Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i’w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu.
Dros amser, gall dementia effeithio ar allu’r unigolyn i wneud penderfyniadau a dewisiadau’n seiliedig ar wybodaeth. Mae nifer o arferion da, prosesau a chanllawiau cyfreithiol a all helpu â hyn.
Yn y llyfryn hwn, rydym yn disgrifio’r rhai mwyaf cyffredin a sut y gellir eu defnyddio.
“Nid yw’n gallu gwneud penderfyniadau mwyach. Beth yw fy sefyllfa yn gyfreithiol?”
“Mae Mam angen y gofalwyr ond mae hi’n eu hanfon i ffwrdd bob tro! Beth allaf i ei w?”

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:
- Galluedd Meddyliol
- Atwrneiaethau Arhosol (LPA)
- Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw (Datganiadau Ymlaen Llaw)
- Penderfyniadau Ymlaen Llaw a Chyfarwyddebau Ymlaen Llaw (Ewyllys Byw)
- Lwfans Gweini
Galluedd Meddyliol
“Mae ganddi ddementia. Wrth gwrs, nid yw yn gallu gwneud penderfyniadau!”
“Bydd yn rhoi ei holl arian i unrhyw un sydd â stori drist. Sut allaf i ei amddiffyn?”
Nid yw dementia ynddo’i hun yn golygu nad oes gan bobl y gallu i wneud penderfyniadau. Bydd pobl yn dal i allu mynegi eu dewisiadau ynglŷn â gofal personol hyd yn oed pan fydd y dementia wedi datblygu yn ddwys.
Mae penderfyniadau a dewisiadau ynglŷn â beth i’w fwyta neu pryd ddylid ymolchi yn gymharol syml i bobl. Fel gofalwr, efallai na fyddwch chi bob amser yn cytuno â’r dewisiadau hyn, ond dylid parchu penderfyniadau’r unigolyn oni bai bod rheswm da dros beidio.
Wrth gynorthwyo rhywun sy’n byw gyda dementia â gofal personol, efallai, ar adegau, bydd yr unigolyn yn gwrthod gofal y bydd gofalwr yn teimlo sydd er ei lles. Enghraifft o hyn fyddai peidio â chymryd meddyginiaeth neu roi arian i rywun.

Mae rhai penderfyniadau yn llawer anoddach i’w gwneud nag eraill. Gall rhai penderfyniadau arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd a lles, ac efallai na fydd yr unigolyn yn adnabod hyn. Gall pobl â dementia fod yn agored i gamdriniaeth, felly mae’n bwysig iawn cael cyfreithiau sy’n ymdrin â phobl sydd, oherwydd salwch fel dementia, yn methu â gwneud penderfyniadau eu hunain.
Yng Nghymru a Lloegr, llywodraethir hyn gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Yn yr Alban mae hwn yn y “Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000. Yn Ogledd Iwerddon y ddeddf yw: The Mental Capacity Act NI (2016). Mae’r ddeddfwriaeth hon wedi’i hategu gan egwyddorion tebyg i ddiogelu lles, eiddo a chyllid pobl sy’n fregus, gan gynnwys pobl sydd wedi cael diagnosis o dementia.
O dan y deddfau hyn, tybir bod gan unigolyn y gallu i wneud penderfyniadau ei hun oni bai y profir yn wahanol. Mae galluedd yn gysylltiedig â phenderfyniad penodol. Efallai y bydd unigolyn yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â chymryd meddyginiaeth ond efallai na fydd ganddo ddigon o alluedd i wneud penderfyniadau ariannol. Gall galluedd i wneud penderfyniadau penodol newid dros amser.
- Lle bynnag y bo modd, helpwch bobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
- Peidiwch â thrin rhywun fel pe baent heb y gallu i wneud penderfyniadau oherwydd eich bod yn credu bod eu penderfyniad yn annoeth.
Os byddwch chi’n ceisio penderfynu beth sydd er budd gorau’r yr unigolyn, bydd angen i chi ystyried:
- Beth fyddai’r unigolyn wedi dymuno’i weld yn digwydd cyn ei ddementia?
- Bydd gwerthoedd, credoau a dewisiadau’r unigolyn yn bwysig yma.
