips, ar gael yn hwylus.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch ddefnyddio sebon llaw \u00e2 lliw amlwg i gynorthwyo \u00e2 golchi&#8217;r dwylo ar \u00f4l defnyddio&#8217;r toiled.<\/li>\n\n\n\n<li>Nid yw&#8217;n anghyffredin i unigolion sydd \u00e2 dementia guddio dillad neu ddillad gwely gwlyb neu fudr oherwydd teimlo cywilydd. Cofiwch ymdrin \u00e2&#8217;r sefyllfa yn ystyriol ac yn gydymdeimladwy. Peidiwch \u00e2 mynegi rhwystredigaeth neu feio, oherwydd gall hynny waethygu&#8217;r ymdeimlad o gywilydd neu bryder.<\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn parhau i guddio dillad gwlyb neu fudr, ceisiwch ganfod y rhesymau. Efallai bydd yn ddefnyddiol gofyn i weithiwr proffesiynol gofal iechyd neu arbenigwr ym maes dementia am ragor o arweiniad a chymorth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"723\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-1024x723.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-149\" style=\"width:372px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-1024x723.jpg 1024w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-300x212.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom-768x543.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Bedroom.jpg 1124w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-e55f82fcdc13535193df1be98ba690dc\" id=\"assisttoiletW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Cynorthwyo unigolyn i ddefnyddio&#8217;r toiled<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth i ddementia unigolyn waethygu, efallai bydd dirywiad yn eu gallu i adnabod yr arwyddion corfforol sy&#8217;n awgrymu bod angen iddynt ddefnyddio&#8217;r toiled. Efallai na fydd yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn gallu adnabod ble mae&#8217;r toiled neu efallai na fyddant yn gwybod sut i&#8217;w ddefnyddio. Os bydd hynny&#8217;n digwydd, bydd angen cymorth ychanegol arnynyt gennych chi i ddefnyddio&#8217;r toiled, rheoli damweiniau a sicrhau bod eu croen yn l\u00e2n ac yn sych.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall cyfeirio&#8217;r unigolyn at <strong>Wasanaeth Iechyd y bledren a&#8217;r coluddyn (Ymataliaeth) a gynigir gan y GIG <\/strong>sicrhau asesiad arbenigol a chynllun wedi&#8217;i deilwra. Bydd hynny&#8217;n cynnwys adolygiad o&#8217;r meddyginiaethau mae&#8217;r unigolyn yn eu cymryd rhag ofn eu bod yn gwaethygu&#8217;r anhawster ymataliaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddant hefyd yn cadarnhau os oes rheswm arall dros newid yn ymataliaeth yr unigolyn y gellir ei ddatrys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-4489d0673873c767553a62de6158a074\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>Cynghorion ynghylch helpu rhywun i ddefnyddio&#8217;r toiled<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dewiswch eiriau ac ymadroddion i gyfleu defnyddio&#8217;r toiled sy&#8217;n addas i&#8217;r ddau ohonoch chi. Efallai bydd y rhain yn ymadroddion y mae&#8217;r teulu wedi arfer eu defnyddio, e.e. &#8216;mynd i&#8217;r t\u0177 bach&#8217; neu &#8216;pasio d\u0175r, wedi p\u0175 a chael \u2018eich gweithio&#8217;.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae&#8217;n ddefnyddiol hefyd rhannu cyfarwyddiadau i gamau bach, atgoffa&#8217;n garedig os bydd angen hynny, a siarad yn ddigyffro a chalonogol i osgoi achosi gofid.<\/li>\n\n\n\n<li>Os nad yw&#8217;r unigolyn rydych yn gofalu amdanynt yn gallu cyfleu ar lafar eu angen i ddefnyddio&#8217;r toiled, gwyliwch am arwyddion megis gwingo a chydio mewn dillad.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch am faint y gall rhywun ddal rhwng gwybod eu bod yn dymuno defnyddio&#8217;r toiled a chychwyn gwneud d\u0175r. Gallai hynny sicrhau digon o amser i fynd \u00e2&#8217;r unigolyn i&#8217;r toiled a&#8217;u helpu i dynnu eu dillad. Gall dillad hawdd eu gwisgo a&#8217;u tynnu hefyd fod yn ddefnyddiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch eu hannog i ddal nes byddant yn y lle iawn cyn cychwyn gwneud d\u0175r.