Newidiadau i amgylchedd y cartref er mwyn hwyluso gofal personol

Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i’w lawr lwytho fel llyfryn y gellir ei argraffu.

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:

Mae addasiadau sylweddol yn cynnwys gosod cadair drydanol ar y grisiau, system drac ar y nenfwd ar gyfer offer codi, neu ystafell ymolchi en-suite a fyddai’n golygu adeiladu estyniad.

Mae addasiadau bach yn cynnwys pethau fel gosod canllaw yn y cyntedd, ar y grisiau, neu yn yr ystafell ymolchi, rhoi ramp bach yn y fynedfa, neu osod sedd ar y wal y tu mewn i’r gawod. Gall y rhain amrywio o ran cost ac yn aml bydd yn golygu peth tarfu a gwaith adeiladu.

  • Gall y rhain fod yn werth eu hystyried os oes gan yr unigolyn rydych chi’n ei gefnogi broblemau symudedd sylweddol yn ogystal â dementia.
  • Os ydych chi’n gwybod y byddwch chi’n byw mewn eiddo am nifer o flynyddoedd, mae’n werth gwneud addasiadau i’r cartref yn gynnar fel y gall yr unigolyn ddod yn gyfarwydd â’r addasiadau newydd.
  • Mae angen i’r addasiadau weithio i’r teulu cyfan sy’n byw yn yr eiddo.
  • Mae’r gost a chael caniatâd cynllunio yn ffactorau pwysig i’w hystyried er mwyn gwybod pa mor hir y byddai addasiad mawr yn ei gymryd i gwblhau.

Dychwelyd at frig y dudalen

Mae’r rhain yn cynnwys gwneud newidiadau bach yn y cartref. Fel arfer, mae’n werth rhoi cynnig arnyn nhw. Maen nhw’n gymharol rad ac os nad ydyn nhw’n gweithio, gellir newid yn ôl yn hawdd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Defnyddio lliwiau cyferbyniol cryf ar gyfer eitemau hanfodol i weld gwrthrychau a lleihau dryswch. Er enghraifft dolenni drysau, switshis golau neu seddi toiled.
  • Gall defnyddio gwahanol liwiau, arogleuon a goleuadau mewn gwahanol ystafelloedd yn y cartref helpu pobl â dementia i wybod lle maen nhw wrth wneud gwahanol weithgareddau dyddiol a chyda gofal personol.
  • Gall defnyddio lliwiau cynnes a goleuadau gwannach yn yr ystafell wely helpu’r unigolyn i ymlacio wrth fynd i gysgu. 
  • Gall defnyddio lliwiau llachar a goleuadau llachar yn yr ystafell fyw helpu’r unigolyn i aros yn effro pan fydd yn gwneud gwahanol weithgareddau a chyda gofal personol. 
  • Mae’r defnydd priodol o lenni a switshis pylu golau yn helpu i reoli lefelau golau mewn ystafell.
  • Gallwch hefyd ddefnyddio y pecyn cymorth i’ch helpu i asesu pa mor briodol yw amgylchedd y tŷ a’r ardd ar gyfer person sydd â dementia. Gallwch gael mynediad at y ‘Pecyn Cymorth Asesu yr Amgylchedd’ trwy wefan Prifysgol Caerwrangon www.worcester.ac.uk/dementia

Dychwelyd at frig y dudalen

Gall drychau ac arwynebau adlewyrchol fod yn heriol ar adegau. Gall adlewyrchiad achosi dryswch neu ofid, oherwydd efallai na fydd yr unigolyn yn adnabod ei adlewyrchiad ei hun. Gallai gweld adlewyrchiad  gael ei ddehongli fel gweld rhywun dieithr yn yr ystafell wely neu’r ystafell ymolchi gyda nhw, rhywun na ddylai fod yno.

  • Ystyriwch gael gwared ar ddrychau neu eu gorchuddio mewn mannau lle mae’r unigolyn yn treulio amser.
  • Canolbwyntiwch ar greu mannau sydd wedi’u goleuo’n dda gydag eitemau cyfarwydd a chysurus ynddyn nhw.
  • Os yn bosibl, dewiswch ddrysau cypyrddau a lloriau sydd ddim yn sgleiniog.
  • Gwnewch yn siŵr bod mannau wedi eu goleuo’n dda fel nad oes cysgodion ac i fedru gweld yn well.

Dychwelyd at frig y dudalen

Wrth i ddementia ddatblygu, mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn llai ymwybodol o beryglon yn eu hamgylchedd dyddiol. Bydd mwy o berygl felly o gael niwed gan offer y cartref fel y popty, neu niwed y tu allan i’r cartref gan draffig. Gallant hefyd fod yn fwy agored i sgamwyr, gwerthwyr diegwyddor, neu fân ladron.