Os byddwch chi’n credu bod yr unigolyn yn gwneud penderfyniad nad yw er ei budd gorau, gall gweithiwr gofal iechyd neu gymdeithasol proffesiynol gynnal Asesiad Galluedd Meddyliol. Bydd hyn yn ymwneud â mater penodol ar y pryd. Byddant yn asesu gallu yr unigolyn i ddeall y penderfyniad a chofio’r wybodaeth honno, fel y gallant bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision ac yn gallu cyfleu eu penderfyniad. Os bydd y gweithiwr proffesiynol hyfforddedig o farn na fydd gan yr unigolyn alluedd, gellir gwneud penderfyniad ynghylch beth fydd er ei budd gorau yr unigolyn hwnnw. Bydd hynny’n fwy syml os bydd gennych Atwrneiaeth Arhosol fel gofalwr.
Atwrneiaethau Arhosol (LPA)
“A yw’n gyfreithlon i mi wneud penderfyniadau dros yr unigolyn rwy’n gofalu amdano?”
Nid oes unrhyw dybiaeth cyfreithlon y gall priod/partneriaid sifil/perthynas agosaf wneud penderfyniad ar ran rhywun sydd â diagnosis o ddementia. Os na fydd LPA, ymgynghorir â phriod/partneriaid sifil/perthynas agosaf yn aml ynghylch penderfyniadau, ond nid bob tro.
Fodd bynnag, os nad yw unigolyn yn briod neu mewn partneriaeth sifil â phartner hirdymor, mae’n dod yn bwysicach fyth ystyried LPA.
Mae rhoi Atwrneiaethau Arhosol i rywun dros eich materion yn rhoi hawliau penodol iddynt o fewn Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Y ddeddfwriaeth berthnasol yn yr Alban yw Adults with Incapacity (Scotland) Act. Gellir defnyddio LPA Saesneg yn yr Alban, ond mae angen iddynt fod wedi’u cofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer yr Alban. Yn yr un modd, gellir defnyddio Pŵer Atwrnai yr Alban yn Lloegr. Yng Nghymru a Lloegr, ceir 2 fath o LPA a gellir penodi gwahanol bobl i’r ddwy rôl wahanol.
Gellir defnyddio LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol tra bod gan yr unigolyn ddigon o alluedd, â chaniatâd yr unigolyn, fel y gellir rheoli ei gyllid er ei budd gorau.
Ni ddaw LPA ar gyfer iechyd a lles i rym oni ystyrir bod yr unigolyn wedi colli galluedd meddyliol, ac wedyn, gall y gofalwr wneud y mathau hyn o benderfyniadau. Mae’r rhain yn neilltuol o berthnasol i ofal personol.
- Gellir sefydlu a chofrestru’r ddau fath o LPA ar-lein yn https://www.gov.uk/atwrneiaeth
- Mae’n ddogfen gyfreithiol y mae’n rhaid ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, felly bydd llawer o bobl yn dewis gwneud hynny trwy law cyfreithiwr.
- Rhaid i’r sawl sy’n caniatáu LPA fod â digon o Alluedd Meddyliol i ddeall beth y byddant yn ymrwymo iddo ar adeg cyflwyno’r cais.
Os na fydd Atwrneiaeth ar waith a bydd unigolyn yn colli galluedd, bydd llys yn penodi ‘Dirprwy’ yng Nghymru a Lloegr a ‘Gwarcheidwad’ yn yr Alban, mae’r rhaniad rhwng Pŵer Atwrnai Ariannol a Lles yn fras yr un fath, ond defnyddir termau gwahanol.
- Gelwir LPA Eiddo a Chyllid yn Bŵer Atwrnai Parhaus. Gelwir LPA Iechyd a Lles yn Bŵer Atwrnai Lles.
- Mae angen i atwrnai yn yr Alban fod o leiaf 16 oed.
- Yn yr Alban, os nad oes Pŵer Atwrnai ar waith ac mae unigolyn yn colli capasiti, bydd llys yn penodi ‘Gwarcheidwad’ (Dirprwy yng Nghymru a Lloegr). Mae yna hefyd yr opsiwn ar gyfer ‘Gorchymyn Ymyrraeth’ untro
Cewch fwy o wybodaeth ynglyn ar gyfer trigolion yn yr Alban ar y safle we yma: www.publicguardian-scotland.gov.uk
Yng Ngogledd Iwerddon, gellir canfod gwybodaeth am Atwrneiaeth Barhaus (Enduring Power of Attorney) ar wefan Gwasanaethau Llywodraeth NI Direct www.nidirect.gov.uk
Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw (Datganiadau Ymlaen Llaw)
“Nid oes llawer o amser wedi mynd heibio ers cael y diagnosis ond rwy’n poeni am y dyfodol. Beth allaf i ei wneud i baratoi?”