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai na fydd rhai pobl yn gallu dal o gwbl. Os fydd hyn yn digwydd, gall sicrhau bod dillad gl\u00e2n ar gael yn hwylus leihau unrhyw deimladau chwithig.<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fyddant yn barod, caniatewch ddigon o amser i&#8217;r unigolyn, heb wneud iddynt deimlo eu bod yn gorfod rhuthro. Efallai bydd angen disgwyl ychydig cyn i bethau gychwyn. Ewch oddi yno am ychydig funudau neu sefwch gerllaw, y tu allan i&#8217;r drws, a dychwelwch pan fyddant yn barod.<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fyddant yn barod, rhowch y papur toiled i&#8217;r unigolyn fel y gallant ddefnyddio faint bynnag fydd yn ofynnol. Efallai bydd angen i chi helpu&#8217;r unigolyn i gychwyn arni.<\/li>\n\n\n\n<li>Weithiau,&nbsp; os bydd angen i chi eu helpu i sychu, gall defnyddio weips fod yn haws na defnyddio papur toiled. Wrth sychu pen \u00f4l yr unigolyn, sychwch o&#8217;r blaen at yn \u00f4l &#8211; bydd hynny&#8217;n helpu i atal heintiau.<\/li>\n\n\n\n<li>Mewn rhai diwylliannau, mae\u2019n arferiad ymolchi ar \u00f4l sychu wrth ddefnyddio&#8217;r toiled. Os mai dyna&#8217;r arferiad yn achos yr unigolyn rydych chi&#8217;n gofalu amdanynt, sicrhewch fod jwg neu botel blastig fechan neu rywbeth tebyg ar gael wrth ochr y toiled &#8211; rhywbeth y gellir ei ddefnyddio&#8217;n rhwydd i arllwys d\u0175r wrth ymolchi ar \u00f4l defnyddio&#8217;r toiled.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae hylendid yn bwysig iawn wrth helpu rhywun i ddefnyddio&#8217;r toiled. Bydd golchi&#8217;r dwylo cyn ac ar \u00f4l defnyddio&#8217;r toiled yn helpu i leihau\u2019r perygl o ddal haint. Efallai bydd yn well gan rai pobl ddefnyddio menig a ffedogau un tro (gellir eu prynu mewn fferyllfeydd neu&nbsp; ar-lein).<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae gwefan DemCon a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Southampton a Choleg y Brenin yn Llundain yn cynnig gwybodaeth i bobl sy&#8217;n byw gyda dementia, ffrindiau a phobl sy&#8217;n gofalu am berthnasau, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr gofal yn y cartref: <strong><a href=\"https:\/\/demcon.org.uk\">https:\/\/demcon.org.uk<\/a><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"886\" height=\"886\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Toilet-help.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-152\" style=\"width:316px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Toilet-help.jpg 886w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Toilet-help-300x300.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Toilet-help-150x150.jpg 150w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Toilet-help-768x768.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 886px) 100vw, 886px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-29cdf91975ccfdcd30b61c7b077ab5cb\" id=\"notoiletW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Cynorthwyo unigolyn na all ddefnyddio&#8217;r toiled<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Efallai na fydd pobl sy&#8217;n byw gyda dementia datblygedig neu rai sydd ag anawsterau eraill yn medru rheoli eu pledren a&#8217;u coluddyn mwyach. Gall gyfeirio&#8217;r unigolyn at <strong>Wasanaeth y&nbsp; Bledren a&#8217;r Coluddyn (Ymataliaeth) a gynigir gan y GIG <\/strong>sicrhau asesiad arbenigol a chynllun wedi&#8217;i deilwra. Bydd cymorth ychwanegol hefyd yn cynnwys sicrhau bod croen yr unigolyn yn l\u00e2n a sych ar \u00f4l defnyddio&#8217;r toiled neu faeddu. Bydd hyn yn neilltuol o bwysig os bydd yr unigolyn yn defnyddio padiau neu ddillad isaf penodol i ymatalaiaeth sydd yn amsugnol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall y cynllun wedi&#8217;i deilwra hefyd gynnwys nwyddau ymataliaeth megis padiau neu ddillad isaf penodol, ac eitemau i ddiogelu gwelyau\/cadeiriau megis matiau amsugnol a chynfasau gwarchodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Dyfeisiwyd y cynhyrchion hyn i gynnal urddas, gan ganiat\u00e1u i\u2019r sawl rydych&nbsp; chi\u2019n gofalu amdanynt barhau i ymwneud \u00e2 gweithgareddau.