Cymorth â dannedd a dannedd gosod

Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i’w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu.

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:

  • Defnyddiwch bast dannedd cyfarwydd a brws dannedd mae’n hoffi.
  • Gwnewch yn siŵr bod y rhain o fewn golwg a chyrraedd y basn.
  • Rhowch frws dannedd yr unigolyn, a’r past dannedd (gyda’r caead ar agor efallai) wrth ymyl y basn yn yr ystafell ymolchi.
  • Os yw’r unigolyn yn cael trafferth gwasgu’r past dannedd allan o’r tiwb, yna efallai y byddai’n syniad ei roi ar y brwsh yn barod.
  • Weithiau gall brwsio eich dannedd chi eich hun ar yr un pryd â’r unigolyn rydych chi’n gofalu amdano helpu eu hannog nhw.
  • Pan fydd y dementia yn ei gyfnod cynnar, byddai’n syniad da iawn cofnodi mor fanwl â phosibl beth yw eu harferion o ran gofalu am eu dannedd.
  • Peidiwch â rhuthro – gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o amser a chynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer y dasg.
  • Cyn cychwyn, cymerwch amser i ystyried a meddwl beth fyddai’n gweithio orau i’r ddau ohonoch chi er mwyn hwyluso’r dasg.
  • Os yw’r unigolyn eisoes yn ddig neu’n ofidus ar yr adeg yr ydych chi wedi trefnu helpu brwsio eu dannedd, yna mae’n debyg mai’r peth gorau fyddai gohirio’r gweithgaredd am y tro.
  • Mae ceisio gorfodi rhywun i frwsio ei dannedd yn cynyddu teimladau negyddol ac yn annifyr i bawb. 
  • Er mai glanhau dannedd ar ôl pryd bwyd sydd yn ddelfrydol, dim ond unwaith y dydd mae nifer o bobl yn brwsio eu dannedd.
  • Bydd hi’n haws cysylltu glanhau dannedd ag ymolchi os bydd yn digwydd yn yr ystafell ymolchi.
  • Os na all yr unigolyn fynd i’r ystafell ymolchi, dewch â brws dannedd, past dannedd a dau gwpan (un gyda dŵr) iddyn nhw. Gallent ddefnyddio’r cwpan gyda dŵr ynddo i rinsio’r geg a phoeri i’r cwpan gwag.
  • Mae’n bosibl cael brwsys dannedd meddal sy’n haws gafael ynddyn nhw. Siaradwch â deintydd neu fferyllydd i holi beth sydd ar gael.
  • Rhannwch y dasg o lanhau’r dannedd neu tynnu ddannedd gosod yn gamau bach fydd yn haws eu dilyn.
  • Weithiau mae unigolyn yn teimlo’n bryderus os nad yw’n deall beth sy’n digwydd neu beth i’w ddisgwyl.
  • Ceisiwch egluro beth rydych chi’n mynd i’w wneud, a pham, cyn i chi ddechrau.
  • Defnyddiwch arwyddion fel meimio ystumiau dwylo a dangoswch pa gynhyrchion neu offer rydych chi’n mynd i’w defnyddio.
  • Nid oes angen golchi past dannedd o’r geg ar ôl brwsio os nad yw’r unigolyn eisiau gwneud hynny.
  • Gall defnyddio hiwmor lle bo modd helpu gadw pethau’n ysgafn, lleihau chwithdod a thensiwn, a gwneud i rywun deimlo’n gyfforddus hefyd.
  • Gwnewch rywbeth sydd yn bleserus i’r unigolyn rydych chi’n gofalu amdano ar ôl y gweithgaredd, rhywbeth i edrych ymlaen ato. Soniwch am hyn wrth i chi sgwrsio yn ystod y gweithgaredd er mwyn troi’r ffocws i’r hyn sydd i ddod.

Yn y clip byr canlynol, mae Paul yn rhannu ei brofiadau o helpu ei wraig Jill i lanhau ei dannedd. Mae gan Jill Atroffi Cortical Posterior ac mae ganddi anawsterau gydag ymwybyddiaeth visio-ofodol. Sylwch nad yw’r clip hwn yn cymeradwyo unrhyw gynhyrchion penodol, ond yn dangos beth sy’n gweithio i Paul a’i wraig yn eu sefyllfa.

Dychwelyd at frig y dudalen

Mae llawer o’r awgrymiadau sy’n berthnasol i ofal dannedd hefyd yn berthnasol i ofal dannedd gosod. Bydd ceg yr unigolyn yn llawer mwy cyfforddus os caiff y dannedd gosod eu tynnu a’u glanhau’n rheolaidd.

  • Anogwch yr unigolyn i dynnu eu dannedd gosod fel rhan o’i drefn dyddiol.
  • Anogwch nhw i rinsio eu ceg a glanhau o gwmpas y deintgig.
  • Os na allant wneud hyn eu hunain, yna efallai y byddan nhw’n gadael i chi ei wneud drostyn nhw. Efallai y byddai’n well gennych chi ddefnyddio menig (neu orchudd bys) i wneud hyn.
  • Glanhewch y dannedd gosod yn drylwyr. Socian nhw dros nos fyddai orau ond os yw’r unigolyn eisiau nhw’n ôl yn eu ceg, yna mae hynny’n iawn.
  • Mae llawer o bobl yn gwisgo eu dannedd gosod pan fyddan nhw’n cysgu.

Dychwelyd at frig y dudalen

  • Gall pobl fod yn bryderus ynghylch ymweld â’r deintydd.
  • Mae gan lawer o ddeintyddion brofiad o drin cleifion â dementia erbyn hyn.
  • Holwch eich deintydd os ydyn nhw’n medru trin pobl â’r mathau o heriau a all ddod â dementia, ac os oes ganddyn nhw unrhyw gyngor i chi.
  • Os nad yw ymweld â phractis deintyddol arferol yn ymarferol, mae mwy o wasanaethau deintyddol cymunedol arbenigol ar gae. Sef gwasanaethau ysbyty, clinigau symudol yn y gymuned, a deintyddion sy’n gwneud ymweliadau â’r cartref. Siaradwch â’ch meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol neu’r awdurdod lleol am yr hyn sydd ar gael.

Dychwelyd at frig y dudalen

Mae rhai o’r gwefannau hyn yn cynnig cyngor pellach:

Dychwelyd at frig y dudalen