“Sut allaf i wybod beth fydd ei ddymuniadau wrth i’r dementia ddatblygu?”
Mae Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw (ACP) yn broses sy’n cynnwys sgyrsiau am ddymuniadau a dewisiadau ynghylch gofal yn y dyfodol. Er nid ydynt yn gyfreithiol rwymol, gallent helpu gofalwyr i ddeall a pharchu barn unigolyn sydd â dementia os daw adeg pan na fydd yr unigolyn yn gallu cyfathrebu mwyach am y math o gymorth y byddant eisiau ei dderbyn.
Mae rhai pobl yn credu bod ACPs yn berthnasol i ddymuniadau a dewisiadau yn ymwneud â gofal diwedd oes a dim arall. Fodd bynnag, gall ACP hefyd ymwneud â sut yr hoffai’r unigolyn gael ei gynorthwyo â gofynion gofal personol. Nodwyd bod cynllunio gofal ymlaen llaw yn neilltuol o bwysig o ran cynorthwyo pobl LDHTC+ er mwyn sicrhau bod dymuniadau’r unigolyn ynghylch gofal yn cael eu cyflawni mewn ffordd sy’n cadarnhau rhywedd a bod pob agwedd ar hunaniaeth, anghenion a dymuniadau unigolyn yn cael eu hystyried a’u parchu.

Cynghorion ynghylch Cynlluniau/Datganiadau Gofal Ymlaen Llaw
- Gall fanylion ynglŷn a dymuniadau gofal amrywio o person i person. Sicrhewch fod manylion personol yn y cynllun gofal ymlaen llaw ynghyd â dymuniadau a dewisiadau pwysig eraill.
- Trafodwch dros gyfnod â’r unigolyn am beth fyddai’n bwysig i’r ddau ohonoch pe bai’n rhaid i chi gynnig arweiniad ynghylch sut y dylid darparu gofal personol. Gall trafod y gwahaniaeth rhyngoch chi o ran gofal personol eich helpu i sicrhau eich bod yn deall beth yn union yw safbwynt yr unigolyn arall.
- Gall cynnig gwybodaeth am bethau sy’n bwysig i’r unigolyn megis y mathau o bethau ymolchi, y broses glanhau dannedd cyn neu ar ôl bwyta, golchi’r wyneb, golchi ar ôl defnyddio’r tŷ bach, dewis bath neu gawod ac ati wneud gwahaniaeth mawr o ran pa mor hwylus y gellir cyflawni gweithgareddau.
- Gall y sgyrsiau hyn ddigwydd dros fisoedd lawer. Cofnodwch y trafodaethau hyn (naill ai ar bapur neu’n electronig) fel y bydd popeth ar gael yn hwylus i chi pan ddaw’r adeg.
- Gallwch ganfod rhywfaint o dempledi a allai fod yn ddefnyddiol ar nifer o wefannau gan gynnwys www.dementiauk.org/information-and-support/financial-and-legal-support/advance-care-planning/
Penderfyniadau Ymlaen Llaw a Chyfarwyddebau Ymlaen Llaw (Ewyllys Byw)
“Ceir llawer o sôn am benderfyniadau diwedd oes. Sut all pobl â dementia sicrhau bod eu dymuniadau’n cael eu parchu pan na fyddant efallai’n gallu cyfleu eu dymuniadau?”
Mae Penderfyniadau Ymlaen Llaw yn gyfreithiol rwymol ac yn ymwneud yn benodol â phenderfyniadau’r unigolyn ynghylch gwrthod triniaethau cynnal bywyd yn y dyfodol.
Yn yr Alban, cyfeirir at y rhain fel Cyfarwyddebau Uwch ac er nad ydynt yn gyfreithiol rwymol, maent yn dal i gael eu cydnabod yn eang ac yn cael eu defnyddio’n gyffredin i lywio arferion diwedd oes. Fe’u hysgrifennir ar adeg pan fydd gan yr unigolyn ddigon o alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau o’r fath.
Gall fod yn anodd cael trafodaeth am y materion hyn. Os ydych chi’n cynorthwyo rhywun sydd â dementia, mae’n bosibl y gofynnir i chi yn y dyfodol am eu dymuniadau. Os byddwch chi wedi cael y drafodaeth – ac yn enwedig os bydd wedi’i chofnodi mewn dogfen – byddwch chi’n teimlo’n llawer mwy hyderus eich bod chi’n gweithredu eu dymuniadau.