<\/li>\n\n\n\n<li>Os byddwch chi&#8217;n ysgogi&#8217;r drafodaeth am wisgo nwyddau ymataliaeth, caniatewch yr unigolyn rydych yn eu cynorthwyo i fynegi ystod o ymatebion emosiynol i ddechrau.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch ymateb yn onest ac yn ffeithiol i&#8217;w pryderon penodol. \u201cBydd, mi fydd y padiau yn eich dillad isaf yn teimlo braidd yn drwchus\/gwahanol i ddechrau.\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch fod yn bositif &#8211; gallech ddweud pethau megis \u201cGallwn ni roi cynnig ar badiau \u00e2 meintiau a siapiau gwahanol i weddu i chi. Bydd hynny&#8217;n golygu y gallwn ni fynd am dro mwy hamddenol i&#8217;r siopau gyda&#8217;n gilydd.\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Er mwyn osgoi briwiau a heintiau, golchwch y croen efo d\u0175r a sebon. Os na fydd yr unigolyn yn hoffi teimlo&#8217;r d\u0175r yn cyffwrdd eu croen, rhowch gynnig ar ddefnyddio weips gwlyb neu ewyn (foam) glanhau.<\/li>\n\n\n\n<li>Gellir defnyddio ewyn glanhau a weips gwlyb heb dd\u0175r. Gofynnwch i&#8217;ch fferyllydd am ragor o wybodaeth ynghylch a chynhyrchion addas.<\/li>\n\n\n\n<li>Yna, sychwch y croen yn dyner (peidiwch \u00e2 rhwbio oherwydd gall hynny achosi mwy o niwed i&#8217;r croen).<\/li>\n\n\n\n<li>Ar \u00f4l glanhau, sicrhewch fod croen yr unigolyn yn hollol sych cyn rhoi unrhyw eli neu gynhyrchion ar y croen.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch beidio \u00e2 rhoi gormod oherwydd gall eli trwchus effeithio ar allu&#8217;r padiau i amsugno ac achosi mwy o lid ar y croen.<\/li>\n\n\n\n<li>I waredu padiau wedi&#8217;u defnyddio, dylech eu rhoi mewn bag untro neu gynhwysydd addas a&#8217;u gwaredu cyn gynted ag y gallwch chi. Efallai bydd eich cyngor lleol yn cynnig gwasanaeth casglu.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai bydd yn haws gan rai pobl ddarparu gofal personol tra\u2019n defnyddio menig a ffedogau un tro (gellir eu prynu mewn fferyllfeydd neu ar-lein).<\/li>\n\n\n\n<li>Dylech fonitro faint o dd\u0175r sy&#8217;n cael ei amsugno gan y pad. Os byddwch yn pryderu bod y padiau yn sych yn aml, cysylltwch \u00e2&#8217;ch meddyg teulu er mwyn sicrhau nad yw&#8217;r unigolyn rydych yn gofalu amdanynt yn&nbsp; dadhydredig neu \u00e2 anghenion meddygol eraill y bydd angen sylw.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"614\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-1024x614.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-211\" style=\"width:407px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-1024x614.jpg 1024w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-300x180.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-768x461.jpg 768w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf-1536x922.jpg 1536w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Shelf.jpg 1825w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-3e758b6da48bad6d75e2e51cecb8d92a\" id=\"continenceproductsW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Nwyddau ymataliaeth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gall yr amrywiaeth o gynhyrchion ymataliaeth gwahanol sydd ar gael achosi dryswch oherwydd fod cymaint o nwyddau.