Mae rheoli risg yn agwedd anodd ar ofal. Ceisiwch gymorth gan weithwyr proffesiynol ac eraill sydd â phrofiad perthnasol, i ddod o hyd i ffyrdd o helpu unigolyn sydd yn derbyn gofal i gynnal ei anibyniaeth a’i alluoedd cymaint â phosibl.

  • Siaradwch â Thîm Lleol Heddlu i drafod gwneud y cartref yn fwy diogel ac efallai gosod sticeri ‘Dim Ymwelwyr heb Wahoddiad’ yn y ffenestri.
  • Gall labeli fod yn ddefnyddiol, fel gosod ‘peidiwch yfed hwn’ ar ‘olchydd ceg’, neu gael gwared ar eitemau o’r fath yn gyfan gwbl os ydych chi’n meddwl y gellir eu camgymryd am rywbeth diogel i’w fwyta neu ei yfed.
  • Gall hefyd fod yn syniad da rhoi rhai eitemau, fel deunyddiau glanhau, dan glo. 
  • Gall technoleg syml helpu, fel teclyn i ddangos lefel y dŵr mewn cwpan, synwyryddion agor drws ar gyfer y drws ffrynt, synwyryddion symudiad, neu glychau drws gyda chamerâu wedi’u cysylltu i ap ffôn

Dychwelyd at frig y dudalen

I rywun â dementia mae cwympo yn un o brif achosion trawma a gorfod mynd i’r ysbyty. Mae gan rai ardaloedd dimau atal cwympiadau cymunedol ac mae’n syniad da cysylltu â nhw os yw’r risg o gwympo yn peri pryder. Mae nifer o bethau y gellir eu gwneud yn ddigon hawdd.

  • Dylid annog pobl sy’n gallu symud i wneud hynny. Weithiau rydym yn ceisio annog rhywun i eistedd oherwydd y risg y byddan nhw’n cwympo. Fodd bynnag, gall hyn arwain at golli cryfder yn y coesau a all yn ei dro gynyddu’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn cwympo.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw sliperi ac esgidiau’r unigolyn wedi treulio neu’n mynd yn rhy lac a’u bod yn gwbl addas.
  • Gwiriwch gyflwr y llwybrau y tu allan i’r tŷ.
  • Gwiriwch arwynebedd y lloriau y tu mewn i’r tŷ i wneud yn siwr nad ydyn nhw’n llithrig.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw orchuddion ar y llawr yn gallu symud neu godi o’u lle.
  • Addaswch y golau nos fel ei fod yn hawdd ei gyrraedd o’r gwely.
  • Gosodwch loriau gwrthlithro i sicrhau mynediad diogel i’r ystafell ymolchi.
  • Gosodwch ddolenni cymorth ar ddrws yr ystafell ymolchi ac wrth ymyl y bath a’r gawod.
  • Gwnewch yn siŵr bod canllawiau’r grisiau tu fewn a thu allan i’r tŷ yn ddiogel.

Dychwelyd at frig y dudalen

Efallai y bydd pobl wedi defnyddio nifer fawr o wahanol fathau o ystafelloedd ymolchi yn ystod eu hoes. I’r rhai sy’n byw gyda dementia, gall cadw pethau sy’n gyfarwydd iddyn nhw wneud iddyn nhw deimlo’n fwy cyfforddus. Weithiau gall unigolion fynd yn ôl i’w harferion ymolchi cynnar wrth i’w dementia ddatblygu. Er enghraifft, efallai y byddai’n well ganddo ymolchi gan ddefnyddio powlen neu fwced a jwg plastig yn hytrach na chawod.