Cynghorion ynghylch Penderfyniadau/Cyfarwyddebau Ymlaen Llaw
Gallai rhai o’r adnoddau isod eich helpu i ddechrau arni:
- Mae sgwrs fideo am gael sgyrsiau anodd ar gael ar www.mariecurie.org.uk
- Mae gwybodaeth ysgrifenedig am ddechrau sgyrsiau a rhestr wirio a allai fod yn ddefnyddiol i deuluoedd ar gael ar www.myfarewelling.com
- Chwiliwch wefan www.hospiceuk.org am Adnoddau Dying Matters ynghylch siarad am farw.
- Mae Good Life, Good Death, Good Grief yn cynnig adnoddau ysgrifenedig a fideo sy’n egluro beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn marw, arwyddion y dylid bod yn ymwybodol ohonynt, sut i gynnal sgyrsiau ac ystyriaethau ymarferol. Gellir eu canfod yma www.goodlifedeathgrief.org.uk
- Os bwriedir iddynt fod yn gyfreithiol rwymol, rhaid i Gyfarwyddebau Ymlaen Llaw gydymffurfio ag amrywiaeth o reolau a rheoliadau.
- Mae’r elusen Compassion on Dying yn cynnig canllawiau ynghylch cwblhau hyn ar-lein www.compassionindying.org.uk
- Bydd llawer o bobl yn dewis gwneud hyn drwy law cyfreithiwr i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith.

Lwfans Gweini
“A oes cyllid ar gael i helpu â gofal personol?”
Os bydd angen cymorth rheolaidd ar unigolyn â gofal personol, byddant yn debygol iawn o fod yn gymwys i gael Lwfans Gweini. Pan fydd rhywun sydd ag anabledd corfforol a/neu feddyliol wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth a bydd arnynt angen cymorth i gyflawni eu harferion beunyddiol, bydd ganddynt hawl i gael arian bob wythnos i gynorthwyo â hynny. Gelwir hyn yn Lwfans Gweini. Mae’n bwysig nodi nad yw’r lwfans hwn yn dibynnu ar brawf modd. Os yw person yn gymwys i gael y lwfans hwn, gallant ei hawlio, beth bynnag fo’u sefyllfa ariannol.
Yng Nghymru a Lloegr
- Ceir dwy haen wahanol o gymorth ariannol. Mae’r haen isaf yn ymwneud ag angen am gymorth yn ystod y dydd neu yn ystod y nos. Mae’r haen uwch yn ymwneud ag angen cymorth yn ystod y dydd ac yn ystod y nos.
- Mae gwybodaeth ar gael drwy’r ffurflen hawlio Lwfans Gweini ar www.gov.uk. Gellir ffonio’r llinell gymorth ar 0800 731 0122.
- Bydd angen i chi lenwi ffurflen hir (gallwch ei lawrlwytho neu gellir ei hanfon atoch chi). Gofynnwch am help i’w llenwi os bydd angen. Gall Age UK ageuk.org.uk a Chyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk/cymraeg gynnig cymorth.
- Wrth ymgeisio am Lwfans Gweini, cofiwch fod yn onest ynglŷn â’r cymorth sydd ei angen. Bydd datgan y gall yr unigolyn wneud pethau na all eu gwneud, yn arwain at beidio â dyfarnu’r lwfans i’r unigolyn.
- Mae gennych hawl gyfreithiol i gael asesiad o’r cymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu yn eich gofalu ac i gefnogi eich lles personol. Cewch fwy o gyngor defnyddiol yn y llawlyfr yma gan ofawyr eraill yng Nghymru www.bangor.ac.uk/cy/dsdc/adnoddau-i-gefnogi-pobl-syn-byw-gyda-dementia-a-gofalwyr
- Mae’n werth gofyn i’r Gwasanaeth Cymdeithasol am Asesiad Anghenion Gofalwyr.
Yng Ngogledd Iwerddon
Mae gwybodaeth am Lwfans Gweini ar gael ar wefan Gwasanaethau Llywodraeth NI Direct www.nidirect.gov.uk
Yn yr Alban
Mae Lwfans Gweini a Phensiynau Personol yn cael eu disodli gan Daliadau Anabledd. Chwiliwch wefan Gov Scot i gael rhagor o wybodaeth www.gov.scot a www.homecare.co.uk