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall t\u00eem arbenigol <strong>Iechyd y Bledren a&#8217;r Coluddyn (Ymataliaeth)<\/strong> gynnig arweiniad i chi a&#8217;ch hysbysu a ydych yn gymwys i gael cyflenwadau am ddim wedi eu hariannu gan y GIG. Gallwch ofyn i&#8217;ch meddyg teulu am fanylion eich gwasanaeth ymataliaeth lleol.<\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd yr unigolyn rydych yn eu cynorthwyo yn tynnu padiau budron o&#8217;u dillad isaf yn aml, gallech ystyried prynu nwyddau ymataliaeth sy&#8217;n gweddu&#8217;n well i&#8217;w anghenion, er enghraifft, dillad isaf ymataliaeth mwy sylweddol y gellir eu gwisgo a&#8217;u diosg.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae dillad isaf untro gwisgadwy yn cynnwys deunydd amsugnol ffurfiedig mewnol sylweddol ac ymylon meddal ag elastig i atal gollyngiadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn hytrach na thynnu dillad isaf budron i lawr, gallwch rwygo\u2019r ddwy ochr ger y cluniau a thynnu gan ddefnyddio un symudiad. Gall y nwyddau hyn fod yn fuddiol o ran cynnal urddas ac esmwythdra unigolyn os yw eu hymataliaeth yn anghyson neu&#8217;n anodd ei reoli.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynigir cynhyrchion gan amrywiaeth o frandiau (Boots, TENA ayyb) ac maent yn amrywio o ran eu maint a&#8217;u gallu i amsugno.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae llawer o archfarchnadoedd hefyd yn cynnig nwyddau tebyg yn rhatach.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae sefydliad Bladder &amp; Bowel UK yn cynnig canllaw ymarferol ynghylch padiau ymataliaeth (<strong>www.<\/strong><a href=\"https:\/\/bbuk.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Practical-Guide-to-the-Use-of-Incontinece-Pads.pdf\"><strong>bbuk.org.uk<\/strong><\/a>) ac mae AgeCo yn sefydliad sy&#8217;n ymdrin ag ymataliaeth (<a href=\"https:\/\/www.ageukincontinence.co.uk\/\"><strong>www.ageukincontinence.co.uk<\/strong><\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-987e21e2b9caea1b0213c08f497639ab\" id=\"homecontinenceW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Gofal yn y cartref i ymdopi ag anghenion ymataliaeth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf y cynghorion ymarferol hyn a\u2019r gwahanol ddulliau, efallai bydd yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn gwrthwynebu cymorth. Mae lefel y gofal ymataliaeth hwn yn neilltuol o heriol. Os byddwch yn cael trafferth, mae cymorth ar gael. Ceisiwch gyngor gan Weithwyr a Chyrff Proffesiynol Gofal Iechyd. Gall asiantaethau gofal yn y cartref gynorthwyo \u00e2 hyn. Gall Lwfans Gweini (Attendance Allowance) helpu i dalu am rai o&#8217;r costau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol ar gyfer gofal yn seiliedig ar asesiad unigol o&#8217;ch cyllid. Gofynwch i&#8217;ch gweithiwr cymdeithasol neu awdurdod lleol am wybodaeth pellach.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-54657db1413512461e89daf43637d888\" id=\"toiletoutW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Defnyddio toiledau cyhoeddus<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gall defnyddio toiledau anghyfarwydd achosi straen, oherwydd ar y cyfan nid ydynt wedi&#8217;u llunio wrth ystyried anghenion pobl sydd \u00e2 dementia.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall toliedau yn y canlynol fod yn amgylcheddau anodd: gorsafoedd petrol a chanolfannau garddio (mae trefn llawer o&#8217;r toiledau yn y mannau hyn yn ddryslyd, ac efallai y byddant wedi&#8217;u cuddio tu \u00f4l i arddangosfeydd nwyddau manwerthu a bwyd); toiledau cyhoeddus (mae&#8217;n anodd gwahaniaethu rhwng handlenni drysau, tapiau a pheiriannau sychu dwylo ynddynt); drysau sy&#8217;n agor a chau trwy ddull electronig mewn toiledau cyhoeddus ac ar y trenau; toiledau ysbytai a chanolfannau siopa, sydd efallai \u00e2 mwy nag un mynedfa ac allanfa; toiledau \u00e2 clo