  • I wneud y profiad yn fwy pleserus neu’n fwy derbyniol, ystyriwch ddefnyddio cynhyrchion ac arogleuon y gallai fod yr unigolyn yn fwy cyfarwydd â nhw yn y gorffennol, fel sebon Imperial Leather neu hylif Lily of the Valley.
  • Cynheswch y lle ymolchi i dymheredd sydd yn gyfforddus iddyn nhw fel nad ydyn nhw’n cael sioc oherwydd ei fod yn rhy boeth neu’n rhy oer.
  • Gall rheiliau tywel sydd yn cael eu gwresogi wneud sychu yn brofiad braf ond gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n rhy boeth neu diffoddwch nhw os oes posibilrwydd y gallai rhywun syrthio yn eu herbyn.
  • Mae rhai pobl yn ffafrio tywel meddal ac eraill dywel garw.
  • Mae tywelion mawr yn ddewis da er mwyn parchu urddas rhywun.
  • Defnyddiwch eitemau cyfarwydd lle bo modd, fel loofah neu offer eillio, ond mae’n bosibl arbrofi, gan fod rhai pobl yn medru addasu, a gallech elwa o rywbeth newydd fel rhoi cynnig ar rasel drydan yn hytrach nag eillio gwlyb.
  • Gall drychau beri gofid i rai pobl sy’n byw gyda dementia. Os nad ydyn nhw’n adnabod eu hunain neu os nad ydyn nhw’n hoffi’r hyn maen nhw’n ei weld, wyneb sydd yn edrych yn hŷn nag oedden nhw yn ei ddisgwyl efallai. Gall defnyddio drysau pren neu len i orchuddio drych, fod yn ddefnyddiol, os oes eu hangen.
  • Caiff llawer o bobl fudd o dapiau a doleni fflysio y maent yn gyfarwydd â nhw, megis tapiau traddodiadaol poeth ac oer ar wahân wedi’u marcio âlliwiau coch a glas (yn hytrach na thapiau cyfun).
  • Seddi toiled mewn lliw cyferbyniol cryf fel sedd ddu ar doiled seramig gwyn yw’r dewis gorau.
  • Gallwch atal llithro a baglu drwy ddewis matiau bath a chawod gwrth-lithro a chael gwared ar fatiau rhydd.
  • Efallai y byddwch am osod clo ar ddrws yr ystafell ymolchi y gellir ei agor o’r tu allan.
  • Cofiwch sicrhau fod meddyginiaethau a chynhyrchion glanhau’r cartref neu olchydd ceg dan glo neu o’r golwg.

Dychwelyd at frig y dudalen

Mae’n syniad da sicrhau fod yr ystafell wely mor gyfarwydd â phosibl gydag eitemau personol, offer a dodrefn yn cael eu cadw mewn llefydd penodol fel y gellir dod o hyd iddyn nhw yn hawdd. Gall rhoi eitemau yn y lle anghywir neu le annisgwyl achosi pryder a gwneud gwisgo a dadwisgo yn fwy heriol. Weithiau gall hyd yn oed newidiadau bach yn y drefn fod yn ddigon i achosi pryder.

Ystyriwch gael gwared ar eitemau diangen, ond dim ond os nad yw’r newid yn peri pryder i’r unigolyn â dementia.

Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi’n anodd addasu i drefn newydd fel ystafell arall, gwely gwahanol, neu bresenoldeb/absenoldeb unigolyn neu bartner, felly gall gymryd peth amser i addasu.

  • Gall gwneud y gwiriadau arferol yn y nos gyda’r unigolyn ei helpu i ymdawelu, gan wneud yn siŵr bod y drysau a’r ffenestri wedi’u cloi, y llenni wedi’u cau ac ati.
  • Ystyriwch gau’r llenni cyn iddi dywyllu yn ystod y gaeaf, i leihau’r posibilrwydd o weld adlewyrchiad yn y ffenestri yn ystod y nos a allai achosi pryder.
  • Ystyriwch ddefnyddio cloc er mwyn dangos faint o’r gloch yw hi. Gallech ddefnyddio cloc larwm i helpu’r unigolyn i wybod pryd mae’n amser codi.
  • Gellir gosod y dillad sydd i’w gwisgo yn y bore ar fwrdd neu gadair.
  • Gall boreau golau yn yr haf wneud i bobl godi’n gynharach weithiau, gan eu bod yn meddwl ei bod hi’n amser codi. Ystyriwch ddefnyddio llenni sydd yn cau golau’n gyfan gwbl i helpu gyda hyn.
  • Gellir gosod cadair wrth y gwely i helpu sadio rhywun wrth iddyn nhw symud o gwmpas yr ystafell a gallai hefyd fod yn lle mwy addas i eistedd arno er mwyn gwisgo na’r gwely.
  • Os mai trefn arferol yr unigolyn yw dadwisgo yn yr ystafell wely yna mynd yn ei gôt nos i’r ystafell ymolchi, ceisiwch gadw at y drefn hon.      
  • Os yw unigolyn yn arfer gweddïo yn ei ystafell, gwnewch yn siŵr bod ganddo fat gweddi neu leiniau rosari wrth law yn yr ystafell.
  • Ystyriwch oleuadau nos, gadael golau’r toiled dros nos, neu osod goleuadau sy’n sensitif i symudiadau os yw’n helpu rhywun i fynd o’r ystafell wely i’r toiled pan mae’n dywyll.

Dychwelyd at frig y dudalen