sy\u2019n anodd ei ddeall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-background has-link-color wp-elements-681d228bfe12d27c7e2ac3aa3d1026d9\" style=\"color:#ffffff;background-color:#025530\"><strong>Cynghorion tra byddwch o adref<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ceisiwch gynllunio ymlaen llaw. Os byddwch yn ymweld \u00e2 unrhywle am y tro cyntaf, chwiliwch am leoliadau&#8217;r toiledau cyhoeddus: <a href=\"https:\/\/www.toiletmap.org.uk\/\"><strong>www.toiletmap.org.uk<\/strong><\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Byddwch yn ymwybodol o rhyw yr unigolyn a&#8217;r math o doiled cyhoeddus byddant yn fwyaf bodlon eu defnyddio.<\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd angen i chi helpu&#8217;r unigolyn i ddefnyddio&#8217;r toiled, defnyddiwch map Changing Places i weld lleoliadau toiledau hygyrch: <a href=\"https:\/\/www.changing-places.org\/find\"><strong>www.changing-places.org<\/strong><\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Mae goriad\/allwedd Radar wedi&#8217;i lunio&#8217;n benodol i ffitio cloeon y rhan fwyaf o doiledau ar gyfer pobl anabl yn y mwyafrif o ddinasoedd a threfi y DU. Gallwch gael goriad Radar gan Disability Rights UK (<strong>www.<\/strong><a href=\"https:\/\/shop.disabilityrightsuk.org\/products\/radar-key\"><strong>shop.disabilityrightsuk.org<\/strong><\/a>) neu&#8217;r Blue Badge Company (<a href=\"https:\/\/www.bluebadgecompany.co.uk\/collections\/radar-keys-and-keyrings\"><strong>www.bluebadgecompany.co.uk<\/strong><\/a>).<\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd yr unigolyn yn debygol o orfod defnyddio toiled ar frys, gallwch archebu cerdyn \u201cJust Can\u2019t Wait\u201d gan Sefydliad y Bledren a&#8217;r Coluddyn: <a href=\"https:\/\/www.bladderandbowel.org\/help-information\/just-cant-wait-card\/\"><strong>www.bladderandbowel.org<\/strong><\/a>. Bydd hyn yn caniat\u00e1u i chi ddefnyddio unrhyw toiled mewn bwyty neu far heb orfod prynu rhywbeth. <\/li>\n\n\n\n<li>Efallai na fydd rhai pobl yn gallu rhoi mwy nag ychydig eiliadau o rybudd i ddweud bod yn rhaid iddynt &#8216;fynd&#8217;, a gall hynny achosi damweiniau ymataliaeth. Cofiwch y bydd damweiniau yn fwy amlwg os gwisgir dillad \u00e2 lliw golau. Mae&#8217;n syniad da sicrhau bod gennych gyflenwad o ddillad i&#8217;w newid a weips i&#8217;w defnyddio mewn argyfwng.<\/li>\n\n\n\n<li>Wrth ymweld \u00e2 thafarn, caffi neu fwyty newydd, ffoniwch ymlaen llaw a holwch am y toiledau:\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sut fynedfa sydd yna?<\/li>\n\n\n\n<li>A oes un fynedfa\/allanfa yn unig?<\/li>\n\n\n\n<li>A oes drysau, handlenni, tapiau a pheiriannau sychu dwylo traddodiadol yn y toiled? Neu a fydd angen i rywun fynd i&#8217;r toiled gyda&#8217;r unigolyn i gynnig cymorth?<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Gofynnwch am fwrdd ble gellir gweld mynedfa&#8217;r toiledau fel na wnaiff yr unigolyn fynd ar goll.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Os yn bosibl, ewch i&#8217;r toiled i ddechrau ac archwiliwch bopeth, a chofiwch sut fath o glo sydd yno (os bydd yr unigolyn yn methu ag agor y clo, gallwch gynnig arweiniad digyffro iddynt i&#8217;w helpu i ddatgloi&#8217;r drws).&nbsp; Bydd hyn yn osgoi teimladau chwithig, ac yn arbed costau cysylltiedig \u00e2 thynnu&#8217;r drws o&#8217;i le efallai.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-85e644353bbb67e5be503c4352a063eb\" id=\"fooddrinkW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Bwyd a Diod i helpu&#8217;r bledren a&#8217;r coluddyn<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae diet cytbwys ac yfed digon yn hanfodol i sicrhau y gallwn fynd yn rheolaidd ac i leihau&#8217;r perygl o ddal haint wrinol (trafferth pasio d\u0175r). Bydd hynny hefyd yn helpu i gynnal y drefn arferol. I gynorthwyo \u00e2 hynny:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Anogwch hwy i fwyta diet sy&#8217;n cynnwys digonedd o fwydydd llawn ffibr, ffrwythau a llysiau.<\/li>\n\n\n\n<li>Er y bydd hi&#8217;n naturiol i ni ddymuno yfed llai er mwyn ymweld \u00e2&#8217;r toiled yn llai aml, ar y cyfan, anogir pobl i yfed dau litr o hylif bob dydd. Wrth gwrs, bydd hyn yn amrywio rhwng &nbsp;unigolion.<\/li>\n\n\n\n<li>Cofiwch y ceir hylif ym mhob math o ddiodydd ac mewn lolis i\u00e2. Bydd yfed digonedd o hylif yn sicrhau bod y carthion yn feddal ac yn helpu i atal yr unigolyn rhag bod yn rhwym neu dadhydredig.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yn bosib anogwch hwy i gadw&#8217;n heini oherwydd bydd hynny&#8217;n eu helpu i gael eu gweithio&#8217;n rheolaidd.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"820\" height=\"820\" src=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Food.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-158\" srcset=\"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Food.jpg 820w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Food-300x300.jpg 300w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Food-150x150.jpg 150w, https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/Food-768x768.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 820px) 100vw, 820px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-05a1b45951940360f855956e7e71d2e2\" id=\"healthconditionsW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Cyflyrau iechyd cyffredin a allai achosi newidiadau i arferion<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Ceir llawer o broblemau iechyd corfforol sy&#8217;n achosi newidiadau mewn arferion o ran y bledren a&#8217;r coluddyn. Oherwydd problemau cyfathrebu a phroblemau o ran y cof sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 dementia, efallai na fydd yr unigolyn yn gallu cyfleu&#8217;r symptomau yn glir. Gall bod yn ymwybodol o symptomau cyffredin&nbsp; eich cynorthwyo i ofyn am gymorth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhwymedd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwyliwch am arwyddion posibl rhwymedd, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yr unigolyn ddim yn mynd i&#8217;r toiled (o leiaf 3 gwaith yr wythnos neu mynd yn llai aml nag arfer).<\/li>\n\n\n\n<li>Mewn poen neu straen oherwydd rhwymedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Staenio neu faw hylifol. Gall hyn olygu bod baw rhwymedig caled yn uwch i fyny yn y coluddyn, ac yn sgil hynny, bydd baw hylifol yn gollwng o&#8217;i amgylch.<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlo anesmwythdra yn yr abdomen neu&#8217;r bol.<\/li>\n\n\n\n<li>Colli awydd am&nbsp;fwyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn fwy dryslyd neu hwyliau\u2019n gwaethygu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Heintiau yn y llwybr wrinol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwyliwch am arwyddion heintiau yn y llwybr wrinol (UTI) neu heintiau yn y bledren (Systitis neu Llid y bledren). Gall yr arwyddion hynny gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gorfod pasio d\u0175r yn amlach nag arfer, a heb fawr o rybudd.<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlo poen neu llosgi wrth basio d\u0175r.<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlo anesmwythdra yn yr abdomen neu&#8217;r bol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnydd yn eu dryswch, cynnwrf neu yn fwy tawedog.<\/li>\n\n\n\n<li>Symptomau tebyg i&#8217;r ffliw, e.e. gwres, poen a gwayw.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Cyflyrau eraill<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall rhai meddyginiaethau presgripsiwn cyffredin wneud i&#8217;r unigolyn ddymuno pasio d\u0175r yn amlach neu waethygu&#8217;r rhwymedd. Os byddwch yn credu y gallai meddyginiaethau fod yn peri anawsterau, fyddai\u2019n fuddiol trafod hynny \u00e2 meddyg neu fferyllydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall meddyginiaethau fel tabledi haearn hefyd newid lliw ac ansawdd y baw\/carthion. Os na fyddwch chi wedi cael gwybod am hyn ymlaen llaw a rydych yn canfod newidiadau o ran arferion defnyddio&#8217;r toiled pan newidir meddyginiaethau, cysylltwch \u00e2&#8217;ch meddyg i gael gwybod a fydd y newidiadau yn sgil effaith gydnabyddedig neu a fydd angen ymchwilio ymhellach i&#8217;r mater.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall problemau\u2019r prostad (ymhlith dynion) neu lithriad y groth (ymhlith merched) hefyd achosi anawsterau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os byddwch yn pryderu bod yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn amlygu&#8217;r symptomau hyn, cysylltwch \u00e2&#8217;r meddyg teulu neu&#8217;r nyrs gymunedol cyn <strong>gynted ag y gallwch chi.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-color has-background has-link-color wp-elements-9ed7e802108e7d7a66728b44250b9bf3\" id=\"continencehelpW\" style=\"color:#ffffff;background-color:#050153\"><strong>Cael cymorth i ymdrin ag anawsterau ymataliaeth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae llawer o bobl yn teimlo&#8217;n chwithig wrth drafod ymataliaeth. Gallai\u2019r nifer y bobl sydd ag anawsterau ymataliaeth beri syndod. Cofiwch fod llawer o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn medru cynnig cyngor ymarferol, offer a chymhorthion.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Meddygon Teulu:<\/strong> Gallant asesu a chynnig cyngor ynghylch newidiadau o ran iechyd. Gallant gyfeirio pobl am wasanaethau arbenigol y GIG.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwasanaeth Iechyd y Bledren a&#8217;r Coluddyn (Ymataliaeth):<\/strong> Gallant ddarparu asesiadau arbenigol a chynlluniau wedi&#8217;u teilwra ar gyfer pobl sydd ag anghenion ymataliaeth cymhleth a chynnig cyngor ynghylch defnyddio padiau a chymhorthion ymataliaeth.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Seicolegwyr Clinigol:<\/strong> gallant gynnig asesiad niwroseicolegol i asesu deallusrwydd a gallu canfyddiad yr unigolyn. Gallant hefyd eich helpu i ddeall sut gallwch gynorthwyo rhywun sy&#8217;n aml yn rhwystredig. Gall meddyg teulu gyfeirio pobl at y gwasanaeth hwn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Nyrsys Ardal a Chymunedol: <\/strong>Mae llawer o&#8217;r timau hyn yn gysylltiedig \u00e2 meddygfeydd. Gallant gynnig cyngor a thriniaethau ynghylch gofal ymataliaeth i gleifion yn eu cartref.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Nyrs Iechyd Meddwl Gymunedol (weithiau, gelwir hwy yn Nyrsys Seiciatryddol Cymunedol neu CPNs):<\/strong> Nyrsys arbenigol a gyflogir gan y GIG sy&#8217;n cynorthwyo a chynghori pobl sydd \u00e2 dementia ac mae ganddynt sgiliau arbenigol i reoli gofid ac anawsterau. Maent yn gweithio yn y t\u00eem iechyd meddwl cymunedol ar gyfer pobl h\u0177n, sy&#8217;n cynnwys gwasanaeth seiciatreg a seicoleg.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gweithiwr cymdeithasol:<\/strong> Maent yn gweithio yn adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr Awdurdod Lleol ac yn ymdrin \u00e2 phob agwedd ar ofal cymdeithasol. Gallant helpu os bydd arnoch angen cymorth yn y cartref. Byddant yn ymgymryd ag asesiad ariannol er mwyn cynnig cyngor ynghylch costau cymorth o&#8217;r fath. Gallant hefyd gynnig cyngor pan fydd risg o ran diogelwch unigolion sy&#8217;n byw gyda dementia.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Nyrsys Admiral: <\/strong>Maent yn arbenigwyr ym maes gofal a chymorth i bobl a theuluoedd sydd wedi&#8217;u heffeithio gan ddementia. Mae rhai Ymddiriedolaethau&#8217;r GIG yn cynnig gwasanaethau Nyrsys Admiral y gallwch eu ffonio&#8217;n uniongyrchol. Trwy ffonio eu llinell gymorth radff\u00f4n (<strong>0800 888 6678<\/strong>) gallwch gael cymorth gan Nyrsys Admiral ynghylch anawsterau ymataliaeth a dementia.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Therapydd Galwedigaethol (OT):<\/strong> Gallant asesu a chynorthwyo ag offer cyffredinol y gellir eu defnyddio i hwyluso pethau yn y cartref. Maent yn gweithio i&#8217;r GIG neu&#8217;r gwasanaethau cymdeithasol, ac fel arfer, cyfeirir pobl atynt trwy eu meddyg teulu. Mae rhai yn gweithio yn breifat.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ffisiotherapyddion: <\/strong>Gallant asesu a chynorthwyo \u00e2 symud, rheoli poen a chryfder y cyhyrau. Maent yn gweithio i&#8217;r GIG, ac fel arfer, cyfeirir pobl atynt trwy eu meddyg teulu. Mae rhai yn gweithio yn breifat.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Fferyllwyr:<\/strong> Mae&#8217;r mwyafrif yn gweithio mewn Fferyllfeydd ac maent yn arbenigwyr ynghylch a meddyginiaeth. Gallant gynnig cyngor rhad ac am ddim ynghylch y mathau o feddyginiaethau sy&#8217;n debygol o effeithio ar y bledren a&#8217;r coluddyn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-ba08a42b1ec4c560eccaae2da36650aa\" style=\"color:#050153\"><strong>Cewch wybodaeth ychwanegol yn y llawlyfr Grym mewn Gwybodaeth i ofalwyr yng Nghymru (yn Gymraeg) <a href=\"https:\/\/bit.ly\/KIPcarersCYM\">https:\/\/bit.ly\/KIPcarersCYM<\/a> neu<\/strong> <strong><a href=\"https:\/\/bit.ly\/KIPcarersENG\">https:\/\/bit.ly\/KIPcarersENG<\/a> (yn Saesneg).<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-e9da2424899f06d3dfaeec35c3238b89\" style=\"color:#050153\"><strong>I gael cyngor a chymorth, ffoniwch unrhyw un o&#8217;r llinellau cymorth hyn:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-c7f3367550ff6ecb8bdaf25ded0c89cd\" style=\"color:#050153\"><strong>Cymdeithas Alzheimer llinell cymorth yn Gymraeg 03300 947400<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-d5d214a84bacb6b30d69a69a0619846a\" style=\"color:#050153\"><strong>Dementia UK 0800 888 6678<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-dfb9ef3c7b5b18dad06336dfce6853e1\" style=\"color:#050153\"><strong>Llinell gymorth dementia Cymru 08088082235<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-281c980f6cd8645494a2938beea52e3e\" style=\"color:#050153\"><strong>Dementia Carers Count 0800 652 1102<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-9cec829290aab2626a6e9ea556d3a718\" style=\"color:#050153\"><strong>Ni wnaiff unrhyw beth y gwnewch chi ei drafod beri syndod i&#8217;r bobl a wnaiff ateb eich galwad na gwneud iddynt deimlo&#8217;n chwithig.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"#L8topW\" data-type=\"internal\" data-id=\"#L8topW\">Dychwelyd at frig y dudalen<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i&#8217;w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu. Bydd pobl sydd \u00e2 dementia yn aml yn cael problemau o ran rheoli gweithrediad eu pledren (wrin\/piso) a&#8217;u coluddyn (p\u0175\/carthion) rywbryd neu&#8217;i gilydd. Yn aml iawn, gelwir hyn yn ymataliaeth (neu&#8217;n anymataliaeth). Ceir sawl math o&#8217;r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-714","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/714","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=714"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/714\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":725,"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/714\/revisions\/725"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caringhelp.on.worc.ac.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=714"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}